Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol · 13 Mawrth 2025 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
13 Mawrth 2025 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Tai a
Chymunedau grynodeb byr i'r aelodau o'r adroddiad yn y pecyn agenda. Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad ar rai o'r pwyntiau allweddol o'r adroddiad a'r cynnydd a
wnaed hyd heddiw. Rhoddodd
y Cadeirydd longyfarchiadau i'r staff am adroddiad ardderchog ac am y gwaith
sy'n mynd rhagddo yn yr ardal hon. Gofynnodd
Aelodau am y mesurau sydd ar waith i sicrhau bod partneriaid yn cyflawni eu
hymrwymiadau a bod y data a ddarperir yn gywir. Dywedodd
y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau fod y gwasanaethau a gomisiynwyd mewn perthynas â cham-drin domestig yn cael eu hariannu'n bennaf gan
grantiau cymorth tai. Bydd y tîm Comisiynu'n gweithio i fonitro gwasanaethau,
effeithiau a chanlyniadau. Roedd
aelodau'n fodlon gyda'r ffaith y byddai mwy o bwyslais ar droseddwyr yn y
dyfodol, a gofynnwyd iddynt gynnwys effeithiau gwaith yn y maes hwn fel eitem
ar flaenraglen waith yn y dyfodol. Nododd
aelodau fod lloches ar gael i ddynion yn benodol a gofynnwyd am y sefyllfa ar
gyfer pobl drawsryweddol. Cadarnhaodd
y Pennaeth Gwasanaeth fod amrywiaeth o wasanaethau'n cael eu comisiynu'n
uniongyrchol, gan gynnwys cymorth lle bo'r angen. Mae'r cymorth a ddarperir
wedi'i deilwra i anghenion asesedig pob unigolyn. Nodwyd bod unigolion yn
derbyn darpariaethau drwy linell gymorth genedlaethol, lle maent yn cael eu
hasesu ac maent yn derbyn lleoliad diogel sy'n briodol i'w hanghenion. Mae'r
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn llunio arweiniad ynghylch goblygiadau
penderfyniad diweddar y Goruchaf Lys. Gofynnodd
aelodau am faint o ymgysylltiad sydd â grwpiau goroesi i sicrhau bod y
strategaeth yn mynd i'r afael ag anghenion y rheini y mae angen cefnogaeth
arnynt fwyaf yn effeithiol. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod y strategaeth a lansiwyd yn 2023 yn cynnwys
ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cynnwys grwpiau arweinyddiaeth, darparwyr
trydydd sector a dioddefwyr risg uchel o'r gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar
Drais Domestig. Roedd adborth gan oroeswyr yn allweddol wrth lunio gwasanaethau,
gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i fylchau a meysydd i'w gwella. Cynhelir
cyfranogaeth barhaus gan oroeswyr drwy agweddau amrywiol ar y gwaith hwn, gan
gynnwys cyfathrebu a grwpiau ymgysylltu. Mae'r ymagwedd hon yn helpu i lywio
camau gweithredu yn y dyfodol ar gyfer yr holl bartïon dan sylw, gan gynnwys
iechyd, yr heddlu a darparwyr gwasanaethau. Er bod cynnwys goroeswyr yn
hanfodol, gall rhannu straeon personol mewn grŵp fod yn heriol. Mae
Cymorth i Fenywod Cymru'n cefnogi integreiddio adborth goroeswyr i'r
strategaeth, a chaiff hyn ei adolygu dros y blynyddoedd nesaf gan ddefnyddio'r
un broses ymgynghori. Gofynnodd
aelodau a yw cynlluniau i bylu goleuadau yn y fwrdeistref sirol yn cyd-fynd â
nodau'r strategaeth. Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau fod swyddog arweiniol y cynllun peilot ar gyfer goleuadau wedi ymgysylltu â Diogelwch Cymunedol a phartneriaid i drafod y cynigion. Cyn dechrau'r cynllun peilot, fe wnaethant ymgysylltu â Grŵp Arweinyddiaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol, Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol a Chymorth i Fenywod Thrive. Darparwyd rhestr o ardaloedd a gynhwyswyd yn y cynllun peilot i groeswirio enwau strydoedd yn erbyn y gronfa ddata, gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau Blaenraglen Waith y
Pwyllgor Craffu i'w hystyried. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion a Sylwadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 80 o'r adroddiad a holodd a oedd data meincnodi ar gael. Dywedodd
swyddogion nad oedd data meincnodi i gymharu ag awdurdodau eraill ar gael.
