Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 18fed Ebrill, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cynghorydd H.C. Clarke – Eitem 13, Personol – mae cyfaill yn gweithio i sefydliad a nodwyd mewn adroddiad.

 

Y Cynghorydd S. Freeguard – Eitem 12, Personol – yn aelod o fwrdd sefydliad a nodwyd mewn adroddiad.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 271 KB

·       2 Chwefror 2024

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2024 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Adroddiad Blynyddol - Ymgysylltu a Chyfranogiad

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr eitem hon yn ymwneud â'r Gwasanaethau Plant. Bydd adroddiadau'n ymwneud â'r Gwasanaethau Oedolion a Thai yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at yr adroddiad a amlinellodd fod cyfarfod wedi'i gynnal â landlordiaid. Holodd yr aelodau faint o landlordiaid preifat a oedd yn y cyfarfod. Ar ben hynny, gofynnwyd faint o landlordiaid preifat sydd yn CNPT ac a allai aelodau gael rhestr o landlordiaid fel y gall yr aelod ymchwilio i faint o dai rhent preifat sydd ar gael o'u cymharu ag eiddo cymdeithasau tai. Cadarnhaodd swyddogion mai landlordiaid preifat yn unig oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cynhaliwyd y fforwm i ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i landlordiaid ynghylch pethau a all fod yn berthnasol i'r landlordiaid. Y bwriad yw cynnal y fforymau hyn bob chwarter. Dywedodd swyddogion na fyddent yn gallu darparu rhestr o holl landlordiaid preifat yr ardal ac na allent gadarnhau faint o eiddo preifat sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, efallai fod Iechyd yr Amgylchedd yn cadw'r wybodaeth hon.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Rhentu Doeth Cymru'n meddu ar lawer o wybodaeth am yr eiddo rhent preifat sydd ar gael mewn wardiau penodol. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion roi gwybod i'r pwyllgor am unrhyw fforymau/ddigwyddiadau y gall aelodau'r pwyllgor ddod iddynt yn y dyfodol, gan eu bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Adroddiad Cwynion Blynyddol

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar dudalen 40. Nodwyd bod pob cwyn yn cael ei datrys yng ngham 1, ond holodd yr aelodau a oes unrhyw gwynion yn symud ymlaen i gamau pellach. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu cwynion a gafodd eu cadarnhau'n rhannol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw apeliadau. Cadarnhaodd swyddogion y byddai nifer o gwynion wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Amlinellodd swyddogion wahanol gamau'r broses gwyno. Mae Cam 1 yn ymchwiliad gan swyddogion mewnol. Mae Cam 2 yn ymchwiliad gan swyddogion allanol ac mae Cam 3 yn atgyfeiriad i'r Ombwdsmon. Dywedodd yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol gweld y nifer amrywiol o gwynion ar wahanol gamau a amlinellir yn yr adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n cael gafael ar yr wybodaeth honno ar gyfer aelodau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 42 yr adroddiad a'r weithdrefn cwynion corfforaethol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw gwynion yn unol â'r weithdrefn hon a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth hon yn cael eu hanfon at swyddogion yn wythnosol a'i bod ar gael. Mae cwynion corfforaethol yn tueddu i ymwneud â mwy nag un gyfarwyddiaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth am gwynion a oedd yn cael eu hystyried drwy'r broses cwynion corfforaethol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Polisi Atal ac Adennill Ôl-ddyledion Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

7.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Trefniadau cytundebol ar gyfer Gwasanaethau'r Trydydd Sector ac Anrheoliadol a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Trefniadau Cytundebol 2024/25 ar gyfer Amrywiaeth o Wasanaethau a Ariennir drwy'r Grant Cymorth Tai

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.