Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nododd
y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar Eitem 3 ar yr
agenda Craffu a'r eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet: • Eitem 9 - Dangosyddion Perfformiad
Allweddol 2024 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023) • Eitem 10b Cynnig i brydlesu hen safle
Wilko Retail Limited sy'n cynnwys rhan o'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf o
fewn y maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (Superstores
Internationaol) Limited, sy'n masnachu fel The Range • Eitem 11 Ildio prydles bresennol a chaniatáu cytundeb newydd am brydles, a phrydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ar ben gorllewinol glan môr Aberafan, Port Talbot. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Adroddiad Blynyddol PDF 195 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cadeirydd yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd. Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar ba
mor galed yr oedd y pwyllgor wedi gweithio a chyflawniadau'r pwyllgor megis
cwblhau dau grŵp gorchwyl a gorffen a sesiynau craffu dwys. Gwnaeth y
cadeirydd sylw hefyd ar y diwygiadau llwyddiannus i bolisi a dogfennau yr oedd
y pwyllgor wedi'u sicrhau. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor am eu
gwaith caled a chefnogaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Gwnaeth
yr Aelodau sylwadau ar ba mor dda yw'r adroddiad a'i fod yn rhoi amlinelliad
ardderchog o'r gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn. Nododd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a'r Strydlun Adroddiad Blynyddol 2022/2023 a atodwyd yn Atodiad A a'i gymeradwyo i'r cyngor. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dangosyddion Perfformiad
Allweddol 2023/2024 - Chwarter
1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023) Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad fel y'i
dosbarthwyd i'r Aelodau ac amlygodd ei fod mewn
fformat cyflwyno newydd fel ymateb
i adborth gan Aelodau. Dywedodd swyddogion y byddent yn cofnodi unrhyw
adborth ac yn trosglwyddo hynny i'r tîm perfformiad
corfforaethol a gynigiodd y
fformat cyflwyno newydd. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o'r sesiwn
hyfforddi sydd ar ddod ar
y fformat DPAau newydd a'u hannog
i fynd iddi gan y bydd yn
helpu aelodau i ddehongli Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn well. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn credu
bod y fformat newydd yn gliriach ac yn well ac yn
dangos tueddiadau tymor hwy a'r
cyfeiriad teithio. Teimlai'r Aelodau hefyd y byddai'n ddefnyddiol cael llinell ar graffiau
sy'n dangos beth yw'r targed
fel cymhorthyn gweledol. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 64 o'r adroddiad yn ymwneud
â'r casgliadau gwastraff a gollwyd a gofnodwyd. Roedd yr Aelodau eisiau
gwybod a yw
hyn hefyd yn cynnwys adroddiadau
ar-lein ac adroddiadau gan Aelodau am gasgliadau nad oedd y gwasanaethau gwastraff wedi'u casglu. Esboniodd swyddogion fod adroddiadau ar-lein wedi'u cofnodi ac anogwyd yr Aelodau
i adrodd am faterion drwy'r ganolfan alwadau fel y byddent
yn sicrhau bod adroddiadau'n cael eu cofnodi'n gywir.
Nid yw swyddogion
unigol yn defnyddio'r system y mae'r ganolfan gyswllt yn ei defnyddio,
ac mae'n llai tebygol o gael ei gofnodi'n gywir. Dywedodd yr Aelodau fod perygl na
fydd y casgliadau a gollwyd yn cael
eu casglu'r diwrnod hwnnw oherwydd
erbyn i'r wybodaeth gael ei chofnodi, mae'n
bosib y byddai'r criw casglu wedi
gadael yr ardal yn barod. Dywedodd swyddogion fod y cynllun gweithredu gwastraff wedi'i gymeradwyo ar gyfer
y system ddata 'In-cab' felly bydd
y criwiau'n cael gwybod am y casgliadau a gollwyd. Bydd y system olrhain yn golygu
y bydd swyddogion yn gwybod ble
mae'r criwiau, a bydd system ddata 'In-cab' yn rhoi gwybod
i'r criw agosaf am y casgliad a gollwyd. Gofynnodd yr Aelodau a yw adroddiadau o dipio anghyfreithlon a wnaed gan Aelodau
wedi'u cynnwys yn DPA 17 yn ogystal
ag a yw adroddiadau'n
cael eu categoreiddio'n
wahanol nawr gan fod nifer
is yn y chwarter hwn. Esboniodd swyddogion fod
System FLARE yn cael ei defnyddio i ddogfennu popeth am dipio anghyfreithlon gan ei fod
yn broses gyfreithiol. Dywedodd swyddogion hefyd fod problemau
cyflwyno weithiau gyda phreswylwyr yn rhoi'r gwastraff
allan ar yr wythnos anghywir. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod tipio
anghyfreithlon, yn hanesyddol, wedi amrywio, ac yn ystod y cyfyngiadau symud cynyddodd tipio anghyfreithlon. Cafodd y broses gyfreithiol ar gyfer tipio
anghyfreithlon ei hatal am gyfnod gan atal cyfweliadau
fel rhan o'r broses orfodi. Gyda gorfodaeth bellach wedi dychwelyd, mae nifer yr
achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng. Gofynnodd yr Aelodau a yw cwynion am lanast sy'n cael ei adael ar ôl pan gesglir gwastraff yn cael eu cofnodi. Dywedodd swyddogion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnod Camau Gweithredu'r Pwyllgor PDF 479 KB For
the Committee to comment on and note the actions and the progress from the
previous meetings. Cofnodion: Nododd Aelodau'r Pwyllgor y Cofnod Gweithredu. |
|
Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Roedd tair eitem frys, a phenderfynodd yr Aelodau graffu
ar ddwy ohonynt.
Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes
canlynol a oedd yn debygol
o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf
uchod. Eitem
10b Cynnig i brydlesu hen safle Wilko Retail Limited sy'n cynnwys rhan o'r
llawr gwaelod a'r llawr cyntaf
o fewn y maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (Superstores Internationaol)
Limited, sy'n masnachu fel The Range Yn
dilyn craffu roedd yr aelodau’n
gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet. Eitem
11 Ildio prydles bresennol a chaniatáu cytundeb newydd am brydles, a phrydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ar
ben gorllewinol glan môr Aberafan, Port Talbot. Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |