Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Helen Ceri Clarke (Eitem 5A) – Personol: Ffrind sy'n
gweithio i asiantaeth bartner a enwir yn yr adroddiad. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
12 December 2024 ·
14 January 2025 ·
23 January 2025 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y
Cabinet. |
|
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd
y swyddogion wybod i'r aelodau fod strwythur yr adroddiad wedi'i bennu gan y
system Cyfiawnder Ieuenctid. Mae cyllid wedi'i sicrhau; gall y ddarpariaeth
trin gwallt barhau am flwyddyn arall, a bydd darpariaeth ar gyfer gwasanaeth
barbwr hefyd. Mae'r Bwrdd Rheoli Ieuenctid yn gweithio i leihau nifer y
gwaharddiadau ac ymgysylltu â staff mewn ysgolion i gefnogi disgyblion mewn
perygl. Mae'r cynllun yn cynnwys cynllun peilot lleferydd mewn dwy ysgol ac
archwiliad i ddarparu cymorth cynnar i deuluoedd. Rhannodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a Chadeirydd y Bwrdd
Rheoli'n bryder am nifer y bobl ifanc sydd wedi'u gwahardd a chanddynt
gysylltiadau â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y bwrdd, a gofynnwyd am ddadansoddiad dwfn o'r
plant sy'n cael eu gwahardd a'u cysylltiadau â'r Gwasanaeth Cyfiawnder
Ieuenctid. Gofynnodd
yr aelodau am i'r dadansoddiad hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu. Holodd
yr aelodau a oedd y data wedi ystyried symudiadau a reolir. Nodwyd bod plant
wedi cael eu symud rhwng ysgolion i atal gwaharddiadau. Cadarnhaodd
y swyddogion nad ystyriwyd unrhyw symudiadau a reolir na phlant sydd wedi'u
haddysgu gartref. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod casglu data yn y maes hwn yn
destun pryder. Mae teuluoedd wedi rhoi gwybod i staff eu bod wedi teimlo dan
bwysau i addysgu plant gartref, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Adran
Addysg mewn perthynas â hyn. Roedd
y Cadeirydd yn rhannu'r pryder hwn a gofynnodd am fwy o waith yn y maes hwn. Rhoddodd
y Cyfarwyddwr wybod i'r pwyllgor y gellid ymestyn cwmpas y gwaith y gofynnwyd
amdano eisoes i gynnwys y meysydd hynny, ar gais; bydd adborth am hyn yn cael
ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn ac o bosib y Pwyllgor Craffu Addysg hefyd. Yn
dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad yn adroddiad y
Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin 2023/2024 Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg byr
i'r aelodau o'r adroddiad yn y pecyn agenda. Mae'r adroddiad yn amlinellu
gweithgareddau a chyflawniadau Bwrdd Cynllunio'r Ardal ar gyfer blwyddyn
ariannol 2023-2024, ochr yn ochr â meysydd ffocws yn y dyfodol. Nodwyd bod
2023-2024 yn gyfnod lle cynhaliwyd rhaglen drawsnewid sylweddol; bu gwelliant
mewn nifer o feysydd a disgwylir rhagor o welliannau wrth i Fwrdd Cynllunio'r
Ardal barhau i roi'r rhaglen drawsnewid ar waith i wella gwasanaethau a
chanlyniadau i bobl. Rhoddodd y swyddogion drosolwg o rai o'r
cyflawniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad a meysydd gwaith parhaus. Gofynnodd yr aelodau a fyddai meddyginiaeth
naloxone ar gael i'w defnyddio mewn cymunedau neu a oedd angen hyfforddiant
arbenigol i weinyddu'r feddyginiaeth. Cadarnhaodd y swyddogion fod hyn wedi'i ystyried
ond mae anawsterau oherwydd y cylchedau cenedlaethol ar gyfer cynwysyddion
diffibrilwyr. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys blychau wrth ymyl
cynwysyddion diffibrilwyr, ond mae cyfyngiadau ariannol yn broblem. Mae
ymwybyddiaeth o fannau lle ceir llawer o orddosau ac mae staff sy'n gweithio yn
yr ardaloedd hyn wedi'u hyfforddi ac maent yn cario naloxone. Nodwyd na fyddai
unigolion mewn perygl o orddos yn gallu gweinyddu'r naloxone eu hunain ond fe'u
hanogir i gario'r citiau i helpu unigolion eraill a all orddosio. Rhoddodd y swyddogion wybod i'r aelodau fod firysau
a gludir yn y gwaed wedi gostwng 22%; mae hyn wedi deillio o waith cadarnhaol.
Castell-nedd Port Talbot yw'r unig awdurdod yng Nghymru lle mae gwasanaethau'n
llwyddo i ddileu Hepatitis C yn unol ag amcanion Sefydliad Iechyd y Byd. Mae
nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi gostwng 23% yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod y flwyddyn bresennol. Fodd bynnag, mae
Bwrdd Cynllunio'r Ardal yn parhau i fod yn wyliadwrus am fygythiadau newydd yn
y farchnad gyffuriau, fel opioidau synthetig cryf fel nitazines a xylazine. Mae
Bwrdd Cynllunio'r Ardal yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn a chydweithio â
phartneriaid i fynd i'r afael â'r heriau. Holodd yr aelodau a allai'r gyfradd droseddu godi
oherwydd cost uwch rhai cyffuriau. Dywedodd y swyddogion na fyddent yn gallu ateb y
cwestiwn hwn, ac y dylid ei ofyn i'w cydweithwyr ym maes plismona. Cadarnhaodd
y swyddogion fod potensial ar gyfer profion cyffuriau yn nalfeydd yr heddlu y
gellid eu cymharu ar draws teipoleg troseddu. Mae cymorth ar gael yn nalfeydd
yr heddlu i asesu a brysbennu pobl mewn perthynas â'u defnydd o gyffuriau neu
alcohol, felly gellir ystyried sut mae troseddu a marchnadoedd cyffuriau'n
dylanwadu ar ymddygiad y boblogaeth. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y data,
ac a oedd un person yn cael ei gofnodi gan nifer o wasanaethau. Mae Bwrdd Cynllunio'r Ardal wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl, gan gydweithio i sicrhau cymorth i bawb. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall y darlun ehangach y tu ôl i ddangosyddion perfformiad er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion sy'n newid. Nod Bwrdd Cynllunio'r Ardal yw symleiddio gwasanaethau gydag un pwynt mynediad a darparwr ar gyfer gwasanaethau clinigol ac anghlinigol erbyn diwedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a |
|
Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion wybod
i'r aelodau fod yr adroddiad yn cynnwys manylion am y datblygiadau sylweddol a
wnaed mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth Pwynt Cyswllt Unigol i Oedolion
(SPOC). Gwnaeth yr aelodau drafod y gwelliannau i amser
aros cyfartalog galwadau, a gofyn am enghreifftiau o'r mathau o alwadau a
dderbyniwyd gan y gwasanaeth. Gofynnodd yr aelodau am fwy o wybodaeth am y
system Magic Notes ac ymweliad i arsylwi, os yw'n bosib. Cadarnhaodd y swyddogion fod mathau amrywiol o
atgyfeiriadau yn cael eu derbyn a'u bod yn cynnwys adroddiadau'r heddlu mewn
perthynas â thrais domestig, atgyfeirio unigolion i gael cymhorthion ac
addasiadau cartref ac atgyfeiriadau ynghylch hunanesgeuluso. Ar ôl atgyfeiriad,
bydd y swyddogion yn trafod y ffordd orau o weithredu, a allai gynnwys asesiad
yn y tîm neu gyfeirio/atgyfeirio i wasanaethau eraill. Mae'r system Magic
Notes, os yw unigolion yn cytuno i'w defnyddio, wedi ein galluogi i ymateb yn gyflymach.
Gall staff ddefnyddio'r system ar lechi, ffonau symudol a gliniaduron. Mae
disgwyliadau mawr o ran defnyddio'r system, a'r gobaith oedd y byddai'r
dechnoleg hon yn ein galluogi i gynnal asesiadau gwell wrth y drws blaen, er
mwyn lleihau oedi a galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau'n gyflymach.
Mae rhaglen beilot wrth y drws blaen wedi bod yn llwyddiannus, ac mae'r fenter
bellach yn cael ei hehangu ar draws yr holl wasanaethau i oedolion erbyn diwedd
y flwyddyn. Mae aelod staff pwrpasol wedi'i neilltuo i oruchwylio'r broses hon,
a gellir cyflwyno adroddiadau cynnydd i'r pwyllgor. Crybwyllodd yr aelodau'r gefnogaeth gref y mae'r
fenter wedi'i derbyn gan reolwyr, ac er bod goblygiadau o ran costau, gall y
rhain gael eu cyfiawnhau oherwydd y manteision posib. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Adroddiad Diogelu Blynyddol Gorllewin Morgannwg Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
swyddogion wybod i'r aelodau fod yr adroddiad yn cwmpasu swyddogaethau'r Bwrdd
Diogelu, a'r brif swyddogaeth yw cydlynu ymatebion diogelu ar gyfer plant ac
oedolion ledled y rhanbarth, gan gynnwys asiantaethau a sefydliadau amrywiol.
Mae'r adroddiad yn amlinellu'r asiantaethau sy'n aelodau o'r bwrdd, ei
strwythur, a sut mae'n casglu adborth gan sefydliadau i sicrhau bod diogelu'n
dal i fod yn flaenoriaeth ac yn parhau i ddatblygu yn y maes cynyddol hwn. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Diogelu Dwyflynyddol Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r swyddogion fod yr adroddiad yn
tynnu sylw at yr ymdrechion sylweddol a wnaed a'r heriau y mae Castell-nedd
Port Talbot wedi eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r adroddiad,
sy'n trafod y cyfnod rhwng 2022 a 2024, yn tynnu sylw at gadernid ac ymrwymiad
y timau diogelu yn wyneb galwadau a chymhlethdodau cynyddol. Mae'r adroddiad yn
cynnwys y gwasanaethau plant, y gwasanaethau i oedolion, a diogelu
corfforaethol, gan ymdrin â niwed a risgiau yn y cartref, y tu allan i'r cartref,
ac ar draws cyrff a sefydliadau. Rhoddodd yr aelodau wybod i'r swyddogion y byddai
cwestiynau yn cael eu hanfon atynt, a gwnaethant ofyn am ymateb ysgrifenedig
i'r pwyllgor. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Cynllun Corfforaethol - Monitro Perfformiad Ch3 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai wybod i'r aelodau fod yr adroddiad yn amlinellu data am
berfformiad yn ystod y trydydd chwarter mewn perthynas â'r Cynllun
Corfforaethol. Roedd y swyddogion ar gael i ateb cwestiynau'r aelodau am
swyddogaethau mewn perthynas â chylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu, neu
gwestiynau o ran fformatio cyffredinol yr adroddiad neu'r Cynllun
Corfforaethol. Mynegodd yr aelodau anfodlonrwydd â threfn yr
adroddiad, ond crybwyllwyd bod y mater hwn wedi'i fynegi mewn fforymau eraill. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Data Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Ch3 2024/2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai wybod i'r aelodau fod y mesurau perfformiad yn yr adroddiad yn
cyfleu'r wybodaeth am berfformiad a nodwyd at ddibenion craffu. Gellir darparu
rhagor o ddata, os bydd y Pwyllgor Craffu'n gofyn amdano. Gwnaeth y swyddogion gyflwyno'r naratif i'r aelodau
ynghylch pob un o'r mesurau a ddarperir yn yr adroddiad: Mesur 1 – Canran yr
oedolion sy'n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref Gwnaeth yr aelodau
gyfeirio at y ffigur canrannol yn yr adroddiad a chwestiynu a oedd y ganran
wedi cynyddu neu ostwng. Cadarnhaodd y
swyddogion fod y ffigur yn seiliedig ar nifer y bobl y mae arnom ddyletswydd
statudol i'w hatal rhag bod yn ddigartref, a bod y data’n amlinellu'r achosion
llwyddiannus ymysg y nifer hwnnw. Darperir rhagor o wybodaeth i'r aelodau am y
ffigurau diweddaraf. Nododd yr aelodau y
gallai gynnwys y ffigurau yn yr adroddiad, yn hytrach na chanrannau, gyfleu'r
llwyddiannau yn fwy manwl gywir. Cytunodd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai y byddai ffigurau’n cael eu cynnwys ar
ben y canrannau ac y byddai tueddiadau hwy'n cael eu darparu at ddibenion
craffu. Mesur 2 - Nifer
cyfartalog o ddiwrnodau i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl o'r pwynt
cyswllt cyntaf i'r broses ardystio Mae'r mesur yn
archwilio'r galw a'r pwysau ar Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl. Cyflwynwyd
adroddiad i'r Pwyllgor Craffu'n ddiweddar a dynnodd sylw at y pwysau cyllidebol
a'r amserau aros hir ar gyfer cymhorthion ac addasiadau angenrheidiol.
Awgrymwyd nifer o gynigion i helpu i reoli'r galw yn well. Mae'r dangosydd
perfformiad allweddol hwn yn bwysig er mwyn asesu effaith unrhyw newidiadau a
wneir gan swyddogion a'r cyngor, er mwyn gwella mynediad pobl â'r anghenion
mwyaf at Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl. Mesur 3 - Comisiynu:
Nifer yr oriau o ofal cartref allanol (18+) Mae effeithlonrwydd y
system broceriaeth ar gyfer gofal cartref wedi rhagori ar y farchnad allanol.
Nid oes gwybodaeth yn yr adroddiad am uned ailalluogi Trem y Glyn, a allai
arafu'r trawsnewid i ofal preswyl a lleihau dibyniaeth ar ofal cartref o bosib.
Drwy ddarparu cyfnod o ailalluogi, bydd pobl yn gallu dychwelyd adref gyda
phecyn gofal llai neu heb becyn gofal o gwbl. Mae'r data yn waith ar
y gweill ac yn darparu gwybodaeth sy'n ymwneud ag oriau y mae'r gyllideb yn
darparu ar eu cyfer, ond nid yw'n darparu'r darlun llawn o'r gwaith arfaethedig
i ddatrys problemau. Bydd rhagor o adroddiadau ar gael yn yr hydref. Holodd yr aelodau a
oedd digon o welyau arfaethedig ar gyfer Trem y Glyn. Dywedodd y swyddogion fod dadansoddiad wedi'i gynnal mewn perthynas â ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6d |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau am y
newidiadau a wnaed, gyda chytundeb y Cadeirydd, i Flaenraglen Waith y Pwyllgor
Craffu. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried.
Hysbyswyd yr Aelodau, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, fod cyfarfod ychwanegol
o'r Pwyllgor Craffu wedi'i drefnu ar gyfer 8 Ebrill, lle byddai'r adroddiadau
canlynol yn cael eu hystyried: •Prynu Llety Brys i Leihau Digartrefedd •Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin •Y Diweddaraf am Raglenni Trawsnewid y Gwasanaethau
Cymdeithasol Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod yr adroddiadau
canlynol wedi'u tynnu o'r Flaenraglen Waith: •Caniatâd i ymgynghori ynghylch cymorth amgen
gyda’r nos a'i dreialu – mae’r swyddogion wedi dweud nad oes angen yr adroddiad
hwn ar hyn o bryd. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei darparu ar y ffordd ymlaen
pan fydd ar gael. •Bwriadau Comisiynu ar gyfer Gwasanaeth Tai yn
Gyntaf - mae'r adroddiad hwn wedi'i dynnu oddi ar Flaenraglen Waith y Cabinet
gan nad oes angen penderfyniad mwyach. •Caniatâd i Wasanaethau a Ariennir drwy’r Grant
Cymorth Tai i Bobl Ifanc aildendro - ymdrinnir â hyn dan reolau'r Weithdrefn
Contractau newydd. •Tynnwyd yr adroddiad am Ddiogelwch Cymunedol gan y
bydd cynnwys yr adroddiad yn rhan o seminar i'r holl aelodau a gynhelir ar 24
Ebrill, a fydd yn meithrin dealltwriaeth o waith y tîm Diogelwch
Cymunedol. Mae'r adroddiad canlynol wedi'i symud ar
Flaenraglen Waith y Cabinet. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am y newid ac nid yw'r
aelodau wedi dewis craffu ar yr eitem hon. •Caniatâd i dendro ar gyfer llety brys ar gyfer
menywod, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |