Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
12 Medi 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Strategaeth Cynnwys Pobl Ifanc Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid
fod angen y strategaeth i gyflawni rhwymedigaethau'r Cyngor ac i hyrwyddo
ymagwedd aml-asiantaeth at gefnogi pobl ifanc. Holodd yr Aelodau a fyddai cynllun gweithredu pellach a
sut y byddai'n cael ei olrhain a'i fonitro. Dywedodd yr aelodau nad oedd
pwyntiau gweithredu'r strategaeth wedi'u dyddio. Gofynnodd yr Aelodau a oedd
bwriad i fapio darpariaeth y trydydd sector, ac, os felly, a allai Cydlynwyr
Ardaloedd Lleol y Gwasanaethau Cymdeithasol gynorthwyo. Cadarnhaodd swyddogion fod y strategaeth yn cynnwys
dechrau cynllun gweithredu, y gobaith oedd y byddai'r Grŵp Strategaeth
Cynnwys Pobl Ifanc yn cael ei ailsefydlu ac y gallent ddatblygu eu cynllun
gweithredu eu hunain y gallent ei fonitro. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar
bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a'r bobl ifanc
hynny sydd mewn perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc ac mae dealltwriaeth
dda o fapio'r trydydd sector mewn perthynas â'r materion hynny. Mae grwpiau
gweithredol aml-asiantaeth sefydledig ar waith. Mynegodd yr aelodau bwysigrwydd mapio wrth symud ymlaen a
sut y gallai hyn helpu pan roedd cyllid cyfyngedig ar gael. Cadarnhaodd swyddogion y bydd barn yr aelodau'n cael ei
gyflwyno i'r Grŵp Strategaeth Cynnwys Pobl Ifanc, unwaith y bydd wedi'i
ffurfio. Yn dilyn gwaith
craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y
Cabinet. |
|
Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth
y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Phartneriaethau drosolwg byr o'r adroddiad. Dywedodd yr
Aelodau fod nifer y plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cynyddu ond
nad oedd digon o gyllid i fynd i'r afael â hyn. Cytunodd Bennaeth
y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Phartneriaethau ei bod yn sefyllfa anodd
gyda niferoedd cynyddol o blant ag ADY. Mae'n anodd rhagweld niferoedd gan fod
plant ag anghenion cymhleth yn symud i'r fwrdeistref. Mae grantiau ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ADY wedi cael eu defnyddio i gefnogi ysgolion.
Mae cymorth ehangach ar gael o hyfforddiant, gyda gwasanaethau cefnogi'n ymweld
ag ysgolion i helpu gyda darpariaeth ac asesu. Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau fod darpariaethau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried yr holl ddarpariaeth arbenigol ar draws
yr awdurdod a'r angen a ragwelir, gan weithio'n agos gyda meysydd gwasanaeth
eraill i sicrhau bod digon o ddarpariaeth i ddiwallu anghenion. Cydnabyddir y
gallai fod angen darpariaeth ychwanegol ar rai disgyblion. Er mwyn mynd i'r
afael â hyn mewn ysgolion prif ffrwd, cynigir cymorth allgymorth ychwanegol i'r
disgyblion hyn. Gwneir gwaith gydag Ysgol Maes y Coed i sicrhau bod staff sy'n
cefnogi pobl ifanc yn cael cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor. Roedd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn cydnabod y pwysau ar
gyllidebau ysgolion. Mae llai o bwysau ariannol mewn Canolfannau Cymorth Dysgu
ac Ysgolion Arbenigol, ond ni ellir ystyried hyn ar ei ben ei hun. Mae'r rhan
fwyaf o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu ysgolion prif
ffrwd ac mae angen diwallu anghenion pobl ifanc yn yn y gyllideb addysg yn ei
chyfanrwydd ac nid o fewn Canolfannau Cymorth Dysgu yn unig. Nodwyd, os nad yw
anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu, gallai hyn arwain at leoliadau y tu
allan i'r sir a phwysau cyllidebol uwch. Gwnaeth y Cyfarwyddwr sylw ar bapur
CLlLC a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn amlinellu pwysau mewn gwasanaethau
cyhoeddus llywodraeth leol a thynnwyd sylw at dros £100m o bwysau heb ei
ariannu yn y maes addysg yng Nghymru. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nifer
cynyddol o achosion o ADY mewn ysgolion. Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae'r
cynnydd yn ADY wedi bod o fewn y Blynyddoedd Cynnar yn bennaf. Cytunodd Aelod y
Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar fod yr amserlenni ar gyfer diwygio
ADY yn dynn, ond canmolwyd y tîm ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma. Nid yw diwygio
ADY yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhoi pwysau ar awdurdodau
lleol. Anogwyd yr holl aelodau i lobïo
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gyllid llawn. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Cyllid wrth yr aelodau, pan gyflwynodd Lywodraeth Cymru'r
ddeddfwriaeth, daeth yr asesiad effaith i'r casgliad na fyddai unrhyw gost
ychwanegol i awdurdodau lleol ac felly ni ddarparwyd cyllid drwy'r Grant Cynnal
Refeniw. Roedd rhywfaint o gyllid grant untro ar gael ond dim cyllid craidd.
Awgrymwyd y dylid adolygu asesiad effaith Llywodraeth Cymru. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad |
|
Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
wrth aelodau fod Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a rheolwyr atebol yn
gweithio i gyflawni'r cynigion arbedion gofynnol ar draws yr awdurdod lleol. Yr
egwyddorion arweiniol, lle bo'n bosib, oedd cynyddu incwm, talu costau craidd
yn erbyn grantiau, diogelu gwasanaethau cyhoeddus a swyddi. Nid yw'r cyfnod
ymgynghori wedi dechrau eto, ac roedd y cynigion a gyflwynwyd i'r aelodau'n
rhan o ymarfer ymgysylltu cyn ymgynghori i dderbyn sylwadau a syniadau'r
aelodau. Mae cynigion yn seiliedig ar wybodaeth sy'n hysbys ar hyn o bryd a'r
dybiaeth y bydd grantiau a lefelau cyllid yn parhau. Nid yw'r holl fanylion ar
gael o hyd, fodd bynnag, os yw'r cynigion yn rhan o'r cynigion ymgynghori
swyddogol, bydd rhagor o fanylion ar gael. Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r cyfeirnod cynigion
cyllideb ELL-A – ELL-G fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Mae'r arbedion ar gyfer
Parc Gwledig Margam yn rhan o gynllun tair blynedd a bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r aelodau ym mis Ionawr, a fydd yn cynnwys y cynllun busnes newydd
a'r adolygiad parcio. Mae digwyddiadau newydd wedi'u cyflwyno yn y parc. O ran
staffio, bu ychydig o ddatblygiad staff, ac mae un aelod o staff wedi mynegi
diddordeb mewn ymddeol. Mae ychydig o oedi i brosiect sinema Canolfan
Celfyddydau Pontardawe, ond y gobaith oedd y bydd hyn ar agor er mwyn masnachu
ym mis Mawrth 2025. Mae arbedion wedi eu gwireddu o ganlyniad i gau Pwll Nofio
Pontardawe. Mae cyfleuster arlwyo newydd wedi'i gyflwyno yn Aqua Splash yn
Aberafan, sy'n cael ei weithredu gan Hamdden Celtic. Mae rhai ysgolion yn
adolygu'r cytundeb lefel gwasanaeth sydd ganddynt ar gyfer y Gwasanaeth
Adnoddau Addysg a Dysgu (ELRS). Mae'r arbedion yn y maes ELRS yn ymwneud â
newid y defnydd o dechnolegau. Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch diswyddiadau staff
posib a swyddi gwag sydd heb eu llenwi. Dywedodd yr Aelodau nad oedd Parc
Gwledig Margam yn gwneud arbedion ar hyn o bryd a gofynnwyd sut y bydd arbedion
yn cael eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd yr Aelodau fod
gwelliannau i fasnachu hamdden dan do yn seiliedig ar forâl staff a gan
ystyried nad oedd Hamdden Celtic yn newid i wasanaeth mewnol y flwyddyn nesaf,
a fyddai morâl staff yn galluogi'r arbedion hyn i gael eu cyflawni. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y
gallai ffactorau fel tywydd gwael effeithio ar unrhyw ragfynegiad o incwm uwch
. Roedd modd cyflawni'r targed ar draws y gyfres o wasanaethau’n fras, gyda'r
gallu i or-gyflawni mewn rhai meysydd, megis y sinema a'r cyfleuster arlwyo
newydd yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. O ran Parc Gwledig Margam, nid
yw'r incwm a ragwelir yn statig yn ystod y flwyddyn ac mae'n dibynnu ar dywydd
a digwyddiadau sydd wedi'u trefnu. Nid oedd y Cyfarwyddwr yn ymwybodol o unrhyw
bwysau cyllidebol a ragwelir ym Mharc Margam. Cydnabu'r Cyfarwyddwr fod
risgiau'n wynebu'r ELRS. Mae ysgolion yn ceisio arbed arian ar feysydd
anstatudol, oherwydd pwysau cyllidebol. Cyfeiriodd yr Aelodau at y cyfeirnod cynnig cyllideb ELLL-D a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4c |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. |
|
Cynlluniau Gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Datblygu Addysg drosolwg byr o'r
adroddiadau a gynhwysir yn y pecyn agenda. Caiff y pum cynllun Gwella
Gwasanaethau eu cynnwys yn y Cynllun
Gwella'r Gyfarwyddiaeth ac maent yn cysylltu â'r Cynllun Gwella Corfforaethol. Cyfeiriodd yr aelodau at y
cyfeiriad at foreau coffi ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn
ddewisol a holwyd am y lefel ymgysylltu. Dywedodd yr Aelodau fod nifer y plant
sy'n derbyn addysg yn y cartref yn ddewisol yn cynyddu a bod pryder ynghylch y
diffyg monitro a goruchwylio. Cadarnhaodd y Pennaeth
Datblygu Addysg fod rhwng 30 a 40 o deuluoedd ar gyfartaledd yn dod i bob
sesiwn. Cynhelir y sesiynau hyn ar y cyd mewn partneriaeth â'r adran iechyd, yr
heddlu a Gyrfa Cymru. Mae'r coleg wedi dod i sesiynau ac wedi darparu amrywiaeth
o sioeau teithiol ar bynciau fel troseddau cyllyll, diogelwch sgwteri,
diogelwch ar y rhyngrwyd a dysgu drwy chwarae gan efallai na fyddai gan rai
teuluoedd fynediad at y rhain y tu allan i system yr ysgol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod Cynlluniau Gwella Gwasanaethau ar gyfer
pob rheolwr atebol o fewn y Gyfarwyddiaeth ac asesir y risgiau o fewn timau.
Mae'r Cynlluniau Gwella Gwasanaethau'n cael eu crynhoi yng Nghynlluniau Gwella
Gwasanaethau Cydlynwyr, sydd yn eu tro yn cael eu crynhoi yng Nghofrestr
Risgiau'r Gyfarwyddiaeth. Gofynnodd yr Aelod i
gyfarfod â swyddogion y tu allan i'r cyfarfod er mwyn derbyn eglurhad pellach.
|
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried. |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd yr aelodau gan swyddogion o eitemau newydd a
oedd wedi cael eu hychwanegu at Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i
Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau
pellach i'w hystyried. Cytunodd yr Aelodau i ychwanegu'r eitemau canlynol at
Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu: ·
Cam Ehangu Dechrau'n Deg 3 – 5 Rhagfyr 2024 ·
Adolygiad
Maes Parcio Parciau Gwledig – 5 Rhagfyr 2024 Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |