Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r aelodau am
farwolaeth y Cynghorydd Sheila Penry, a oedd yn aelod o'r pwyllgor hwn ac yn
gyn-aelod o Bwyllgor y Strydlun. Cynhaliodd
yr aelodau funud o ddistawrwydd fel arwydd o barch. Nododd y Cadeirydd y byddai
gan aelodau gyfle i dalu teyrnged i'r Cyng. Penry yn ystod y cyfarfod Cyngor
Llawn nesaf. Nododd y Cadeirydd mewn perthynas ag eitem 3 fod swyddogion wedi nodi y bydd yr eitemau a restrir fel ENV 21, 22 a 23 yn cael eu hystyried o dan y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nododd y Cyng. Tim Bowen fod
ganddo fuddiant personol ag Atodiad 4, Cyfeirnod ENV7, gan fod ei wraig
yn gweithio i Barc Gwledig y Gnoll. |
|
Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2024/25 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2024/25 Ystyriodd yr Aelodau Adroddiad Ymgynghoriad ar
Gyllideb 2024/25 fel y'i cyflwynwyd. Amlinellodd y Cadeirydd y byddai'r sylwadau o’r
cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad ar y gyllideb.
Atgoffwyd yr aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y
gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad
ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn
gynted â phosib. Atgoffwyd yr aelodau y dylent ystyried yr elfennau
o'r gyllideb sy'n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor craffu hwn. Rhoddodd Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd,
drosolwg byr o'r cynigion cyffredinol fel y'u rhestrir yn Adroddiad
Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 ac esboniodd y sefyllfa anodd y mae'r
gyfarwyddiaeth yn ei hwynebu mewn perthynas â chyflawni cyllideb gytbwys. Cynghorwyd aelodau bod swyddogion wedi ceisio
lleihau costau a chael sicrwydd yn gyntaf drwy arbedion ac yna, ar gyfer y
rheini nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y cynigion arbedion strategol hynny,
byddai swyddogion yn mynd trwy'r holl gynigion fesul llinell fel y'i nodir yn
Atodiad 4. ENV1 Gofynnodd aelodau a yw'r awdurdod yn cyfathrebu â
swyddogion cynllunio i nodi cyfleoedd i gynyddu gwerth trwy werthu adeiladau a
thir yr awdurdod gyda chaniatâd cynllunio. Cynghorodd aelodau pe byddai gan y tir neu'r
adeiladau ganiatâd cynllunio ar gyfer defnydd amgen, yna bydd yn cynyddu'r pris
y gall yr awdurdod ei sicrhau ar gyfer yr ased hwnnw. Dyma rywbeth y bydd
swyddogion bob tro'n ei wneud, ond mae cyfyngiadau'n berthnasol i rai
adeiladau, fel bod ar orlifdir. Nododd swyddogion bod aelodau wedi cyfeirio at
Gynlluniau Addasu a Chadernid Cymunedol (CARPs) mewn cwestiwn a gyflwynwyd cyn
y cyfarfod i swyddogion ynghylch hyn. Cynghorwyd aelodau nad yw CARPs yn eich
galluogi i wneud yr hyn rydych chi am ei wneud oherwydd bod gennych y cyfle i
wneud y rheini. Byddai angen i swyddogion liniaru effaith llifogydd o hyd, a
bydd mathau o ddefnydd ni ellir eu gosod mewn gorlifdir o hyd, hyd yn oed os
oes gennych CARP ar waith. Nododd swyddogion pan fyddant yn barod i ryddhau adeilad
neu dir, byddant yn nodi'r defnydd gorau ar gyfer y safle hwnnw a'r hyn y
gallant gael caniatâd cynllunio ar ei gyfer, a fydd yn darparu'r cymorth gorau
ar gyfer y gymuned a'r economi ac o bosib ar gyfer gofynion tai'r cyngor a'r
gyllideb. Ystyrir y rhain er mwyn gwneud y penderfyniad cywir
ar gyfer y cyngor ar y pryd yn seiliedig ar y materion hynny. ENV4 Gofynnodd aelodau am yr arbediad o £185,000 a
restrir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar y cymhorthdal gweithredu, a
gofynnodd aelodau pa elfennau eraill sy'n rhan o'r arbediad ar wahân i
ddiogelwch neu incwm dros y flwyddyn ariannol nesaf. Esboniodd swyddogion bod costau yswiriant a diogelwch uchel yno, a swyddogion diogelwch yw'r rhan fwyaf o'r gost honno. Y rheswm am hyn yw'r bygythiadau sydd wedi digwydd yno, gan gynnwys achos o fygwth swyddog diogelwch gyda machete, a oedd yn golygu y byddai swyddogion diogelwch ond ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |