Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai, drosolwg byr o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.
Rhoddwyd gwybod i aelodau y byddai adborth gan y Pwyllgor Craffu'n cael ei
gyflwyno i'r cyngor llawn. Tynnodd yr adroddiad sylw at y gwaith da sy'n cael ei
wneud yn ogystal â'r heriau a wynebir gan wasanaethau yn ystod cyfnodau o alw
cynyddol a nifer cynyddol achosion
cymhleth. Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y buddsoddiad sylweddol gan y cyngor a
rhoddodd ddiolch am y gefnogaeth barhaus gan aelodau. Nododd y Cyfarwyddwr yr
angen i adolygu'r fformiwla gyllido i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol tymor
hir yn well. Diolchodd yr Aelodau i'r cyfarwyddwr am yr
adroddiad cynhwysfawr ond gwnaed sylwadau am y defnydd o acronymau yn yr
adroddiad. Gwnaeth yr aelodau sylwadau am y defnydd o
ganrannau ar dudalen 79 yr adroddiad. Gofynnodd yr aelodau i'r ffigurau a'r
canrannau gael eu cynnwys yn adroddiadau'r dyfodol. Roedd y Cyfarwyddwr yn cydnabod bod hyn wedi cael
ei godi gan aelodau yn y gorffennol ac ymddiheurwyd am yr hepgoriad. Rhoddwyd
sicrwydd i aelodau y byddai adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ffigurau a
chanrannau. Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiolch i'r aelodau am dynnu
sylw at y defnydd o acronymau yn yr adroddiad. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau y
byddai'r defnydd o acronymau'n cael ei ystyried yn y dyfodol i sicrhau bod
adroddiadau'n cael eu hystyried mewn iaith syml sy'n hawdd ei deall. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu |
|
Adolygiad Strategol Canol Cyfnod ac Adroddiad Blynyddol y Grant Cymorth Tai ar gyfer 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r
aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Gofynnodd yr aelodau a ellid defnyddio'r grant
cymorth tai i gomisiynu gwasanaethau'n unig neu a oedd modd ei defnyddio i
brynu eiddo'n uniongyrchol. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y grant yn
seiliedig ar refeniw ac nad oes modd ei defnyddio fel cyfalaf er mwyn prynu
eiddo. Caiff y grant ei arwain gan wasanaethau a chaiff ei ddefnyddio i
gomisiynu gwasanaethau a hefyd i ariannu nifer o wasanaethau mewnol. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Adroddiad yr Ombwdsmon am Ofalwyr Di-dâl Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion
drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaeth at y cynllun gweithredu a gynhwysir yn atodiad un yr adroddid a
nodwyd bod y rhan fwyaf o'r tasgau naill ai wedi cael eu rhoi ar waith neu ar y
trywydd iawn. Croesawodd yr Aelodau yr wybodaeth a gofynnwyd am y
ddiweddaraf o ran cydweithio gyda'r gwasanaethau iechyd, gan gynnwys meddygon
teulu, ysbytai a fferyllfeydd. Cadarnhaodd swyddogion fod gwaith wedi'i wneud gyda
chlystyrau gofal sylfaenol a oedd yn cynnwys meddygon teulu, fferyllfeydd,
optometryddion a deintyddion. Ar hyn o bryd mae cynllun peilot yn cael ei
gynnal yn ardal Pontardawe i gyflwyno hyfforddiant gofalwyr i bob fferyllfa.
Bydd yn esbonio hawliau gofalwyr a'r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael yng
Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer gofalwyr o bob oedran. Mae gwaith yn mynd
rhagddo gyda'r bwrdd iechyd i gefnogi meddygon teulu i allu dod o hyd i ofalwyr
a'u cyfeirio at wasanaethau priodol. Hefyd, mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi
gofalwyr yn yr ysbyty a sut y gallant gael eu cefnogi wrth ryddhau cleifion. Gofynnodd yr aelodau am nifer y bobl a oedd wedi
cwblhau'r hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu a fferyllfeydd. Cadarnhaodd swyddogion fod nifer sylweddol o bobl
wedi cwblhau'r hyfforddiant. Darperir yr hyfforddiant mewn partneriaeth â
Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol,
y Gwasanaeth Ieuenctid a rhai gofalwyr. Darperir hyfforddiant yn ystod sesiynau
hyfforddi meddygon teulu. Mae fferyllfeydd wedi ymgysylltu'n dda â'r
hyfforddiant ac maent yn edrych ar ffyrdd y gallent symleiddio'r broses a
chofnodi lle y mae gofalwyr yn gweithio er mwyn gwella cefnogaeth. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Diogelu Dwyflynyddol Castell-nedd Port Talbot. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gyda chytundeb y pwyllgor, gohiriwyd yr eitem hon
tan y cyfarfod nesaf. Gofynnodd aelodau i'r wybodaeth hon gael ei chyflwyno i'r
pwyllgor naill ai bob chwe mis neu'n flynyddol. Gohiriwyd yr eitem hon. |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd swyddogion wrth aelodau am y newidiadau a
wnaed, gyda chytundeb y Cadeirydd, i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried. Caiff yr adroddiadau canlynol eu hystyried yn ystod
cyfarfodydd yn y dyfodol: 13 Mawrth 2025 • Adroddiad
Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer 2023/24 • Adroddiad
ynghylch y Diweddaraf am y Gwasanaeth Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer
Gwasanaethau i Oedolion. • Cynllun
Corfforaethol - Monitro Perfformiad - Chwarter 3 1 Mai 2025 • Adroddiad
Blynyddol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Dywedwyd wrth aelodau fod yr adroddiadau canlynol
wedi cael eu hychwanegu at Flaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer 12 Mawrth: • Prynu
Llety Brys i Leihau Digartrefedd • Sicrhau
Ansawdd wrth Gomisiynu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Oherwydd yr amserlen gyfyngedig, ni fydd cyfle i
aelodau ddewis yr eitemau hyn ar gyfer craffu cyn penderfynu. Byddwn yn rhoi
gwybod i aelodau pan fydd yr adroddiadau'n cael eu cyhoeddi ac atgoffwyd yr
aelodau fod y pwyllgor yn gallu dethol eitem ar gyfer craffu ar ôl penderfynu
neu gallant gwestiynu penderfyniad y Cabinet os ydynt am wneud hynny. Dywedwyd wrth yr aelodau fod rhestr o adroddiadau
data perfformiad awgrymedig yn cael ei dosbarthu cyn ei nodi yn y flaenraglen
waith. Gofynnwyd i'r aelodau roi gwybod i'r Cadeirydd os ydynt am awgrymu
adroddiadau ychwanegol sy'n ymwneud â pherfformiad. Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd yr aelodau yr eitemau preifat o
Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Caniatâd i barhau i ailfodelu gofal a chymorth yng nghartref Trem y Glyn (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Cytundebau Enwebu ar gyfer Llety Dros Dro'r Sector Preifat (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn gwaith craffu, nid oedd yr aelodau'n
cefnogi'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Caniatâd i barhau i ailfodelu Llety â Chymorth i Bobl Ifan (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Pryniant llety dros dro a weithredir gan y Cyngor (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside (Eithriedig o dan Baragraff 13) Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside (Eithriedig o dan Baragraff 13) Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |