Agenda a Chofnodion

Additional, Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Gwener, 2ail Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Caniatâd i Ymgynghori ar yr adolygiad o Wasanaethau Llety Brys Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gomisiynwyd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd swyddogion y cyllid a ddefnyddir ar gyfer yr eitem hon.

 

Roedd adolygiad o'r gwasanaethau wedi'i gynnal, gyda'r nod o nodi ffyrdd o ailfodelu gwasanaethau fel eu bod yn cyd-fynd yn fwy ag arfer gorau ac yn sicrhau y gall gwasanaethau llety brys ddiwallu anghenion presennol ac anghenion y dyfodol. Nid yw'r gwaith hwn yn gysylltiedig ag unrhyw darged effeithlonrwydd nac yn cael ei ysgogi gan arbedion ariannol. Pwrpas yr adolygiad hwn yw sicrhau bod modelau sy'n cael eu comisiynu'n cynnig gwasanaethau y gwneir y gorau ohonynt ac sy'n ymateb i anghenion y bobl hynny y mae arnynt angen gwasanaethau o'r fath.

 

Mae gwaith ymgysylltu amrywiol wedi'i wneud. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol mewn perthynas â'r model arfaethedig. Mae ymchwil wedi'i wneud ar draws y DU mewn arfer da. Mae'r adroddiad yn amlinellu angen a nodwyd i amrywiaethu'r math o lety sy'n cael ei ariannu.

 

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch yr unedau gwasgaredig a nodwyd yn yr opsiynau a phwy fyddai'n eu defnyddio. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yr holl wasanaeth ar gyfer pobl y mae angen iddynt symud o amgylchedd anniogel. Ni fydd y llety'n cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion cyffredinol.

 

Roedd yr aelodau'n dymuno gofyn cwestiwn ar ran breifat yr adroddiad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd mynediad i gyfarfodydd.

 

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r

eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth

 Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran

 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Penderfynwyd: Atal mynediad i gyfarfodydd dros dro.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

4.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 384 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

 

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 430 KB

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau i ystyried adfer ymweliadau â chartrefi gofal.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

8.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Trefniadau cytundebol gyda The Hollins

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd  yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

 

Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn Ad-dalu arian y Grant Cyfleusterau i'r Anabl

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

 

Adolygu ffioedd cleientiaid i sicrhau ansawdd a  gwasanaethau technoleg gynorthwyol gynaliadwy

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

 

Cytundeb Enwebu ar gyfer Llety Dros Dro'r Sector Preifat

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.