Lleoliad arfaethedig: Microsoft Teams / Hybrid Council Chamber
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd Charlotte
Galsworthy Parthed: Eitem 7 - Sefydlu Fframwaith Cyfrifon a Reolir a Chefnogi'r
Gyflogres gan ei bod yn Gynorthwyydd Personol (PA) i'w mam. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 204 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
11 Hydref 2022 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Sefydlu Fframwaith Cyfrifon a Reolir a
Chefnogi'r Gyflogres Darparwyd adroddiad i'r
Pwyllgor a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd â phroses i sefydlu
Fframwaith o ddarparwyr cymeradwy, a fyddai'n gallu cefnogi derbynyddion
Taliadau Uniongyrchol yn briodol drwy weithgarwch Cyfrifon a Reolir a’r
Gyflogres. Gofynnodd yr Aelodau beth oedd
yr amser aros presennol i newid cyfrifon o daliadau a reolir i daliadau
uniongyrchol, neu i'r gwrthwyneb. Cadarnhawyd mai ychydig iawn o amser y mae
hyn yn ei gymryd ac nad oedd yn broblem i swyddogion o fewn y Gyfarwyddiaeth.
Soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y broblem gyda thaliadau
uniongyrchol yn ymwneud â chael Cynorthwyydd Personol (PA). Gofynnwyd i swyddogion
ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'r amserau aros presennol am asesiadau ar
gyfer taliadau uniongyrchol, a pha mor hir y mae'n ei gymryd i ddod o hyd i CP
a'i baru â defnyddiwr gwasanaeth. Nodwyd bod y gwasanaeth yn cyflawni'r
asesiadau'n brydlon, ond roedd yn anodd darparu amserlen bendant o'r amserau
aros. Hysbyswyd y Pwyllgor fod problem wrth geisio dod o hyd i CPau yn y lle
cyntaf; roedd y sefyllfa’r un peth ar draws pob math o ofal, gan gynnwys gofal
preswyl a gofal cartref. Ychwanegwyd bod rhan o'r oedi, os oedd oedi, yn
ymwneud â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), rhoi hyfforddiant ar
waith a lle’r oedd angen yswiriant. Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet Caffael Fframwaith Gofal
Cartref Arbenigol Cyflwynodd y swyddogion
adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried rhoi cymeradwyaeth i ymgymryd â'r broses
o sefydlu Fframwaith o ddarparwyr gofal cartref, a fyddai'n gallu darparu gofal
cartref arbenigol yn briodol, a defnyddio'r Fframwaith hwn i brynu pecynnau
gofal cartref arbenigol unigol. Amlygodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd y bydd y fframwaith hwn yn cynnwys darparu gofal iechyd meddwl;
gofynnodd yr Aelodau a oedd hyn yn cynnwys y rheini â dementia. Esboniodd
swyddogion fod gan y Gyfarwyddiaeth fframwaith arferol a oedd eisoes ar waith
ar gyfer y grŵp oedran hŷn (dros 65 oed); defnyddiwyd y fframwaith
hwn ar gyfer yr unigolion yn y grŵp oedran hwn a chanddynt eiddilwch sy'n
gysylltiedig ag oedran, dementia a/neu anableddau. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr
adroddiad o'u blaenau mewn perthynas â fframwaith arbenigol ychwanegol a
fyddai'n berthnasol i grwpiau oedran gweithio, a phlant a phobl ifanc; bydd y
fframwaith hwn yn cynorthwyo'r rheini ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl, yn
ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau plant a phobl ifanc. Manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd fod nifer yr oedolion ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal cartref arbenigol yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd yn gymharol isel; holodd yr Aelodau pam fod y niferoedd mor isel, a gofynnwyd a fyddai'r casgliad data ar ofal cartref yn gwella yn y dyfodol. Eglurodd swyddogion fod nifer bach o bobl ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl sy'n derbyn gofal cartref yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2022-23 PDF 409 KB Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelodau o'r sesiwn Sefydlu Aelodau’r
Gwasanaethau i Oedolion a drefnwyd ar gyfer 17 Tachwedd 2022, ac amlygwyd
pwysigrwydd mynd i’r sesiwn hon. Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a
oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a
ddiffinnir ym Mharagraff 14 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Datblygu Gwasanaethau 'Camu i Fyny ac i Lawr' Derbyniodd Aelodau adroddiad mewn perthynas â'r
bwriad i ddatblygu Gwasanaethau Camu i Fyny ac i Lawr. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |