Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Caniatâd i Ymgynghori ar yr adolygiad o Wasanaethau Llety
Brys Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gomisiynwyd. Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Amlinellodd swyddogion y cyllid a ddefnyddir ar gyfer yr eitem hon. Roedd adolygiad o'r gwasanaethau wedi'i gynnal, gyda'r nod o nodi ffyrdd o
ailfodelu gwasanaethau fel eu bod yn cyd-fynd yn fwy ag arfer gorau ac yn
sicrhau y gall gwasanaethau llety brys ddiwallu anghenion presennol ac
anghenion y dyfodol. Nid yw'r gwaith hwn yn gysylltiedig ag unrhyw darged
effeithlonrwydd nac yn cael ei ysgogi gan arbedion ariannol. Pwrpas yr
adolygiad hwn yw sicrhau bod modelau sy'n cael eu comisiynu'n cynnig
gwasanaethau y gwneir y gorau ohonynt ac sy'n ymateb i anghenion y bobl hynny y
mae arnynt angen gwasanaethau o'r fath. Mae gwaith ymgysylltu amrywiol wedi'i wneud. Mae'r adborth wedi bod yn
gadarnhaol mewn perthynas â'r model arfaethedig. Mae ymchwil wedi'i wneud ar
draws y DU mewn arfer da. Mae'r adroddiad yn amlinellu angen a nodwyd i
amrywiaethu'r math o lety sy'n cael ei ariannu. Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch yr unedau gwasgaredig a nodwyd yn yr
opsiynau a phwy fyddai'n eu defnyddio. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yr holl
wasanaeth ar gyfer pobl y mae angen iddynt symud o amgylchedd anniogel. Ni fydd
y llety'n cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion cyffredinol. Roedd yr
aelodau'n dymuno gofyn cwestiwn ar ran breifat yr adroddiad. Cynigiwyd ac
eiliwyd mynediad i gyfarfodydd. Penderfynwyd: gwahardd y
cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Penderfynwyd: Atal mynediad i
gyfarfodydd dros dro. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 384 KB Cofnodion: Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 430 KB Cofnodion: Cytunodd yr aelodau i ystyried adfer ymweliadau â
chartrefi gofal. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: bod y
cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran
100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar
gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Trefniadau cytundebol gyda The Hollins Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad. Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn Ad-dalu arian y
Grant Cyfleusterau i'r Anabl Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet. Adolygu ffioedd cleientiaid i sicrhau ansawdd a gwasanaethau technoleg gynorthwyol gynaliadwy Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet. Cytundeb Enwebu ar gyfer Llety Dros Dro'r Sector Preifat Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.
|