Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 a 10 ar Agenda Bwrdd y
Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 167 KB Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot
2023-2026 Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad a oedd yn
amlinellu'r pwysau a wynebir gan y gyfarwyddiaeth a thynnodd sylw at pam a sut
y bydd angen i Gastell-nedd Port Talbot weithio'n wahanol yn y dyfodol. Croesawodd yr Aelodau gynnwys y cyflwyniad ond dywedodd y gallai
trafnidiaeth gyflwyno problem wrth hyrwyddo rhwydweithiau cymdeithasol a
hunanreoli; holodd yr Aelodau a oedd trafnidiaeth gymunedol yn cael ei ystyried
fel rhan o gynlluniau'r dyfodol? Ymatebodd Swyddogion y gallai cyflawni'r
cynlluniau os ydynt yn rhan o ymagwedd weithredu ar draws y cyngor yn unig.
Wrth drafod yr agenda ataliol, mae angen i atebion fod yn ehangach na thrwy
gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig. O ran cyfeirio at yr addasiadau synhwyraidd yn yr adroddiad, teimlai'r
Aelodau fod angen hyrwyddo'r gwasanaeth addasu synhwyraidd ymhellach i feddygon
teulu er mwyn cyrraedd rhagor o bobl; holodd yr Aelodau a oes unrhyw gynlluniau
i weithio'n agosach gyda gwasanaethau Gofal Iechyd i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn?
Ymatebodd Swyddogion fod y tri aelod o staff yn y Tîm Synhwyraidd yn
gysylltiedig â'r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol, gan weithio gyda phobl
ag amhariad ar y clyw a'r golwg. Mae'r tîm profiadol yn gweithio'n agos gyda'r
gwasanaethau iechyd, ond gellir gwneud rhagor o waith i wella ar hyn. Dywedodd
Swyddogion fod gan Lywodraeth Cymru fenter sy’n gweithio ochr yn ochr â
gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd i wella gwasanaethau amhariad ar y synhwyrau. Gofynnodd yr Aelodau sut y bydd y gwasanaeth yn mesur canlyniadau ac yn
adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y dyfodol. Ymatebodd Swyddogion fod achosion
busnes wedi'u costio wedi cael eu datblygu ar gyfer pob cynllun a bydd y rhain
yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor pan fo hynny'n briodol. Bydd y canlyniadau'n
cael eu mesur wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt a bydd unrhyw wybodaeth
ofynnol yn cael ei darparu fel y gofynnwyd amdani. Holodd yr Aelodau ynghylch y llinell amser ar gyfer hybiau cymunedol a
mynegwyd pryder y gallai unrhyw adeiladau gwag addas posib ddadfeilio os oedd y
llinell amser yn rhy hir. Cadarnhaodd Swyddogion fod y mater hwn wedi'i godi
gyda'r Cabinet a Chyfarwyddwyr Corfforaethol; ar hyn o bryd mae arian cyfalaf y
cyngor a rhanbarthol ar gael ac mae angen i unrhyw gynlluniau wneud cynnydd yn
gyflym i wneud yn fawr o'r cyllid hwn. Bydd gwaith yn cael ei wneud dros yr haf
gyda phenderfyniadau'n dechrau cael eu gwneud ddiwedd mis Awst/dechrau mis
Medi. Mae angen i rai cynlluniau wneud cynnydd yn fuan ond efallai y bydd angen
trafod cynlluniau posib eraill fel y Pentref Pobl Hŷn a Gelligron dros
gyfnod hwy o amser. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet. Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-26 Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau gyflwyniad ar Gynllun Strategol Tai
a Digartrefedd drafft 2023-2026, gan ail-ddweud bod lefel uchel o bwysau ar y
system dai ar hyn o bryd ac ni ellir tanbrisio maint y newid sydd ei angen. Diolchodd yr Aelodau i'r Swyddog am y cyflwyniad diddorol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 421 KB Cofnodion: Nodwyd
yr eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol
ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.. |
|
Gwasgaru Ceiswyr Lloches ac Anheddu Ffoaduriaid Cofnodion: Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau eu craffu. |