Mae'r ombwdsmon yn adrodd ar gwynion fel cyngor ond nid yw hyn yn canolbwyntio
ar wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, o drafod â chydweithwyr ar draws y
rhanbarth, mae ffigyrau Castell-nedd yn gymharol isel. Nodwyd yr ymdrinnir â
sylwadau'n gyflym ac mae cyfle i ymdrin â chwynion cyn iddynt symud ymlaen i'r
cam ffurfiol. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Data Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Ch4 2024/2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mesur 1 – Canran yr aelwydydd sy'n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref Gofynnodd yr aelodau pam y mae ffigurau'n lleihau
ar ddechrau 2024. Adroddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau ar gynnydd
yn nifer y bobl a gafodd eu hatal rhag dod yn ddigartref dros y flwyddyn
ddiwethaf. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i helpu i atal
digartrefedd o fewn 56 diwrnod i berson ddod yn ddigartref. O ganlyniad i
ailstrwythuro tîm a deddfwriaeth newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i
landlordiaid roi chwe mis o rybudd, mae awdurdodau bellach yn ymyrryd yn
gynharach, gan atal digartrefedd cyn iddo fod yn ddyletswydd statudol. Mae'r
ymagwedd ragweithiol hon wedi arwain at atal digartrefedd mewn modd mwy
effeithiol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn canolbwyntio ar
waith ymyrryd yn gynnar. Roedd adroddiad yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor yn ddiweddarach. Mesur 6 – Nifer y Plant ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant Mesur 8 – Nifer y plant sydd wedi'u hailgofrestru
ar y Gofrestr Amddiffyn Plant Roedd aelodau'n bryderus am y cynnydd yn nifer yr
achosion o gam-drin emosiynol. Bydd y data'n helpu aelodau i fonitro hyn wrth
symud ymlaen. Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r gostyngiad yn y niferoedd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023. Gan
gyfeirio at y tabl ar dudalen 104 o'r adroddiad, roedd un plentyn wedi cael ei
ailgo0frestru ar y gofrestr amddiffyn plant ar gyfer yr un cyfnod. Gofynnodd
aelodau a oedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant yn cyfeirio at blant
sy'n newydd i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai wrth aelodau na fyddai'r plant yn newydd i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol, ond y gallent fod yn newydd i'r gofrestr amddiffyn plant. Esboniodd swyddogion fod y data ailgofrestru'n
adlewyrchu'r plant hynny sydd wedi bod ar y gofrestr amddiffyn plant yn y
gorffennol ac yna wedi cael eu cofrestru yn ystod cyfnod arall. Mesur 2 - Nifer cyfartalog o ddiwrnodau i ddarparu
Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl o'r pwynt cyswllt cyntaf i'r broses ardystio Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynglŷn â'r
term 'pwynt cyswllt cyntaf'. Cadarnhaodd swyddogion mai'r pwynt cyswllt cyntaf
oedd y pwynt lle cysylltodd aelod o'r cyhoedd â'r awdurdod am y tro cyntaf. Dywedodd Aelodau fod y ffigurau wedi gwella, yn y
gorffennol roedd rhestr aros tair blynedd. Gofynnodd aelodau a oedd system flaenoriaeth ar
waith ar gyfer yr achosion mwyaf brys. Cadarnhaodd swyddogion fod y Therapyddion
Galwedigaethol yn asesu achosion ac yn cynghori swyddogion ar angen
blaenoriaethol ac roedd yr achosion hynny'n cael eu blaenoriaethu. Nodwyd y
bydd llawer o achosion mewn sefyllfa eithaf brys. Ailgyflwynwyd y prawf modd a
dylai hyn leihau nifer y bobl sydd ar y rhestr aros dros y 12 i 18 mis nesaf. Mesur 3 - Comisiynu: Nifer yr oriau o ofal cartref
allanol (18+) Gofynnodd aelodau am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r cynnydd yn nifer yr oriau o ofal cartref allanol. Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod gwasanaeth mewnol yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6b |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth
Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid
gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: |
|
Awdurdod Dirprwyedig i Brynu Llety Brys i Liniaru Digartrefedd - Eithriedig o dan Baragraff 14 and 16 Cofnodion: Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Craffu ar Adroddiadau Monitro Perfformiad Preifat Cofnodion: |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside - Eithriedig o dan Baragraff 13
Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside - Eithriedig o dan Baragraff 13
Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |