Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsoft Teams / Hybrid Council Chamber

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Mewn perthynas ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Uned Seibiant Trem y Môr, roedd aelodau am longyfarch swyddogion am adroddiad rhagorol.

 

Hefyd, mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Cwynion a Sylwadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22, roedd yr aelodau am longyfarch swyddogion am adroddiad gwych gan ddweud ei fod yn braf gweld bod mwy o ganmoliaeth na chwynion.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

 

 

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd Charlotte Galsworthy Parthed: Eitemau 7 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion gan ei bod yn Gynorthwyydd Personol (CP) ar gyfer ei mam.

 

Y Cynghorydd Sian Harris Parthed: Eitemau 13 – Caffael Llwyfan Rheoli Achos Gofal Cymdeithasol – Mae ei mab yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

 

Y Cynghorydd Jeff Jones Parthed: Mae gwraig y Cynghorydd Jones yn gweithio i'r Tîm Lles

 

Y Cynghorydd A Lockyer Parthed: Eitemau 7 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Mae ei ferch yn CP.

 

3.

Ymgynghoriad ar gynigion cylideb 2023/24 (adroddiad i ddilyn) pdf eicon PDF 918 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i'r aelodau mewn perthynas â'r gyllideb.

 

Gofynnodd yr aelodau pa ganran o'r gronfa wrth gefn y disgwylid ei neilltuo ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Esboniodd swyddogion nad oedd unrhyw arian yn benodol ar gyfer gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddai'n cael ei ddefnyddio i dalu holl gyllideb y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

4.

Adsefydlu Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Ionawr 2023 DOTX 47 KB

Cofnodion:

 

 

 

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i aelodau mewn perthynas ag Ailsefydlu Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

 

Gofynnodd yr aelodau pwy oedd yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig. Esboniodd swyddogion fod y Groes Goch Brydeinig wedi'u comisiynu i ddarparu cefnogaeth gyfeiriadaeth benodol iawn i deuluoedd o Afghanistan ac fe gafodd hynny ei hariannu gan dariff o'r Swyddfa Gartref.

 

Cyfeiriodd aelodau at y cwmni Clear Springs a chyfeiriodd at dri eiddo ar gyfer llety i deuluoedd. Gofynnodd yr aelodau i’r swyddogion a oedd yr eiddo yn ychwanegol at y tri eiddo sydd eisoes yn eu lle. Esboniodd y swyddogion fod y tri theulu o Afghanistan wedi cyrraedd a'u bod yn rhan o raglen ailsefydlu ffoaduriaid, a oedd yn gwbl wahanol i'r llwybr gwasgaru ceiswyr lloches. Roedd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ddiffiniad cyfreithiol gwahanol. Contractwyd Clear Springs gan y Swyddfa Gartref i ddod o hyd i lety cychwynnol ar gyfer ceiswyr lloches. Nid oedd gan swyddogion fanylion ynghylch beth allai'r cenedligrwydd fod ac ni fyddant yn gwybod nes i'r eiddo gael ei gaffael.

 

Gofynnodd aelodau, mewn perthynas â'r cynllun noddi fisa i gartrefu Wcreiniaid, beth fyddai'n digwydd os nad yw'r berthynas rhwng y teulu Wcreinaidd a'r teulu sy'n eu lletya yn mynd yn dda iawn ar ôl ychydig wythnosau neu ychydig fisoedd, a fyddai'r awdurdod lleol yn ymyrryd. Eglurodd swyddogion o dan raglen Cynllun Teuluoedd Wcráin, mae gan y bobl sy'n cyrraedd gyda'u fisas naill ai drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin neu’r cynllun noddi fisa teulu yr holl hawliau i dai, addysg a budd-daliadau felly, pe bai'r berthynas yn chwalu gallent gyflwyno'u hunain i'r gwasanaeth opsiynau tai a fyddai'n gorfod darparu cyngor neu lety dros dro.

Soniodd swyddogion fod yr adroddiad yn darparu eglurhad bras am y plant sy’n ceisio lloches sydd ar eu pennau eu hunain a’r problemau a oedd ganddynt gyda dull gwasgaru’r Swyddfa Gartref. Er bod swyddogion wedi gweithio'n dda gyda Llywodraeth Cymru, nid oedd y berthynas mor gryf â'r Swyddfa Gartref lle bu'n rhaid i swyddogion ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn nodi bod problemau o ran diogelu a'r ffordd yr oeddent yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Awgrymodd swyddogion y gallai'r pwyllgor ddymuno adroddiad pellach mewn perthynas â'r Swyddfa Gartref. Roedd yr aelodau'n hapus gyda'r awgrym hwn.

