Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 15fed Rhagfyr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Microsoft Teams / Hybrid Council Chamber

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Iechyd yr Amgylchedd - Beth yw Niwsans Statudol? pdf eicon PDF 415 KB

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i aelodau mewn perthynas â 'Beth yw Niwsans Statudol?'

 

Gofynnodd yr aelodau, o ran hysbysiad atal, beth fyddai'r drefn pe bai rhywun yn mynd yn groes i’r hysbysiad

 

Eglurodd swyddogion ei fod yn dibynnu ar beth yw'r niwsans, byddai'r hysbysiad yn destun camau cyfreithiol neu erlyniad. Byddai'n dibynnu ar beth yw'r achos penodol - sŵn yw'r un mwyaf cyffredin, sŵn cerddoriaeth o eiddo domestig, mae'n fwy effeithiol i drefnu atafaeliad o'r offer hwnnw sy'n gwneud y sŵn yn hytrach na chynnal gweithdrefn erlyn.

Pan fydd swyddogion yn atafaelu'r offer sy'n gwneud sŵn byddem yn ei gadw am gyfnod a byddai'n rhaid i'r person yr atafaelwyd yr offer ganddo dalu cost resymol er mwyn cael yr offer yn ôl.

 

Gofynnodd yr aelodau, os oes gan rywun eiddo gwag, ydy'r cynghorydd yn dod at y swyddog yn uniongyrchol? Esboniodd swyddogion fod Iechyd yr Amgylchedd wedi sefydlu system ar-lein ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw'n annog bod popeth yn cael ei roi drwy'r system adrodd ar-lein honno oherwydd bydd y cyhoedd yn derbyn hysbysiad ar unwaith gyda rhif cyfeirnod a bydd yn mynd yn syth at y swyddog.

 

Soniodd yr aelodau eu bod wedi ymdrin â nifer o gwynion ynglŷn â sŵn mewn eiddo a rentir yn breifat - pa fath o bwerau cyfreithiol neu statudol sydd gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd yr Amgylchedd i gynnwys y landlord?

 

Eglurodd swyddogion fod y camau gweithredu y gallant eu cymryd o ran gwasanaethau hysbysiad atal yn erlyn y person sy'n gyfrifol am achosi'r niwsans statudol. Mae swyddogion yn cynnwys landlordiaid yn y broses ac os oes problem adeileddol neu broblem sy'n gysylltiedig ag eiddo, yna mae'r gyfraith yn dweud mai cyfrifoldeb y perchennog yw'r materion adeileddol hynny.

 

 

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

 

Cytunodd yr aelodau i graffu ar eitemau 7, 8, 9, 11 a 12 ar agenda Bwrdd y Cabinet.

 

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Oedolion - Adroddiad Perfformiad yr 2ail Chwarter (Ebrill 2022- Medi 2022)

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn ymwneud â chefndir Adroddiad Perfformiad 2il Chwarter y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion (Ebrill 2022- Medi 2022) ac yn rhoi crynodeb o’i gynnwys.

 

Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas ag ailgofrestru plant, roedd y dangosydd yn goch - a oedd rhagor o wybodaeth? Eglurodd swyddogion, pan roedd plant yn cael eu hailgofrestru, roedd yna benderfyniad aml-asiantaeth. Byddai ein partneriaid yn ystyried a oes angen rhoi plentyn ar y gofrestr. Pan fydd plentyn yn cael ei roi ar y gofrestr byddai hynny’n arwain at adolygiad rheolwr a bydd swyddogion yn cael gwybod am yr ailgofrestru.

 

Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas â phlant sy'n mynd i ofal, a oeddent yn gallu egluro sefyllfa'r argyfwng?

Esboniodd swyddogion fod cynllun gweithredu yr oeddem yn ei ddilyn i gysylltu hawliau plant ar draws y Gwasanaethau Plant ac mae hyn wedi bod yn llwyddiannus o ran cael yr hyn y mae swyddogion yn ei ddisgrifio orau fel nod 'cutan mewn hawliau plant. Pan fydd plant yn mynd i ofal mewn argyfwng, maent yn cael cymaint o wybodaeth â phosib mewn perthynas â lle byddan nhw’n mynd, lle byddan nhw'n cysgu, pwy yw'r gofalwyr maeth etc. Esboniodd swyddogion ei fod yn goch oherwydd roedd gwaith yn cael ei wneud arno ac roedd yr Arweinydd Arfer Ansawdd yn cysylltu ag ymgysylltu, plant sy'n derbyn gofal a maethu i sicrhau bod gan yr holl ofalwyr maeth bortreadau byr etc.

Awgrymodd swyddogion y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor mewn perthynas ag ailgofrestru.

 

Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas â’r amcanion lles, mae’n nodi bod cynnydd sylweddol yn nifer yr asesiadau newydd a gafodd eu cwblhau o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a oedd rheswm dros y cynnydd yn y niferoedd?

Esboniodd swyddogion eu bod wedi gweld cynnydd enfawr mewn atgyfeiriadau, a bod galw mawr yn ystod yr argyfwng costau byw. Eglurodd swyddogion fod aelodau ychwanegol o staff i ateb y galw, a'i fod yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn ddyddiol. Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am Bwynt Cyswllt Unigol, roedd swyddogion yn hapus i ddarparu adroddiad ar y pwnc hwn.

 

Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas â nifer yr adolygiadau hwyr, pam roedd y niferoedd wedi cynyddu 150 ers diwedd mis Ebrill?

Esboniodd swyddogion fod y rhain yn derbyn gwasanaethau statudol, roedden nhw naill ai mewn gofal preswyl neu'n derbyn gofal cartref.

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2022-2023 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2022 - 30 Medi 2022)

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn ymwneud â chefndir Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2022-2023 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2022 - 30 Medi 2022) ac yn rhoi crynodeb o'i gynnwys.

 

Gofynnodd yr aelodau,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 415 KB

Cofnodion:

Gofynnodd swyddogion a fyddai modd nodi’r eitemau a drafodwyd heddiw yn y Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.