Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Declarations of Interest Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 223 KB Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd
y Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymorth Cymunedol ac Ymyrryd yn Gynnar drosolwg
o'r gwaith a wnaed gan y tîm fel y nodir yn yr adroddiad. Diolchodd
y Cadeirydd i'r tîm a dywedodd, yn ogystal â'r adborth cadarnhaol, y byddai'n
ddefnyddiol hefyd i dderbyn enghreifftiau o anawsterau a wynebir gan y
gwasanaeth. Nododd
yr Aelodau'r adroddiad. |
|
Pre-Decision Scrutiny Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8,
10, 11, 14, 15 ac 16 o Agenda Bwrdd y Cabinet. Caniatâd i ddarparu gwybodaeth am y 'Rhaglen Trawsnewid -
Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair' (tudalennau 11 - 76) Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r adroddiad
a gynhwysir yn y pecyn agenda. Canmolodd yr Aelodau'r swyddogion ar yr adroddiad a
chyfeiriwyd at dudalen 14 - Effeithiau Cymunedol y Cymoedd. Gofynnodd yr
Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch darparu cymorth o ran
camddefnyddio sylweddau; mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwella'r
ddarpariaeth hon. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at dudalennau 19 a 22 o'r
adroddiad gan gwestiynu pam roedd bwlch o dair blynedd rhwng y cytundeb ar
gyfer dull gweithredu ar y cyd gydag Iechyd y Cyhoedd a dechrau'r rhaglen. Ymatebodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod Bwrdd Cynllunio
Ardal Bae'r Gorllewin ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (BCA) a'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi ymrwymo i leihau marwolaethau a niwed sy'n
gysylltiedig â chyffuriau, ond roedd oedi wedi bod oherwydd y pandemig. Mae
aelod newydd o staff wedi'i benodi a gellir blaenoriaethu'r gwaith hwn yn awr. Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid Defnyddio
Sylweddau, er gwaethaf llawer o oedi, y gwnaed gwaith cadarnhaol hefyd i
ddatblygu rhai o ganlyniadau arfaethedig y rhaglen. Cylch gwaith Rheolwyr y
Rhaglen yw dod ag ystod o wasanaethau cydweithredol at ei gilydd i gyflawni'r
amcanion yn gyflym gan fod niwed parhaus ar draws cymunedau. Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion i Fwrdd
y Cabinet. Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Cyfiawnder Ieuenctid
ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2023-2024 (Tudalennau 77 - 156) Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn
y pecyn agenda. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 91 gan gwestiynu sut mae
cyfraniad yr Awdurdod Iechyd o £82 yr wythnos yn cael ei bennu. Cadarnhaodd swyddogion fod yr Awdurdod Iechyd wedi penderfynu
ar y cyfraniad ond nid oedd unrhyw rwymedigaeth i gyfrannu. Yn ogystal â'r
cyfraniad ariannol mae'r Awdurdod Iechyd yn darparu mynediad at Therapyddion
Iaith a Lleferydd a Nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
(CAHMS). Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 143 o’r adroddiad; a
gofynnwyd am esboniad pellach mewn perthynas ag eitemau 9.1 a 10.1. Cadarnhaodd swyddogion fod eitemau 9.1 a 10.1 yn ymwneud â
chynllun wedi dyddio sydd wedi cael ei ddiweddaru ers hynny. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a
Theuluoedd i staff am eu gwaith yn helpu pobl ifanc i drawsnewid eu bywydau, a
soniodd am yr ystod o weithgareddau a ddarperir gan y gwasanaeth. Mae'n ddefnyddiol i bobl ifanc glywed am droseddau
bywyd go iawn a all eu helpu i fyfyrio ar eu bywydau eu hunain. Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am gynnal ymweliad diweddar
â Chanolfan 15 ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Craffu; hoffai'r pwyllgor drefnu
ymweliadau yn y dyfodol i gael cip ar y gweithgareddau. Holodd y Cadeirydd a
oedd staff a phartneriaid asiantaeth wedi derbyn hyfforddiant gan Autside neu
gan unrhyw ddarparwyr eraill ar gyflyrau niwroamrywiol. Cadarnhaodd swyddogion fod y gweithlu’n weithlu sy'n ystyriol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 389 KB Cofnodion: Nododd
yr Aelodau'r cofnod gweithredu. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 432 KB Cofnodion: Nododd
yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Urgent Items disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel
y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Access to Meetings Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) canlynol yn unol ag Adran
100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Pre-Decision Scrutiny of Private Item/s Cofnodion: Trefniadau Cytundebol ar gyfer y Gwasanaeth Ataliaeth
a Lles (Tudalennau 245 - 286) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu
cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Adroddiad Ailgynllunio Hillside (Tudalennau 287 - 324) Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu
cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Diweddariad ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig
(Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Chartref Diogel i
Blant Hillside (tudalennau 325 - 348) Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |