Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. S Knoyle – Opsiynau ar gyfer Trem y Glyn Personol, nid rhagfarnol. Cartref gofal preswyl
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 96 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
27 Mehefin 2022 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Cytunodd yr aelodau i graffu ar eitemau 7,11,14 a
15 ar agenda Bwrdd y Cabinet. Cynllun
Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2022-2023 Cyflwynwyd
gwybodaeth i aelodau a oedd yn ymwneud â chefndir a chrynodeb o gynnwys Cynllun
Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol drafft 2022-2023 Gwasanaethau Cyfiawnder
Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot. Holodd yr aelodau
pam yr oedd diffyg swyddi parhaol ar draws y staff ymyrraeth a'r hyn oedd yn
cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod y
diffyg swyddi parhaol yn ymwneud â swyddi penodol o fewn y tîm. Mae rhai swyddi'n
cael eu hariannu gan arian grant ac maen nhw ar gontract treigl blwyddyn i
flwyddyn. Bydd gwerthusiad swyddi hefyd yn cael ei wneud ar swyddi sy'n cael eu
hysbysebu ar hyn o bryd. Gofynnodd aelodau
a allai adroddiadau yn y dyfodol gysylltu â rhai ystadegau ar y rhai allai fod
â chyflwr niwro-amrywiol Yn dilyn craffu,
roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Adroddiad
Ailgartrefu Cyflym Cyflwynwyd
gwybodaeth i'r aelodau a oedd yn ymwneud â Chynllun Ailgartrefu Cyflym drafft
CNPT. Cadarnhaodd
swyddogion fod hwn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i
ben. Mae'r cynllun eisoes wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi
ei gydnabod fel un o'r cynlluniau mwyaf manwl a gafwyd o bob rhan o Gymru. Cadarnhawyd bod
dros 175 o bobl mewn llety dros dro bellach. Nod y cynllun a ddatblygwyd yw
cynorthwyo gydag ailgartrefu pobl cyn gynted â phosib. Mae yna brinder penodol
o fflatiau 1 ystafell wely. Gwnaeth swyddogion hefyd gydnabod bod y bobl sy’n
ddigartref yn llawer mwy dryslyd a bod ganddyn nhw fwy o anghenion cymorth.
Bydd angen hefyd ddatblygu'r system tai yn gyntaf ynghyd â'r cynllun. Mae angen i'r
awdurdod edrych ar lety addas hefyd. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae angen i bob
llety dros dro fod yn hunangynhwysol ac nid yw pob llety'n bodloni'r safon
honno. Ar ben hynny, mae swyddogion yn ceisio arafu'r mewnlifiad i'r gwasanaeth
drwy ymdrin â materion yn gynharach yn y system. Holodd yr aelodau
a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r eitemau hyn.
Os na, pwy all herio hyn, a sut. Dywedodd
swyddogion fod y Ddeddf Rhentu Cartrefi a oedd i fod i ddod i rym yn fuan yn
gwaethygu'r broblem dai, gan fod llawer o landlordiaid bellach yn gwerthu eu
heiddo mewn ymateb i'r ddeddf. Canmolodd yr
aelodau y swyddogion am eu gwaith sydd i'w wneud ar yr eitem hon. Gofynnodd
aelodau i swyddogion gysylltu â chydweithwyr cynllunio i sicrhau, pan fydd tai
yn cael eu datblygu, bod mannau poblogaidd yn cael eu hosgoi lle bo hynny'n
bosib. Hefyd, bod tai yn cael eu gwasgaru ar draws yr holl wardiau. Mynegodd aelodau eu pryder am leoliad gwasanaethau cymorth mewn perthynas â thai a'r preswylwyr y mae angen gwasanaethau cymorth arnynt. Cadarnhaodd swyddogion fod rhan o'r Cynllun Ailgartrefu Cyflym yn cynnwys edrych ar wasanaethau cefnogi a'r ddarpariaeth grant sydd ar waith, i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio)
yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Nid oedd y pwyllgor wedi craffu ar unrhyw eitemau
preifat. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Nid oedd y pwyllgor wedi craffu ar unrhyw eitemau
preifat. |