Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod Eitem 15 ar agenda Bwrdd y
Cabinet wedi'i gohirio i gyfarfod diweddarach er mwyn casglu rhagor o wybodaeth
ac mae aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol ar
agenda Bwrdd y Cabinet: · Eitem 7: Bargen Ddinesig Bae Abertawe – y diweddaraf am brosiectau a
arweinir gan Gastell-nedd Port Talbot (Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel a
Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer) · Eitem 11: Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trymion 2024/25 ·
Eitem 12: Gorchymyn Diogelu
Mannau Cyhoeddus: Traeth a Phromenâd Aberafan. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 249 KB I'r Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2024. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12/01/24 fel cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Eitem 7:
Bargen Ddinesig Bae Abertawe – y diweddaraf am brosiectau a arweinir gan
Gastell-nedd Port Talbot (Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel a Chartrefi fel
Gorsafoedd Pŵer) Rhoddodd swyddogion gyflwyniad
yn rhoi'r diweddaraf i'r aelodau am y prosiectau fel y crybwyllwyd yn yr
adroddiad. Trafododd yr Aelodau Ganolfan
Ragoriaeth Sero Net (Cyfleuster Hyfforddi) yn benodol mewn perthynas â'r
newyddion am TATA Steel. Cyfeiriwyd at y gofyniad am hyfforddiant ychwanegol yn
TATA a'r cyllid y mae TATA wedi dweud sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant.
Holodd yr aelodau am y potensial i uwchsgilio pobl ac a oedd swyddogion yn
edrych ar gael mynediad at y cyllid hwnnw? Dywedodd swyddogion eu bod yn
gweithio'n weithredol gyda bwrdd pontio TATA a'u bod wedi nodi'r Ganolfan
Rhagoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol fel prosiect y byddent o bosib yn
ceisio cyllid ar ei gyfer. Byddai'r cyllid hwn yn cefnogi cam 2 y cyfleuster. Esboniodd yr Aelodau a fyddai
newyddion TATA yn effeithio'n negyddol ar unrhyw un o'r prosiectau. Nododd swyddogion fod y
newyddion gan TATA yn siomedig gan eu bod yn gyflogwr mawr yn yr ardal yn
uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae swyddogion yn ceisio asesu'r gadwyn
gyflenwi a phwy sy'n cael eu heffeithio'n anuniongyrchol ac yn uniongyrchol o
fewn TATA. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod y bwrdd pontio'n gweithio'n galed i
ddeall effaith cynigion TATA. Esboniodd swyddogion fod y
prosiectau hyn yn dod yn bwysicach oherwydd newyddion TATA a thynnwyd sylw at y
Prosiect Switch fel enghraifft sy'n edrych ar ddeunyddiau ac Ymchwil a Datblygu
(YD) yn y diwydiant dur. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, os aiff TATA i lawr eu
llwybr arfaethedig o ffwrnais arc drydan, yna bydd llawer o YD wrth weithio
allan a yw'r deunyddiau y maent yn eu cyflwyno yn gywir ar gyfer y farchnad, a
fyddai'n golygu y byddai'r cyfleuster Switch yn rhan bwysig o hynny. Dywedodd
swyddogion fod disgwyl i'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch fynd i Barc Ynni
Baglan a bydd hynny'n caniatáu i gwmnïau lleol amrywio eu prosiectau a chymryd
rhan mewn marchnadoedd newydd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â chadwyn
gyflenwi TATA, ac efallai y byddant yn gallu newid cynhyrchu a chael cefnogaeth
ynghyd â hynny a helpu i roi hwb i Barc Ynni Baglan. Dywedodd swyddogion fod
darn sylweddol o dir yno ac maent yn gobeithio y gall y Ganolfan
Gweithgynhyrchu Uwch fod yn rhan o hynny ac mae'r ganolfan dechnoleg yn cynnig
lle i adeiladau newydd ac yn gadael i fusnesau deillio ddatblygu a cheir
cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi gyda Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Dywedodd swyddogion, o ran
amrywio'r economi ac ehangu'r economi, ochr yn ochr â'r gwaith newydd o'r
porthladd rhydd Celtaidd, fod y rhain yn brosiectau pwysig iawn a fydd yn helpu
i fod yn sail i'r gwaith newydd. Gofynnodd yr Aelodau a oes unrhyw gyllid i edrych yn benodol ar dai teras o ran YD i ddod o hyd i atebion ar gyfer cysylltiadau gwefru cerbydau trydan fel y gall yr awdurdod helpu i ddatgarboneiddio, yn enwedig gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Bod y Pwyllgor yn derbyn Rhaglen Gwaith Cychwynnol Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth ar gyfer 2023-24. Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Roedd yr eitem breifat wedi cael ei gohirio. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Roedd yr eitem breifat wedi'i gohirio. |