 

Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas â Clear Springs, pa fewnbwn a oedd ganddynt o ran monitro ansawdd y llety yr oedd y cwmni'n ei ddyrannu. Esboniodd swyddogion o dan y Llwybr Gwasgaru Ceiswyr Lloches fod gan Clear Springs broses lle maent yn ymgynghori â'r awdurdod lleol ar ddarpar eiddo y maent yn gobeithio ei gaffael, byddent yn anfon y manylion at swyddogion ac yna’n ymgynghori â chydweithwyr ar draws yr awdurdod lleol a fyddai'n cynnwys Addysg, Diogelu, Tai ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae swyddogion hefyd yn ymgynghori â Heddlu De Cymru, y Bwrdd Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i glywed eu barn nhw hefyd. Mae’n rhaid dychwelyd y ffurflen o fewn pum niwrnod ac o fewn y ffurflen honno, gallai swyddogion nodi a oeddent yn gefnogol o'r eiddo sy'n cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Digartrefedd pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r pwyllgor mewn perthynas ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Digartrefedd.

 

Diolchodd yr aelodau i'r Swyddogion am gyflwyniad ardderchog gan ddiolch iddynt am eu holl waith caled.

Gofynnodd yr aelodau a fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnig rhagor o adnoddau i helpu'r ardal. Esboniodd swyddogion eu bod wedi derbyn nifer o grantiau, mewn perthynas â'r grant cymorth tai ni fu cynnydd yn y grant hwnnw ond roedd mewn sefyllfa segur o tua 6.5 miliwn i ddarparu'r cymorth i bobl yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt i atal digartrefedd neu i'w cefnogi yn ôl i lety. Esboniodd swyddogion eu bod wedi derbyn grantiau amrywiol ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd ond nid yw swm y grantiau'n talu'r gost o gefnogi pobl.

 

 

 

 

 

 

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

 

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau i graffu ar eitemau 7, 12 a 13 ar agenda Bwrdd y Cabinet.

 

Adroddiad Archwilio Cymru ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn ymwneud â chrynodeb o gynnwys adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas ag argymhelliad tri, a yw'n golygu eiriolwyr y teilir amdanynt neu eiriolwyr y trydydd sector. Esboniodd swyddogion fod ganddynt gymorthfeydd cyfreithiol ar gyfer taliadau uniongyrchol lle'r oedd gweithwyr cymdeithasol yn cael eu diweddaru a'u hyfforddi wrth fynd ymlaen. Dywedodd swyddogion eu bod am gael mwy o eiriolwyr wrth y drws blaen, maen nhw am iddynt fod yn rhan o ran gychwynnol yr asesiad fel eu bod yn fodlon bod pobl yn cael cynnig taliadau uniongyrchol. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at eiriolwyr di-dâl i bobl gael rhywun fel rhan o'u rhwydwaith sy'n rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol o ran sicrhau bod y bobl gywir gyda'r unigolyn yn ystod y broses asesu honno. Soniodd swyddogion y gall eiriolaeth gynnwys y trydydd sector neu gall gynnwys yr eiriolwyr cyflogedig neu y gall gynnwys unrhyw un sy'n dymuno eirioli ar ran y person hwnnw a allai fod yn dderbynnydd uniongyrchol.

Holodd yr Aelodau ynghylch y gwahaniaeth mewn taliadau rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe gan fod Abertawe'n cael mwy o dâl. Eglurodd swyddogion nad ydynt yn gallu recriwtio gweithwyr gofal cartref yn y cyngor am yr arian yr oeddent yn ei dalu sy'n fwy na'r £10.50 yr awr. Ychwanegodd y swyddogion fod ganddynt gyfradd dâl ar gyfer Cynorthwywyr Personol ond y byddai ardaloedd eraill wedyn yn gosod eu cyfraddau ar gyfer asiantaeth neu seibiant - ni fyddai CNPT yn gwneud hynny ond gwnaethant yn siŵr bod pobl yn gallu comisiynu'r gwasanaeth yr oedd ei angen arnynt. Gofynnodd yr aelodau am adroddiad pellach er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r holl waith cadarnhaol yr oedd swyddogion yn ei wneud.

 

Nododd aelodau'r adroddiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

 

Gofynnodd yr aelodau i eitemau gael eu rhoi ar y Blaenraglen Waith ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf:

·        Gweithio ar y Cyd gyda'r Swyddfa Gartref

·        Adroddiad ar Gynorthwywyr Personol

·        Y diweddaraf am lety (Lloches a Ffoaduriaid)

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

10.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau mewn perthynas ag Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside

 

Nododd aelodau'r adroddiad.

 

Caffael Llwyfan Rheoli Achosion Gofal Cymdeithasol

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau mewn perthynas â chaffael Llwyfan Rheoli Achosion Gofal Cymdeithasol.

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet