Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8, 9, 10, 15 ac 18 ar Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 216 KB

25 Ionawr 2024

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r broses Pontio rhwng Gwasanaethau Plant ac Oedolion pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Gofynnodd yr aelodau i swyddogion a oedd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i helpu pobl ifanc ag anghenion cymhleth i bontio i'r gwasanaethau oedolion.

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bwysigrwydd cael gweithlu profiadol ar draws y Gwasanaethau Plant ac Oedolion i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed a rheoli risgiau. Bydd y panel yn helpu i gefnogi'r gyfarwyddiaeth gyfan i nodi a chefnogi pobl ifanc drwy'r cyfnod pontio a chydnabod lle y gellir lleihau'r gefnogaeth. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod nifer o ffrydiau gwaith gwahanol wedi'u sefydlu, mae'r staff yn cyfarfod i benderfynu a yw'r cynlluniau'n briodol ac i nodi adnoddau sydd ar gael a bylchau. Nodwyd y gall pobl ifanc fod mewn gofal preswyl am amrywiaeth o resymau cymhleth, a bod angen pecynnau gofal uchel ar rai ohonynt.

 

Holodd yr aelodau a oedd unrhyw becynnau cymorth ar gael i deuluoedd sydd wedi gofalu am bobl ifanc mewn lleoliad byw â chymorth.

 

Dywedodd swyddogion wrth aelodau ei bod hi'n bwysig bod sgyrsiau cynnar yn cael eu cynnal gyda theuluoedd i helpu i gynllunio ar gyfer pontio ar oedran iau.  Mae'r Panel Pontio yn agored i'r holl wybodaeth bontio a bydd yn cael ei defnyddio'n strategol ac yn weithredol. Bydd swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ymhen chwe mis ar sut mae'r panel wedi'i gwreiddio mewn arfer.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (cynhwysir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

 

Cofnodion:

Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 3

Dywedodd yr aelodau ei bod hi'n anodd dilyn cynllun newydd yr Adroddiad Perfformiad.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i'r aelodau am yr adborth, y gellid ei ddefnyddio i adolygu'r ffordd y caiff y data ei gyflwyno. Mae'r adroddiad presennol yn cynnwys cyflwyniadau corfforaethol a dadansoddiad o dueddiadau. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai'n ddefnyddiol gweithio gydag aelodau'r pwyllgor i nodi pa wybodaeth fyddai'n berthnasol i'r pwyllgor wrth symud ymlaen.

 

Cydnabu'r Cadeirydd fod sesiynau Hyfforddiant Data Perfformiad wedi'u cynnal ar gyfer pob aelod ond awgrymodd y dylid trefnu sesiwn arall i ail-ymweld â data sy'n berthnasol i'r pwyllgor   i gynorthwyo dealltwriaeth aelodau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad pellach ynghylch pam nad oedd peth o'r data yn addas i'w gymharu.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Chymunedau at y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) ar dudalennau 39-47 yr adroddiad a dywedodd wrth aelodau nad oedd eitemau nad oeddent yn addas i'w cymharu wedi cael eu hadrodd arnynt yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd y data'n ymwneud â nifer o DPA newydd a ddefnyddir i fonitro gweithgarwch newydd ac effeithiau a fwriadwyd. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwaith wedi'i wneud yn flaenorol gydag aelodau ynghylch nodi sut y gellid cyflwyno gwybodaeth perfformiad ystyrlon. Gellir ailymweld â'r gwaith hwn a byddai'n ddefnyddiol cynnwys aelodau er mwyn penderfynu pa wybodaeth fyddai'n ddefnyddiol i'r pwyllgor.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 42 o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn yr agenda a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am Banel y Sianel.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod Panel y Sianel yn grŵp amlasiantaeth a sefydlwyd i ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â phobl a all gael eu denu i mewn i weithgaredd terfysgol. Nid yw'r DPA yn rhoi arwydd clir o'r sefyllfa bresennol. Yn y flwyddyn flaenorol, nodwyd bod saith o bobl wedi dod yn llai agored i niwed ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio i’r panel, fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn hon, dim ond un atgyfeiriad oedd. Mae angen adolygu'r DPA wrth symud ymlaen i ddarparu darlun mwy cywir.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod Panel y Sianel yn eistedd o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol; mae'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn cydlynu'r Panel, sy'n cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog Diogelu. Gellir cyfeirio at Banel y Sianel os codir pryderon lefel isel am ymddygiad a diddordebau unigolyn. Mae'r fwrdeistref sirol yn cael ei hystyried yn ardal risg isel ac mae'r niferoedd atgyfeirio yn isel ond mae'n bwysig nodi a mynd i'r afael â phryderon. Mae angen gwaith parhaus ar lefel gorfforaethol i atgoffa staff a phartneriaid y Panel am y llwybr atgyfeirio a'r math o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 45 o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn yr agenda a gofynnwyd am ychwanegu eitem at y Flaenraglen Waith  , i amlinellu sut mae aelwydydd yn cael eu hatal rhag cyflwyno fel pobl ddigartref, er mwyn galluogi aelodau i gefnogi preswylwyr.

 

Croesawyd yr ychwanegiad i'r Flaenraglen Waith gan y Pennaeth Tai a Chymunedau a nodwyd bod Castell-nedd Port  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 476 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

7.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 432 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am gyfarfod gyda swyddogion i drafod y Flaenraglen Waith yn fanylach i ystyried meysydd y gallent fod wedi cael eu hanwybyddu hyd yma.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

8.

Urgent Items

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

10.

Pre-Decision Scrutiny of Private Item/s

Dewis eitemau preifat priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu).

 

Cofnodion:

Contract prynu yn ôl y galw ar gyfer darpariaeth gofal a chefnogaeth meddiannaeth unigol

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

 

Trefniadau comisiynu ar gyfer datblygu Gwasanaeth Ymateb Symudol CNPT

 

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.