Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 19eg Medi, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 93 KB

·       12 Gorffennaf 2024

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.

4.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet

4a

Arfarniad Opsiynau Grant Cyfleusterau i'r Anabl pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad manwl a diddorol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Rhoddodd swyddogion wybodaeth ychwanegol i'r aelodau nad oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad. Mae'r newid i elfen ddisgresiynol y grant wedi sbarduno newid mewn ymddygiad gyda chynnydd mewn ceisiadau am lifftiau fertigol oherwydd y gost is o'i gymharu ag estyniadau. Fodd bynnag, nid yw'r ymagwedd hon yn darparu ateb hirdymor priodol.

 

Cododd y Cadeirydd bryder ynghylch risgiau diogelwch posib i rai preswylwyr sy'n defnyddio lifftiau fertigol.

 

Gofynnodd yr aelodau sut y cymhwyswyd taliadau eiddo oes ar gyfer tai cymdeithasol .

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai cyllid disgresiynol ar gael i eiddo preifat ac eiddo a rentir yn breifat yn unig. Roedd yn debygol y byddai unrhyw gyllid disgresiynol yn cael ei ad-dalu ar ryw adeg o eiddo preifat neu eiddo a rentir yn breifat, ond nid oedd hyn yn berthnasol i dai cymdeithasol.

 

Holodd yr Aelodau a oedd yn ofynnol i landlordiaid preifat gydlofnodi unrhyw gytundeb cyllido.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yn rhaid rhoi caniatâd landlord cyn y gellir gwneud unrhyw waith ar eiddo a rentir yn breifat a bod landlordiaid yn ymwybodol o'r amodau cyllido.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd cleifion ysbyty a oedd yn aros am addasiadau i eiddo yn cael eu blaenoriaethu ac a oedd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu'n ariannol.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad yw'r Grant Rhyddhau o'r Ysbyty a oedd ar gael yn flaenorol yn cael ei gynnig bellach a bod yn rhaid i Therapyddion Galwedigaethol flaenoriaethu angen. Lle nodir angen blaenoriaethol, byddai'r cais yn cael ei symud cyn belled ag y bo modd ar y rhestr aros, yn dibynnu ar gyflwr presennol y gwariant. Nodwyd bod ymrwymiadau eisoes ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

 

Holodd yr aelodau a oes angen mwy o arian oddi wrth y bwrdd iechyd a holwyd pam nad yw'r Grant Cyllido Rhyddhau o'r Ysbyty ar gael mwyach.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod ymdrechion wedi'u gwneud i gael arian ychwanegol gan y bwrdd iechyd, ond ni chafwyd unrhyw arian. Bu newid i Grantiau Bae'r Gorllewin, ac ataliwyd cymeradwyaeth. Nodwyd bod llawer o bobl ar y rhestr aros yn cael yr un flaenoriaeth a bod anawsterau o ran blaenoriaethu gan fod yr adnoddau sydd ar gael yn brin. Mewn rhai achosion, cyflwynodd Therapyddion Galwedigaethol ddarnau o waith â blaenoriaeth gyda gweddill y gwaith yn cael ei wneud yn ddiweddarach.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion sicrwydd na fyddai cleifion ysbyty sy'n aros am addasiadau yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ond y byddent yn cael eu symud i leoliad gofal estynedig mewn gwely preswyl, gyda'r Cyngor yn talu'r.

 

Holodd yr aelodau, pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, pa mor gyflym y byddai'r ôl-groniad presennol yn clirio.

 

Cadarnhaodd swyddogion pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo hyn y byddai angen newidiadau i'r offer polisi a'r ddogfen gyfreithiol, gyda'r nod o roi'r newid ar waith erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd mae 274 ar y rhestr aros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a

5.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

·        Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu.

6.

Monitro Perfformiad

·       Dim eitemau i’w hystyried.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y pwyllgor fod adroddiadau perfformiad Chwarter 1 a Chwarter 2 wedi'u hychwanegu at y flaenraglen waith ar gyfer 12 Rhagfyr, gydag adroddiadau perfformiad chwarterol yn cael eu derbyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried.

7.

Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 808 KB

 

·       Blaenraglen Waith y Cabinet

·       Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd yr aelodau gan swyddogion o eitemau newydd a oedd wedi cael eu hychwanegu at Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried.

 

Atgoffodd y Cadeirydd swyddogion o'r angen am ddisgrifiad o bwrpas yr adroddiad ar Flaenraglen Waith y Cabinet i gynorthwyo aelodau craffu wrth ddewis eitemau i graffu arnynt.

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

10.

Craffu ar eitemau preifat

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau'r eitem breifat.

 

11.

Achos Busnes Cychwynnol ar gyfer Datblygu Canolfan Frysbennu (Wedi'i heithrio o dan baragraff 14)

Cofnodion:

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.