Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod. Cadarnhaodd
y Cadeirydd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 ar agenda Bwrdd y
Cabinet a 9A a 10A ar agenda atodol Bwrdd y Cabinet. Gan
gyfeirio at agenda atodol Bwrdd y Cabinet, dywedodd y Cadeirydd fod gwall yr y
pennawd; Dylai Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Gwasanaeth Cyfiawnder ac
Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023 ddarllen Dadansoddiad
Graddio Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac
Ymyrryd yn Gynnar, dosbarthwyd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid hefyd er
hwylustod cyfeirio. Cadarnhaodd
y Cadeirydd y byddai eitem frys ar Ofalwyr Di-dâl i'w hystyried. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 383 KB Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 fel cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Diweddariad
ar Tai Tarian Rhoddodd
Prif Weithredwr Tai Tarian drosolwg i'r aelodau o'r gwaith a wnaed yn 2022-2023
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae Tai Tarian yn gweithio'n agos
gyda'r awdurdod i benderfynu ar ofynion tai a'r angen mwyaf. Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau bod Tai Tarian wedi cael eu marcio'n gadarnhaol ym mhob un
o'r 45 o elfennau sydd ar gael yng Ngwobr Aur Considerate Constructor;
Dyma'r tro cyntaf i'r wobr hon gael ei chyflawni yng Nghastell-nedd Port
Talbot. Holodd
yr Aelodau am y berthynas rhwng Cynghorwyr a Tai Tarian. Nid oes unrhyw
gynghorwyr sy'n aelodau o'r Bwrdd ar hyn o bryd ond mae perthynas agos gydag
aelodau. Pan fyddant yn gweithio'n lleol, gwahoddir aelodau i ymweliadau safle. Nododd
yr Aelodau fod yr awdurdod yn datblygu Strategaeth Tai newydd a holwyd sut yr
oedd Tai Tarian yn gweld y berthynas strategol yn datblygu rhwng y gymdeithas
a'r awdurdod lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? Ymatebodd Prif Weithredwr Tai
Tarian fod perthynas gref wedi bod erioed ac mae'r gallu i ddatblygu o fewn y
fwrdeistref wedi tyfu. Mae'r berthynas wedi datblygu i fod yn un gref iawn. Mae
Tai Tarian hefyd yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau tai eraill a'r gobaith
yw y bydd perthynas agored gyda'r awdurdod lleol, lle byddai ceisiadau yn cael
eu hateb yn brydlon. Diolchodd
yr Aelodau i Tai Tarian am eu cefnogaeth a nodwyd y manteision i fasnachwyr
lleol sy'n chwilio am waith. Nodwyd
yr adroddiad. Gwiriad
Iechyd Bach Rheoli Risg y Gwasanaethau Plant Amlinellodd
Pennaeth y Gwasanaethau Plant gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i'w ystyried. Gofynnodd
yr Aelodau beth yw'r heriau a'r gwendidau a pha gamau sydd ar waith i gael
gwared ar unrhyw wendidau a ble ydynt yn cael eu rhoi ar waith. A oes monitro
ar waith a beth yn union yw rôl aelod y cabinet ac a rhoddwyd unrhyw
hyfforddiant? Beth sy'n gweithio'n dda a sut? Cadarnhaodd
swyddogion eu bod wrth eu bodd â chanlyniad yr arolygiad ond cydnabuwyd bod lle
i wella bob amser. Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Plant yn cael ei hysbysu am bob mater. Cyflwynwyd
seminarau ar Ddiogelu ac Amddifadu o Ryddid i aelodau'n ddiweddar. Mae llawer o
heriau, ond mae'r gwasanaeth yn ymdrechu
i wella'n barhaus. Yr her allweddol yw ymateb yr awdurdodau i niwed y tu allan
i'r cartref teuluol ac roedd swyddogion yn cydnabod bod llawer o waith i'w
wneud o hyd ar draws y bartneriaeth. Dywedodd
yr Aelodau fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith yr ystyrir bod y sefyllfa
cadw staff yn dda, ond nid yw hyn bob amser wedi bod yn wir a gofynnwyd beth
sydd wedi newid? Cadarnhaodd swyddogion fod yr awdurdod yn parhau i fod dan bwysau oherwydd prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol cymwys ond ei fod wedi symud i sefyllfa lle'r oedd cynnydd bach yn y lefelau staffio yn ystod COVID-19. Nododd swyddogion fod cefnogaeth y cyngor i gynnig taliad atodol ar sail y farchnad wedi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2023/2024 PDF 420 KB Cofnodion: Bydd
aelodau'n derbyn gwahoddiad i sesiwn flaenraglen waith yn fuan. Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor y dylid cynnwys yr eitem ganlynol ar y Flaenraglen Waith: Grŵp
Tasg a Gorffen Bondiau Effaith Arbennig Cynigiodd
y Cadeirydd Grŵp Tasg a Gorffen i drafod Bondiau Effaith Arbennig.
Rhoddodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd gyngor y dylid trefnu cyfarfod ar
wahân i ystyried y grŵp Tasg a Gorffen ac i gytuno arno, ac i gytuno ar
gwmpas a chylch gorchwyl, gellir gwahodd swyddogion perthnasol i roi cyngor. Cytunwyd
y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu cyfarfod i aelodau fynychu
cyfarfod i ystyried y grŵp tasg a gorffen ac i gytuno arno, ynghyd â
chwmpas y grŵp tasg a gorffen a'r cylch gorchwyl. Hefyd, byddant yn
gwahodd y swyddogion perthnasol fel y gallant roi cyngor ar y pynciau. |
|
Eitemau brys Cofnodion: Gofalwyr
Di-dâl Amlinellodd
swyddogion gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd er gwybodaeth. Holodd yr Aelodau
pam nad yw anghenion gofalwyr yn cael eu diwallu, pam nad oes ganddynt
wybodaeth ar amser a pham nad ydynt yn ymwybodol o asesiad? Roedd swyddogion yn
cydnabod nad yw'r prosesau presennol sydd ar waith mor gadarn ag y mae angen
iddynt fod, mae llawer o'r gwaith yn digwydd ond nid yw'r data'n cael ei nodi. Ymatebodd
y Cyfarwyddwr na ddylai aelodau fod o dan unrhyw gamargraff, mae'r awdurdod
mewn sefyllfa dan bwysau o ran y gwasanaethau a ddarparwn i ofalwyr a mynegodd
ei farn nad ydym eto wedi adfer o'r problemau a brofwyd yn ystod y pandemig.
Mae gwaith sylweddol i'w wneud yn y maes hwn ond rhoddwyd llongyfarchiadau i'r
swyddog am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Awgrymwyd y dylai
adroddiad ddod yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ymhen chwe mis. O
ystyried y twf disgwyliedig dros y saith mlynedd nesaf, gofynnodd yr aelodau pa
fesurau lliniaru sy'n cael eu rhoi ar waith, mae'n rhaid aros tair wythnos am
frysbennu ar hyn o bryd a bydd hyn yn cynyddu. Ymatebodd y Swyddog o ran y prosiect sy'n cael ei wneud gan y
Swyddog Datblygu Gofalwyr, rhan o'u rôl fydd ymgymryd â brysbennu a gweithio
gyda'r gwasanaeth gofalwyr i leihau'r rhestr aros a'i monitro. Gan mai swydd
brawf yw hon, bydd gwaith yn cael ei fonitro a bydd adborth yn cael ei gasglu
gan ofalwyr. Nodwyd
yr adroddiad. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: Nid oedd angen hyn. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau preifat. |