Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nododd
y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr eitemau
canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet: Eitem
5: Grant Eiddo Masnachol: 14 Stryd y Berllan, Castell-nedd (Tudalennau 3 - 16) Eitem 6: Adroddiad Adolygu Opsiynau Parcio 2023 (Tudalennau 17 - 52) |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dethol eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (cynhwysir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Grant
Eiddo Masnachol: 14 Stryd y Berllan, Castell-nedd Holodd
yr aelodau a oedd tenant wedi ei sicrhau ar gyfer yr adeilad. Dywedodd
swyddogion y cafwyd diddordeb, ond mae cyflwr yr adeilad yn golygu na all
unrhyw un fynd i mewn nes iddo gael ei adnewyddu. Mae swyddogion yn ei ystyried
yn adeilad pwysig mewn perthynas â Neuadd Gwyn. Holodd
yr aelodau hefyd am berchnogaeth yr adeilad. Dywedodd swyddogion nad yw'r
berchnogaeth wedi'i chynnwys yn yr adroddiad, ond gall swyddogion gynghori
aelodau y tu allan i'r cyfarfod. Mynegodd
yr aelodau eu canmoliaeth hefyd i'r tîm a oedd yn rhan o gyflwyno'r cynllun hwn
gan y bydd yn gwella'r ardal. Yn
dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan
Fwrdd y Cabinet. Adroddiad
Adolygu Opsiynau Parcio 2023 Diolchodd
Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd i'r
Cadeirydd am y gwahoddiad i'r cyfarfod a dywedodd ei fod ef a'r swyddogion yn
hapus i ateb unrhyw gwestiynau. Rhoddodd
y Cadeirydd drosolwg byr a chronoleg o'r grŵp tasg a gorffen a'r adroddiad
gerbron y pwyllgor gan ddilyn argymhellion adroddiad y swyddogion tasg a
gorffen. Amlygodd
yr aelodau, yng ngham cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig (AEI) mae'n nodi nad
oes angen cam pellach oherwydd defnyddwyr meysydd parcio yn unig sy'n cael eu
heffeithio. Dywedodd
yr aelodau, gan nad yw'r cyngor yn rhoi symiau dewisol i ddefnyddwyr anabl ar
gyfer parcio, fod y datganiad yn yr AEI yn anghywir gan fod pobl anabl yn
defnyddio meysydd parcio. Dywedodd yr aelodau hefyd, gan fod nifer o bobl anabl
ar incwm sefydlog, roeddent eisiau gwybod pam nad oes angen yr asesiad cam
nesaf. Eglurodd
swyddogion fod Cynllun y Bathodyn Glas yn berthnasol i barcio ar y stryd ac nid
yw'n berthnasol i barcio oddi ar y stryd o ran unrhyw gonsesiynau. Dywedodd
swyddogion hefyd fod y cilfachau parcio i’r anabl ym meysydd parcio'r awdurdod
wedi'u lleoli mor agos â phosib i allanfeydd a mynedfeydd y meysydd parcio a'r
peiriannau talu ac arddangos i gynorthwyo gyda materion hygyrchedd. Dywedodd
swyddogion nad yw Cynllun y Bathodyn Glas yn gyllidol nac yn cael ei asesu ar
sail prawf modd yn genedlaethol, sy'n golygu nad yw'r gallu i dalu yn
ystyriaeth. Gofynnodd
yr aelodau a ydyn nhw, fel awdurdod, yn ymwybodol o sut y byddai'n effeithio ar
bobl anabl ar incwm sefydlog. Teimlai'r aelodau nad oedd yr AEI yn ystyried
hynny. Esboniodd
swyddogion fod rhai egwyddorion ehangach i'w hystyried. Os oes gan rywun gar ac
mae'n gallu ei ddefnyddio, ei yswirio a'i drethu, yna yn gyffredinol mae mewn
sefyllfa ariannol well na llawer o breswylwyr o fewn yr awdurdod lleol.
Dywedodd swyddogion y gall perchnogion ceir yn gyffredinol fforddio talu
rhywfaint o gyfraniad o ran taliadau parcio i helpu'r cyngor i gynnal y
cyfleusterau hynny. Tynnodd swyddogion sylw'r aelodau at y ffaith fod yr holl feysydd parcio yn costio cryn dipyn o arian i'w cynnal, yn ogystal â'r cynnydd mewn costau ynni, cynnal a chadw adeiladau a diogelwch yn gyffredinol. Esboniodd swyddogion fod angen cydbwysedd, ond nid ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |