Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Nia
Jenkins, Eitem (5A) – Personol, Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Alltwen |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol · 24 Hydref 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Datblygu Addysg drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.
Mae Castell-nedd Port Talbot yn gwneud cynnydd cyson, ond bydd newid y
cwricwlwm yn golygu newidiadau diwylliannol tymor hir. Cyflwynwyd y cwricwlwm
newydd i flynyddoedd ysgol 7, 8 a 9 yn 2024. Mae cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn
fwy heriol mewn ysgolion uwchradd oherwydd pwysau cymwysterau. Holodd yr Aelodau
am lefel y cymorth a ddarperir i ysgolion mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd. Cadarnhaodd
swyddogion fod Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu'r cwricwlwm ymhellach o'i
gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Rhoddwyd cymorth pwrpasol i
ysgolion yn unol â lefel yr angen mewn ysgolion unigol ac roedd cynigion dysgu
proffesiynol ar gael i bob ysgol. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Tîm Gwella Ysgolion - Strategaeth Arweinyddiaeth Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Datblygu Addysg drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.
Nodwyd, er bod yr awdurdod yn cefnogi datblygu arweinyddiaeth, mae newidiadau
i'r uwch-broffil arweinyddiaeth wedi arwain at gynnydd yn nifer y penaethiaid a
dirprwy benaethiaid llai profiadol. Rhoddwyd strategaeth arweinyddiaeth newydd
ar waith ym mis Medi 2017. Yn dilyn craffu,
nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Tîm Gwella Ysgolion - Dysgu ac Addysgu Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Datblygu Addysg drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.
Cydnabuwyd yr heriau a wynebir gan arweinwyr ysgolion o ran gwella a datblygu
addysgu yn unol â disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru. Mae'r broses o ddysgu, yn
hytrach na chynnyrch terfynol dysgu, wrth wraidd y cwricwlwm newydd, ac mae hyn
yn darparu heriau sylweddol. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod ymgysylltiad cadarnhaol wedi bod ac roedd ysgolion
yn dechrau gweithio'n agosach gyda'i gilydd. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adolygiad o Feysydd Parcio Parciau Gwledig Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant drosolwg o'r adroddiad
i'r aelodau fel y'i cynhwysir yn y pecyn agenda. Holodd yr aelodau
am brisiau gwahanol y tocynnau blynyddol presennol ym Mharc Gwledig Margam a
Pharc Gwledig y Gnoll. Holodd yr aelodau a oedd graddfa symudol ar gyfer
ffioedd meysydd parcio wedi cael eu hystyried. Gall hyn arwain at fwy o
ddefnydd gan breswylwyr am gyfnodau byrrach. Holodd yr aelodau
a roddwyd ystyriaeth i orfodi adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR). Cadarnhaodd
swyddogion fod opsiynau gorfodi gwahanol wedi cael eu hystyried ond roedd
costau uchel yn gysylltiedig â rhai dulliau. Ni ystyriwyd bod parcio rhwystr yn
addas oherwydd methiannau mecanyddol posib a brofwyd gan gyfleusterau mewn
awdurdodau cyfagos a'r agosrwydd at yr A48 ym Margam, sy'n gofyn am lif cyson o
draffig. Holodd yr aelodau
a fyddai cyfleuster ar gael i dalu yn y parciau gwledig yn hytrach na thalu
ar-lein gan nad oedd yr opsiwn hwn yn addas i bob ymwelydd. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai cyfleuster ar gael i dalu yn y ciosg ym Mharc Gwledig
Margam o hyd a byddai ymwelwyr hefyd yn gallu talu gan ddefnyddio'u ffôn yn
ogystal â gan ddefnyddio'r peiriannau Talu ac Arddangos. Mynegodd yr
aelodau bryder nad oedd bysus cyhoeddus yn teithio i'r Ganolfan Ymwelwyr ym
Mharc Gwledig y Gnoll ac roedd hyn yn rhwystr i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno
teithio i'r parc ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y
Pennaeth Hamdden, Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant wrth aelodau fod
mynediad i barciau gwledig am ddim. Mae'r ffi yn gysylltiedig â meysydd parcio
yn unig. Mae'r safle bysus ym Mharc y Gnoll wedi cael ei adolygu ond cafwyd
problemau o ran darparu safle bysus ger y ganolfan ymwelwyr. Caiff rhagor o
fanylion eu dosbarthu i'r aelodau. Cytunodd yr
Aelodau fod y Tocyn Blynyddol ar gyfer yr holl barciau'n werth am arian ond
roeddent yn cwestiynu a fyddai'r gost gychwynnol yn rhy ddrud i rai pobl. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y cynnig yn cynnwys cyfleuster debyd uniongyrchol sy'n
costio £7.50 y mis, a oedd yn fwy fforddiadwy ac yn cynrychioli gwerth am
arian. Nododd yr Aelodau
fod nifer y deiliaid tocynnau tymor ym Mharc y Gnoll yn isel a holwyd pa waith
farchnata oedd yn cael ei ystyried i hyrwyddo'r parciau gwledig. Holodd yr
aelodau a oedd cylchlythyr wedi'i ystyried i hyrwyddo'r parciau gwledig ac a
oedd modd marchnata tocynnau tymor fel anrhegion. Roedd swyddogion
yn cydnabod y gellid gwella'r gwaith marchnata a dywedwyd wrth aelodau fod
Swyddog Marchnata bellach ar waith i fwrw ymlaen â hyn. Ar hyn o bryd, oherwydd
y gwaith i adnewyddu cyfleusterau ym Mharc Gwledig y Gnoll, nid oedd tocynnau
tymor yn cael eu hyrwyddo'n weithredol. Yn dilyn gwaith
craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Ehangu Dechrau'n Deg - Cam 3 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth
y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Phartneriaethau drosolwg o'r adroddiad a
gynhwysir yn y pecyn agenda. Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar longyfarchiadau i staff ynghylch y
gwaith a wnaed yn y camau Dechrau'n Deg blaenorol. Holodd yr Aelodau
a oedd cyllid ar gael i roi cam 3 ar waith yn gynt na'r amserlen 6 blynedd a
nodwyd yn yr adroddiad. Roedd pryderon ynghylch plant y mae angen cymorth
arnynt ar unwaith. Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau ei fod yn bwysig sicrhau bod yr isadeiledd gofal
plant priodol ar waith cyn symud ymlaen. Roedd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal
Plant yn bwysig wrth nodi angen. Roedd yr
Aelodau'n cydnabod yr anawsterau a brofir ar hyn o bryd yn y sector gofal plant
o ran hyfforddiant a chostau cynyddol. Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo i wella safon y gweithlu
gofal plant ar bob lefel ac i sicrhau bod y gweithlu gofal plant yn cael ei
gydnabod fel gweithwyr proffesiynol sydd â chyflog priodol i gyfateb i'w
cymwysterau. Caiff y materion a brofir ar hyn o bryd eu codi gyda Llywodraeth
Cymru a'r gobaith yw y bydd cefnogaeth barhaus ar gyfer y sector. Soniodd Aelod y
Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar am gyflwyniad diweddar y Gwobrau
Gofal Plant a dywedodd fod 47 o'r 49 o'r cwmnïau preifat yn bennaf a oedd yn
bresennol yn cynnig Dechrau'n Deg. Nid yw'r gwaith a'r hyfforddiant ychwanegol
a wneir i gynnig Dechrau'n Deg yn cael ei gydnabod. Byddant yn croesawu unrhyw
arian ychwanegol a ddarperir i'r maes hwn. Yn dilyn gwaith
craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2023/2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd yr eitem hon ei hepgor yn anfwriadol o'r
cyfarfod. Dosbarthwyd yr wybodaeth i aelodau'r pwyllgor drwy e-bost. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. |
|
Y Diweddaraf am y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth
y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid drosolwg o'r adroddiad i'r aelodau fel y'i
cynhwysir yn y pecyn agenda. Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o fanylion ynghylch y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion a
gofynnwyd iddynt drefnu gweithdy i roi gwybod i aelodau'r pwyllgor am y
cynlluniau parhaus. Dywedodd Bennaeth
