Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn
craffu ar eitemau 7, 8, 9, 10 a 15 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023 a 4 Ionawr 2024 fel cofnodion gwir a chywir. |
|
Prosesau Derbyn i'r Ysbyty a Rhyddhau o'r Ysbyty PDF 480 KB Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion grynodeb byr o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Holodd yr Aelodau pa fewnbwn sydd gan
gleifion i'r broses Rhyddhau i Adfer ac Asesu. Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion fod cleifion sy'n ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau yn cael eu rhoi
ar lwybr a chynhelir asesiad gwaith cymdeithasol gyda'r unigolyn a'i deulu.
Nodwyd ei bod yn fwy buddiol asesu anghenion cleifion o'u cartref eu hunain yn
hytrach nag yn yr ysbyty. Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a
nodwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2022-23 Cadarnhaodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod yr adroddiad
blynyddol yn gysylltiedig â 2022/2023 ac nad oedd yn adlewyrchiad o'r sefyllfa
bresennol. Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 45 yr adroddiad a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch
targedau profi mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau. Cadarnhaodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau fod profion yn cael eu cynnal lle'r oedd risg uwch
o firysau a gludir yn y gwaed fel hepatitis a HIV. Mae'r targed yn ymwneud â
chynnig profion gwaed i bobl sydd mewn cysylltiad â'r gwasanaethau, i brofi eu
hiechyd ehangach. Cyfeiriodd
yr Aelodau at dudalen 35 yr adroddiad a gofynnwyd a oedd diweddariad o ran
cynnydd mewn perthynas â gofalwyr di-dâl. Dywedodd
y Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau mai un o'r themâu allweddol yn
y strategaeth bresennol yw darparu rhagor o adnoddau a chefnogaeth i ofalwyr
di-dâl. Mae arian grant wedi galluogi tri Hyrwyddwr Gofalwyr i weithio o fewn y
rhwydwaith ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i ofalwyr di-dâl a'u cefnogi.
Nodwyd efallai bydd y ffigur a ddyfynnir o 20k o ofalwyr di-dâl yn uwch mewn
gwirionedd. Ystyriodd
yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet. Mewn
perthynas â'r tair eitem agenda ganlynol, dywedodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth yr aelodau eu bod wedi adrodd yn ôl i'r
pwyllgor hwn yn flaenorol ynghylch manylion y bwriad strategol ar gyfer y
pedair i bum mlynedd nesaf. Mae'r cynlluniau ar gamau datblygu gwahanol. Bu'n
rhaid adrodd ar rai agweddau o'r adroddiadau'n breifat oherwydd gwybodaeth
sensitif am y farchnad. Cynllun
Strategol Tai a Digartrefedd Rhoddodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd
sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda. Cyfeiriodd
yr Aelodau at dudalen 80 yr adroddiad a dywedodd y byddai gweithio'n strategol
gyda landlordiaid preifat yn heriol yn yr hinsawdd bresennol a gofynnwyd beth
yw'r strategaeth wrth symud ymlaen mewn perthynas â gweithio gyda landlordiaid
preifat? Dywedodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau y byddai fforwm Landlordiaid y Sector
Rhentu Preifat yn cael ei gynnal yn fuan. Bydd y fforwm hwn yn ein helpu i
ddeall yr heriau y mae landlordiaid preifat yn eu hwynebu, codi ymwybyddiaeth o
gynlluniau a all eu cefnogi i ddarparu rhent fforddiadwy a cheisio ysgogi mwy o
dai fforddiadwy yn y sector preifat. Mynegodd
yr Aelodau bryder mewn perthynas ag anawsterau a gafwyd rhwng datblygwyr a cheisiadau
cynllunio a nodwyd bod angen trafodaethau pellach rhwng y Gwasanaethau
Cymdeithasol a chynllunio. Mae angen edrych yn fanwl ar landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig mewn perthynas â chyd-berchnogaeth. Cadarnhaodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau mai diben y weithred hon oedd sicrhau bod mwy o
waith ar y cyd. Mae angen ystyried cymunedau'n gyffredinol a sut y gall y
Cyngor sicrhau bod datblygiadau a chamau gweithredu'n cynnig y manteision
mwyaf. Roedd yr Aelodau'n falch bod Teithio Llesol wedi'i gynnwys yn y strategaeth a dywedwyd bod rhai trigolion yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnod Gweithredu’r Pwyllgor PDF 486 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau Gofnod Gweithredu'r
Pwyllgor |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 429 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: bod y
cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran
100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Achos busnes dros sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn
Teuluoedd mewnol Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn
agenda preifat. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y
Cabinet. |