Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol · 19 Medi 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Cofnodion: Dywedodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth aelodau fod y
broses o benderfynu ar gyllideb wedi bod yn anodd, roedd yr arbedion gofynnol o
5% o'r gyfarwyddiaeth gwerth £5.4m yn ystod cyfnod lle mae pwysau cynyddol ar
wasanaethau a chymhlethdodau anghenion. Nododd y Cyfarwyddwr fod asiantaethau
eraill megis yr heddlu, gwasanaethau carchardai a chyfnod phrawf yn ogystal â
rhai meysydd iechyd, yn lleihau gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed ac
roedd hyn yn creu galw ychwanegol. Rhoddodd y
Penaethiaid Gwasanaeth drosolwg o bob un o'r cynigion cyllideb a gynhwysir yn
yr adroddiad. Cyfeirnod
SSH&CS-A: Dywedodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau mai'r arbedion effeithlonrwydd
disgwyliedig ar gyfer yr adran oedd £112k a chaiff hynny ei gyflawni drwy
leihau costau wrth ddarparu gwasanaethau digartrefedd drwy ailgynllunio
gwasanaethau ac atal pobl rhag bod mewn sefyllfa lle mae angen llety dros dro.
Mae hyn yn unol â'r strategaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol. Gwnaed gwaith i
ailstrwythuro'r Tîm Opsiynau Tai ym mis Awst ac mae swyddogaeth tai strategol
ar waith. Mae'r targed effeithlonrwydd yn gysylltiedig â'r timau sydd bellach
ar waith ac mae'r gwaith yn y strategaeth yn cael ei ddatblygu. Cyfeirnod
SSH&CS-B. Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth aelodau fod yr arbediad a
ragwelir o £232k yn ymwneud â gostyngiad naturiol yn nifer y plant sy'n derbyn
gofal. Bydd gostyngiad yn nifer y lwfansau sy'n cael eu talu ar hyn o bryd ond
a fydd yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn troi'n 18 oed. Holodd yr aelodau
sut yr effeithir ar y ffigwr hwn pe bai cynnydd yn nifer y bobl ifanc y mae
angen gofal arnynt yn y dyfodol. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y darperir ar gyfer unrhyw blentyn y mae angen gofal
arnynt. Fodd bynnag, oherwydd y gwasanaeth a sefydlwyd ac ansawdd arferion
gwaith cymdeithasol, bu tuedd ar i lawr dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer y
bobl ifanc y mae angen gofal arnynt, ac er bod hyn yn risg, rhagwelir y bydd y
niferoedd yn lleihau unwaith eto. Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad o'r term 'plant nad ydynt yn derbyn gofal' a ddefnyddiwyd
yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y term hwn yn ymwneud â phobl ifanc a oedd yn derbyn
gofal yn y gorffennol ond daeth y gofal i ben pan roedd y plentyn yn 18 oed. Cyfeiriodd yr
Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a'r cynnwys canlynol, 'yn hanesyddol mae'r
tanwariant ar gyfer lwfansau mewnol wedi gwrthbwyso gorwariant darpariaethau
preswyl allanol' a gofynnwyd a ana rbedwyd y tanwariant ac a oedd yn
gysylltiedig â'r cynnig cyllideb hwn. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y gellid trafod hyn o dan gynnig cyllideb ddiweddarach. Gofynnodd yr
Aelodau am ddata mewn perthynas â'r gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Esboniodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai nad yw'r awdurdod lleol bellach yn gofalu am blant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sy'n destun gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig ac maent yn cael eu hystyried yn blant nad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a |
|
Strategaeth Comisiynu Lleoliadau i Blant CNPT 2024-2027 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu hadroddiad cynhwysfawr. Cyfeiriodd yr
Aelodau at yr adran gefndir ar dudalen 20 adroddiad y Cabinet, a gofynnwyd i
ychwanegu testun at yr adroddiad i adlewyrchu'r ffaith y bydd y Cyngor yn
cefnogi plant i aros gyda rhiant neu berson â chyfrifoldeb rhiant, lle bydd yn
ddiogel i wneud hynny. Roedd yn bwysig cyfeirio at ddiogelu gan mai dyma'r prif
ffocws. Gofynnodd yr Aelodau am ddata ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau
megis gofalwyr maeth, cartrefi preswyl i blant neu lety â chymorth. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai'r newid i'r adroddiad a awgrymir yn cael ei gwblhau a
byddai'r wybodaeth y gofynnwyd amdani'n cael ei darparu i'r aelodau. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu |
|
Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Raglenni Trawsnewid Tai a Chymunedau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y
pecyn agenda a dywedwyd wrth aelodau fod cynnydd boddhaol wedi'i gyflawni yn
erbyn y rhaglenni gwaith. Cyfeiriodd yr
aelodau at dudalen 89 yr adroddiad a gofynnwyd a allai Swyddogion ddarparu
enghreifftiau o'r gwahanol fathau o fodelau sydd wedi'u dadansoddi. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr yn yr
adran gomisiynu, i adolygu gwahanol fathau o fodelu. Mae angen edrych ar
amrywiaeth o opsiynau llety â chymorth llawn. Y gobaith oedd y byddai hyn yn
cael ei ddatblygu'n fuan, yn dilyn digwyddiadau gyda chydweithwyr comisiynu,
darparwyr gwasanaethau a chyfarfodydd gyda landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig i gynghori ar gyfleoedd gydag eiddo. Holodd yr aelodau
a oedd swyddogion yn cyfeirio at fodel y system neu fodelau tai gwahanol? Cadarnhaodd
swyddogion fod modelau tai gwahanol fel tai cynhwysyddion a chychod camlesi
wedi cael eu harchwilio, fodd bynnag, mae'r gost yn uchel. Mae papur briffio'n
cael ei ddatblygu. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud i ddeall anghenion
cleientiaid i helpu i broffilio'r math o lety y mae ei angen. Cyfeiriodd yr
aelodau at yr adolygiad o lwyfan TG opsiynau tai a gofynnwyd sut y gallai pobl
ddigartref gael mynediad at wybodaeth ddigidol. Dywedodd yr Aelodau nad oedd y
dudalen yn hawdd ei defnyddio. Diolchodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau i'r aelodau am yr adborth a chadarnhaodd fod gwaith
yn mynd rhagddo. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r adran Trawsnewid
Digidol mewn perthynas â gofynion TG brys ar gyfer y gwasanaeth. Cydnabuwyd nad
oedd yr wybodaeth ar y wefan yn foddhaol. Mae intern o Brifysgol Abertawe'n
gweithio gyda'r gwasanaeth i alluogi cyfleoedd ymgysylltu gwell. Dywedodd yr
aelodau ei fod yn bwysig ystyried anghenion pobl wrth gael mynediad at
wybodaeth. Cyfeiriodd yr
aelodau at y nifer cynyddol o osodiadau a chost eiddo rhent. Mae problem ar hyn
o bryd gyda landlordiaid preifat yn gwerthu eiddo rhent. Holodd yr aelodau a
oedd newid yn nifer yr hysbysiadau Adran 21. Cadarnhaodd
swyddogion fod y sefyllfa'n sefydlog ar hyn o bryd ac nad oedd cynnydd yn yr
hysbysiadau Adran 21, fodd bynnag, nid yw'r sector yn hygyrch i rai cleientiaid
oherwydd cost rhent. Mae'r gwasanaeth yn cyflogi swyddog sector preifat sy'n
cynnal gwiriad argaeledd wythnosol ond nid yw'r gost rhent o fewn cyllidebau
pobl. Rhannodd yr
aelodau bryder ynghylch cost eiddo rhent. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 19
yr adroddiad o fewn y pecyn agenda a gofynnwyd a oedd diweddariad o'r
dadansoddiad a wnaed o lety dros dro yn The Ambassador a Treetops. Dywedodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau fod mwy o waith sy'n canolbwyntio ar yr
unigolyn wedi'i wneud i ddeall anghenion cyfannol pobl mewn llety dros dro. Mae
heriau o ran ennill tenantiaethau oherwydd anghenion cymorth. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod adroddiadau ar The Ambassador Gwesty Treetops wedi'u paratoi ac ystyriwyd yr elfen gost ar gyfer y ddau opsiwn hwnnw. Mae gwaith wedi'i wneud i ddeall y llwybrau tai posib, ac i reoli ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a |
|
Monitro Perfformiad Nid oes unrhyw eitemau monitro perfformiad i’w hystyried. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth y pwyllgor fod adroddiadau perfformiad Chwarter 1 a Chwarter 2
wedi'u hychwanegu at y flaenraglen waith ar gyfer 12 Rhagfyr, gydag adroddiadau
perfformiad chwarterol yn cael eu derbyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried. |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol · Blaenraglen Waith y Cabinet · Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd yr
aelodau gan swyddogion o eitemau newydd a oedd wedi cael eu hychwanegu at
Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried. Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau y cynhelir Seminar ar gyfer yr Holl Aelodau am
Ddiogelu ar 21 Tachwedd. Roedd y Pwyllgor eisoes wedi gofyn am adroddiad ar y
Gofrestr Amddiffyn Plant a bydd y pwnc hwn yn cael ei gynnwys yn y seminar. Os
oes gan aelodau ragor o gwestiynau am y pwnc hwn, gellir cynnwys adroddiad yn y
Flaenraglen Waith. Gofynnodd yr
Aelodau am ddata mewn perthynas â'r Gofrestr Amddiffyn Plant. Cadarnhaodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai y gellid anfon y data
hwn at y pwyllgor yn ogystal â'r wybodaeth a ddarparwyd yn y seminar. Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd yr
aelodau yr eitemau preifat a ddewiswyd o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Achos busnes dros sefydlu Gwasanaeth Seibiannau Byr Mewnol ar gyfer Plant ag Anableddau Cofnodion: Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet. |
|
Achos busnes dros sefydlu Gwasanaeth Seibiannau Byr Mewnol Cyswllt Teulu ar gyfer Plant ag Anableddau Cofnodion: Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet. |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad |
|
Diweddariad ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Chartref Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad |
|
Adroddiad Effaith Arweiniad Diogelwch Tân Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr aelodau yr eitem breifat ar
flaenraglen waith y Pwyllgor Craffu. |
|
Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Raglenni Trawsnewid Gwasanaethau i Blant Cofnodion: Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad. |