y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid wrth yr aelodau fod yr holl gynlluniau
presennol ar gamau gwahanol, fodd bynnag, gellid trefnu gweithdy i rannu
gwybodaeth ag aelodau'r pwyllgor craffu. Bydd y Swyddog Craffu'n trefnu hyn
gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod. Gofynnodd yr
Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleusterau Ysgol Gynradd Alltwen. Cadarnhaodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar fod gwaith atgyweirio wedi'i
gynllunio, a byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod cyfnodau lle bydd yr
ysgol ar gau. Cadarnhawyd y
byddai aelodau o'r Grŵp Partneriaeth Safonau Ysgolion yn cael eu gwahodd i
ymweld â'r ysgol. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad |
|
Cyflogadwyedd a Sgiliau Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth
y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
gynhwysir yn y pecyn agenda. Dechreuodd y gwaith ar y strategaeth yn 2022, fodd
bynnag, roedd nifer o newidiadau parhaus sylweddol sy'n digwydd yng
Nghastell-nedd Port Talbot wedi nodi nad oedd y strategaeth ddrafft yn darparu
cynllun clir a chryno i gefnogi a darparu cyfleoedd cyflogaeth. Bydd gwaith i
ddiwygio'r cynllun drafft yn mynd rhagddo yn 2025. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr
aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Diweddariad Chwemisol y Cynllun Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 a 2 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd swyddogion
wrth aelodau fod dyletswydd i adrodd ar gynnydd y Cynllun Corfforaethol.
Cymeradwywyd y Cynllun Corfforaethol presennol ar gyfer 2024 – 2027 gan y
Cyngor ym mis Gorffennaf 2024, yn dilyn yr adroddiad chwemisol a gyflwynwyd i'r
aelodau heddiw. Adroddir am gynnydd bob chwarter wrth symud ymlaen. Mae angen
gwneud rhagor o waith mewn perthynas â chofnodi mesurau perfformiad sydd ar y
trywydd cywir a'r rhai nad ydynt ar y trywydd cywir at ddibenion monitro. Cyfeiriodd yr
aelodau at dudalen 226 yr adroddiad a'r mesur cludiant rhwng y cartref a'r
ysgol nad oedd ar y trywydd cywir. Mae aelodau eisoes wedi trafod hyn gyda
swyddogion ac mae ymwybyddiaeth o rai o'r problemau. Holodd yr Aelodau a oedd
diweddariad pellach ar gael. Cadarnhaodd y
Pennaeth Datblygu Addysg y bydd adroddiad ar y mater hwn yn destun gwaith
craffu ond nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd. Yn dilyn craffu,
nododd y pwyllgor yr adroddiad |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol · Blaenraglen Waith y Cabinet · Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd yr
aelodau gan swyddogion o eitemau newydd a oedd wedi cael eu hychwanegu at
Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried. Gofynnodd yr
Aelodau i'r adroddiadau canlynol gael eu hychwanegu at Flaenraglen Waith y
Pwyllgor Craffu: • Strategaeth
Hygyrchedd • Ysgolion Bro • Ymweliadau
Cefnogi gan Swyddogion Cefnogi Addysg mewn Ysgolion • Addysg Ddewisol yn y Cartref Yn flaenorol,
trefnwyd gwaith craffu ar gyfer yr adroddiad Cefnogaeth Ddiogelu mewn Ysgolion
ac adroddiad Strategaeth y Llyfrgell ym mis Ionawr, a gyda chytundeb y
Pwyllgor, symudwyd y rhain i'r cyfarfod ar 6 Mawrth. Ychwanegwyd
adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru at y Flaenraglen Waith o dan
Fonitro Perfformiad. Tynnwyd adroddiad
Cynllun Busnes Parc Margam oddi ar y Flaenraglen Waith ond caiff ei ailosod ar
y rhaglen yn y dyfodol. Gofynnodd yr aelodau am ymgysylltiad cynnar mewn
perthynas â Chynllun Busnes Parc Margam. Mynegodd yr
aelodau bryder am y dull presennol ar gyfer dewis eitemau o Flaenraglen Waith y
Cabinet ar gyfer gwaith craffu. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai aelodau'n cael cyfle i fynegi eu barn yn ystod yr adolygiad
craffu sydd ar ddod. Nodwyd y
Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |