Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8, 9, 10, 15 ac 18 ar Agenda Bwrdd
y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 216 KB 25
Ionawr 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r broses Pontio rhwng Gwasanaethau Plant ac Oedolion PDF 456 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
swyddogion drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Gofynnodd
yr aelodau i swyddogion a oedd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i helpu pobl
ifanc ag anghenion cymhleth i bontio i'r gwasanaethau oedolion. Nododd
Pennaeth y Gwasanaethau Plant bwysigrwydd cael gweithlu profiadol ar draws y
Gwasanaethau Plant ac Oedolion i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed a
rheoli risgiau. Bydd y panel yn helpu i gefnogi'r gyfarwyddiaeth gyfan i nodi a
chefnogi pobl ifanc drwy'r cyfnod pontio a chydnabod lle y gellir lleihau'r
gefnogaeth. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod nifer o ffrydiau gwaith
gwahanol wedi'u sefydlu, mae'r staff yn cyfarfod i benderfynu a yw'r
cynlluniau'n briodol ac i nodi adnoddau sydd ar gael a bylchau. Nodwyd y gall
pobl ifanc fod mewn gofal preswyl am amrywiaeth o resymau cymhleth, a bod angen
pecynnau gofal uchel ar rai ohonynt. Holodd
yr aelodau a oedd unrhyw becynnau cymorth ar gael i deuluoedd sydd wedi gofalu
am bobl ifanc mewn lleoliad byw â chymorth. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau ei bod hi'n bwysig bod sgyrsiau cynnar yn cael eu
cynnal gyda theuluoedd i helpu i gynllunio ar gyfer pontio ar oedran iau. Mae'r Panel Pontio yn agored i'r holl
wybodaeth bontio a bydd yn cael ei defnyddio'n strategol ac yn weithredol. Bydd
swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ymhen chwe mis ar sut mae'r
panel wedi'i gwreiddio mewn arfer. Ystyriodd
yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (cynhwysir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 3 Dywedodd
yr aelodau ei bod hi'n anodd dilyn cynllun newydd yr Adroddiad Perfformiad. Diolchodd
y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i'r aelodau am yr
adborth, y gellid ei ddefnyddio i adolygu'r ffordd y caiff y data ei gyflwyno.
Mae'r adroddiad presennol yn cynnwys cyflwyniadau corfforaethol a dadansoddiad
o dueddiadau. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai'n ddefnyddiol gweithio gydag
aelodau'r pwyllgor i nodi pa wybodaeth fyddai'n berthnasol i'r pwyllgor wrth
symud ymlaen. Cydnabu'r
Cadeirydd fod sesiynau Hyfforddiant Data Perfformiad wedi'u cynnal ar gyfer pob
aelod ond awgrymodd y dylid trefnu sesiwn arall i ail-ymweld â data sy'n
berthnasol i'r pwyllgor i gynorthwyo
dealltwriaeth aelodau. Gofynnodd
yr aelodau am eglurhad pellach ynghylch pam nad oedd peth o'r data yn addas i'w
gymharu. Cyfeiriodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau at y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) ar
dudalennau 39-47 yr adroddiad a dywedodd wrth aelodau nad oedd eitemau nad
oeddent yn addas i'w cymharu wedi cael eu hadrodd arnynt yn y blynyddoedd
blaenorol. Roedd y data'n ymwneud â nifer o DPA newydd a ddefnyddir i fonitro
gweithgarwch newydd ac effeithiau a fwriadwyd.
Dywedodd
y Cyfarwyddwr fod gwaith wedi'i wneud yn flaenorol gydag aelodau ynghylch nodi
sut y gellid cyflwyno gwybodaeth perfformiad ystyrlon. Gellir ailymweld â'r
gwaith hwn a byddai'n ddefnyddiol cynnwys aelodau er mwyn penderfynu pa
wybodaeth fyddai'n ddefnyddiol i'r pwyllgor. Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 42 o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn yr agenda a
gofynnwyd am ragor o wybodaeth am Banel y Sianel. Cadarnhaodd
y Pennaeth Tai a Chymunedau fod Panel y Sianel yn grŵp amlasiantaeth a
sefydlwyd i ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â phobl a all gael eu denu i
mewn i weithgaredd terfysgol. Nid yw'r DPA yn rhoi arwydd clir o'r sefyllfa
bresennol. Yn y flwyddyn flaenorol, nodwyd bod saith o bobl wedi dod yn llai
agored i niwed ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio i’r panel, fodd bynnag, yn
ystod y flwyddyn hon, dim ond un atgyfeiriad oedd. Mae angen adolygu'r DPA wrth
symud ymlaen i ddarparu darlun mwy cywir. Cadarnhaodd
swyddogion fod Panel y Sianel yn eistedd o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol;
mae'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn cydlynu'r Panel, sy'n cael ei gadeirio
gan y Prif Swyddog Diogelu. Gellir cyfeirio at Banel y Sianel os codir pryderon
lefel isel am ymddygiad a diddordebau unigolyn. Mae'r fwrdeistref sirol yn cael
ei hystyried yn ardal risg isel ac mae'r niferoedd atgyfeirio yn isel ond mae'n
bwysig nodi a mynd i'r afael â phryderon. Mae angen gwaith parhaus ar lefel
gorfforaethol i atgoffa staff a phartneriaid y Panel am y llwybr atgyfeirio a'r
math o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 45 o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn yr agenda a
gofynnwyd am ychwanegu eitem at y Flaenraglen Waith , i amlinellu sut mae aelwydydd yn cael eu
hatal rhag cyflwyno fel pobl ddigartref, er mwyn galluogi aelodau i gefnogi preswylwyr. Croesawyd yr ychwanegiad i'r Flaenraglen Waith gan y Pennaeth Tai a Chymunedau a nodwyd bod Castell-nedd Port ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 476 KB Cofnodion: Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 432 KB Cofnodion: Gofynnodd
y Cadeirydd am gyfarfod gyda swyddogion i drafod y Flaenraglen Waith yn
fanylach i ystyried meysydd y gallent fod wedi cael eu hanwybyddu hyd yma. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Urgent Items Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Pre-Decision Scrutiny of Private Item/s Dewis eitemau preifat priodol o Agenda Bwrdd y
Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar
gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Contract prynu yn ôl y galw ar gyfer darpariaeth gofal a chefnogaeth
meddiannaeth unigol Yn
dilyn craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad. Trefniadau comisiynu ar gyfer datblygu Gwasanaeth Ymateb Symudol CNPT Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet. |