Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 93 KB · 12 Gorffennaf 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Arfarniad Opsiynau Grant Cyfleusterau i'r Anabl PDF 212 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad manwl a diddorol. Rhoddodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y
pecyn agenda. Rhoddodd
swyddogion wybodaeth ychwanegol i'r aelodau nad oedd wedi'i chynnwys yn yr
adroddiad. Mae'r newid i elfen ddisgresiynol y grant wedi sbarduno newid mewn
ymddygiad gyda chynnydd mewn ceisiadau am lifftiau fertigol oherwydd y gost is
o'i gymharu ag estyniadau. Fodd bynnag, nid yw'r ymagwedd hon yn darparu ateb
hirdymor priodol. Cododd y
Cadeirydd bryder ynghylch risgiau diogelwch posib i rai preswylwyr sy'n
defnyddio lifftiau fertigol. Gofynnodd yr
aelodau sut y cymhwyswyd taliadau eiddo oes ar gyfer tai cymdeithasol . Cadarnhaodd
swyddogion y byddai cyllid disgresiynol ar gael i eiddo preifat ac eiddo a
rentir yn breifat yn unig. Roedd yn debygol y byddai unrhyw gyllid disgresiynol
yn cael ei ad-dalu ar ryw adeg o eiddo preifat neu eiddo a rentir yn breifat,
ond nid oedd hyn yn berthnasol i dai cymdeithasol. Holodd yr Aelodau
a oedd yn ofynnol i landlordiaid preifat gydlofnodi unrhyw gytundeb cyllido. Cadarnhaodd
swyddogion fod yn rhaid rhoi caniatâd landlord cyn y gellir gwneud unrhyw waith
ar eiddo a rentir yn breifat a bod landlordiaid yn ymwybodol o'r amodau
cyllido. Gofynnodd yr
aelodau a oedd cleifion ysbyty a oedd yn aros am addasiadau i eiddo yn cael eu
blaenoriaethu ac a oedd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu'n ariannol. Cadarnhaodd
swyddogion nad yw'r Grant Rhyddhau o'r Ysbyty a oedd ar gael yn flaenorol yn
cael ei gynnig bellach a bod yn rhaid i Therapyddion Galwedigaethol
flaenoriaethu angen. Lle nodir angen blaenoriaethol, byddai'r cais yn cael ei
symud cyn belled ag y bo modd ar y rhestr aros, yn dibynnu ar gyflwr presennol
y gwariant. Nodwyd bod ymrwymiadau eisoes ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Holodd yr aelodau
a oes angen mwy o arian oddi wrth y bwrdd iechyd a holwyd pam nad yw'r Grant
Cyllido Rhyddhau o'r Ysbyty ar gael mwyach. Cadarnhaodd
swyddogion fod ymdrechion wedi'u gwneud i gael arian ychwanegol gan y bwrdd
iechyd, ond ni chafwyd unrhyw arian. Bu newid i Grantiau Bae'r Gorllewin, ac
ataliwyd cymeradwyaeth. Nodwyd bod llawer o bobl ar y rhestr aros yn cael yr un
flaenoriaeth a bod anawsterau o ran blaenoriaethu gan fod yr adnoddau sydd ar
gael yn brin. Mewn rhai achosion, cyflwynodd Therapyddion Galwedigaethol
ddarnau o waith â blaenoriaeth gyda gweddill y gwaith yn cael ei wneud yn
ddiweddarach. Rhoddodd Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion sicrwydd na fyddai cleifion ysbyty sy'n aros am
addasiadau yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ond y byddent yn cael eu
symud i leoliad gofal estynedig mewn gwely preswyl, gyda'r Cyngor yn talu'r. Holodd yr
aelodau, pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, pa mor gyflym y byddai'r
ôl-groniad presennol yn clirio. Cadarnhaodd swyddogion pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo hyn y byddai angen newidiadau i'r offer polisi a'r ddogfen gyfreithiol, gyda'r nod o roi'r newid ar waith erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd mae 274 ar y rhestr aros ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu · Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu. |
|
Monitro Perfformiad · Dim eitemau
i’w hystyried. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth y pwyllgor fod adroddiadau perfformiad Chwarter 1 a Chwarter 2
wedi'u hychwanegu at y flaenraglen waith ar gyfer 12 Rhagfyr, gydag adroddiadau
perfformiad chwarterol yn cael eu derbyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried. |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol PDF 808 KB · Blaenraglen Waith y Cabinet ·
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd yr
aelodau gan swyddogion o eitemau newydd a oedd wedi cael eu hychwanegu at
Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried. Atgoffodd y
Cadeirydd swyddogion o'r angen am ddisgrifiad o bwrpas yr adroddiad ar
Flaenraglen Waith y Cabinet i gynorthwyo aelodau craffu wrth ddewis eitemau i
graffu arnynt. Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar eitemau preifat Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau'r eitem breifat. |
|
Achos Busnes Cychwynnol ar gyfer Datblygu Canolfan Frysbennu (Wedi'i heithrio o dan baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn craffu,
cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet. |