Lleoliad: Hybrid Council Chamber / MS Teams
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd Charlotte
Galsworthy Parthed: Eitem 5 - Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chefnogi mewn
Cynllun Camu i Fyny/Camu i Lawr, eitem 6 - Trefniadau ar gyfer Darparu
Gwasanaethau Gofal Cartref, eitem 9 - Trefniadau dan Gontract ar gyfer y
Gwasanaeth Ataliaeth a Lles, gan fod ei merch yn gweithio i'r tîm Lles. Nodwyd
taw cysylltiad personol oedd hwn. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (cyhoeddus neu wedi'u heithrio)
yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw eitemau brys. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o Agenda Bwrdd y
Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar
gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr eitemau preifat canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Trefniadau dan Gontract ar gyfer y Gwasanaeth
Ataliaeth a Lles Gofyn i Aelodau atal dros dro Reol 11 o'r Rheolau
Gweithdrefnau Contractau a rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
lunio contract newydd ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Ataliaeth a Lles yn
barhaus, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan
Fwrdd y Cabinet. |