Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas  E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. N Gold-Up John a'r Cyng D Thomas.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai Aelodau'r Pwyllgor yn craffu ar yr holl eitemau ar Agenda'r Cabinet.

 

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiannau gan y Cyng. D Whitelock, y Cyng. R Mizen, y Cyng. J Jones, y Cyng. P Rees a'r Cyng. W Carpenter a ddatganodd eu bod yn Aelodau o Bwyllgor CYSAG.

 

Gwnaeth y Cyng. S Reynolds ddatganiad o fuddiant yn erbyn eitem 14 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

3.

Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllidebol 2023/24 pdf eicon PDF 918 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymgynghoriad ar Gynigion Cyllidebol 2023/24 i'r aelodau, fel y'i hamlinellwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Atgoffwyd yr aelodau fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno yn ei gyfanrwydd a bod angen iddynt ganolbwyntio ar yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r Pwyllgor penodol hwn.

Gofynnwyd i'r aelodau gynnig unrhyw awgrymiadau cynhyrchu incwm ynghyd â chyfleoedd arbedion posib.

 

Gwnaeth aelodau'r pwyllgor craffu godi cwestiynau yn ymwneud ag ariannu ysgolion a'r gefnogaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog i staff ysgolion am y flwyddyn 2023/24.

Roedd swyddogion yn gallu egluro y byddai ysgolion yn gweld ffigur o 8.6% o ran cyllid, sydd ar hyn o bryd yn ychwanegol at y gyfradd bresennol o 7.1%. Gwnaeth swyddogion hefyd amlinellu cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y broses adfer o COVID, a chadarnhaodd Swyddogion fod ysgolion yn derbyn yr holl gyllid, sy'n cefnogi gyda'r cyllidebau wrth gefn.

 

Tynnodd swyddogion sylw at y streic ddiwydiannol sydd ar ddod, ond ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd y canlyniad a'r goblygiadau posib, pe bai'r dyfarniad cyflog yn uwch na'r cyllid sydd eisoes ar gael, nid oedd modd egluro i’r aelodau sut yr ymdrinnir â'r sefyllfa hon.

 

Roedd ymholiad nesaf yr aelodau yn ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r ffigur arfaethedig o 9%. Gofynnwyd i swyddogion a oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn ar gael pe bai'r ffigur yn cynyddu oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus ac yn ail os yw cyfraddau chwyddiant hefyd yn aros yn uchel.

Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd o 9% wedi'i nodi er mwyn ystyried y costau chwyddiant presennol, gyda phwysau cyllidebol ychwanegol o £1.276 miliwn ar gyfer cludiant ysgol. Amlinellodd swyddogion; y cynigiwyd y costau i gefnogi'r cyfraddau presennol yn y gobaith y byddai chwyddiant yn gweld gostyngiad dros y blynyddoedd dilynol, gyda disgwyl i gontractau gynyddu 5%. Cafodd yr aelodau ddiweddariad byr o ran cynllun wrth gefn, gyda Swyddogion yn datgan, yn dilyn ymarfer cwmpasu a'r ffaith bod cyllidebau ar hyn o bryd yn gytbwys, nad oedd yn ddichonadwy bwrw ymlaen ymhellach. Cafodd gynlluniau i leihau costau a gofynion teithio eu hamlinellu i Aelodau, yn enwedig y rheini ar gyfer plant sy'n trosglwyddo i oedolaeth.

 

Gofynnodd yr aelodau am ddefnyddio staff mewnol yn y Gwasanaethau Hamdden a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y gyllideb. Cadarnhaodd swyddogion fod cynnig wedi bod i ohirio hyn am ddeuddeng mis arall. Mae'r costau fodd bynnag yn cael eu hadlewyrchu o fewn y cynllun cyllideb tymor canolig.

Trafodwyd gostyngiad mewn costau ynni, o ran paneli solar a chynlluniau arfaethedig, a rhoddwyd gwybod i'r aelodau am hyn. Roedd swyddogion yn asesu adeiladau a all fod yn addas ar gyfer y pwnc hwn ar hyn o bryd.

 

4.

Diweddariad ar ôl COVID pdf eicon PDF 389 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad i'r swyddogion.

Nododd yr aelodau'r effeithiau cadarnhaol a gafwyd o ganlyniad i'r swyddogion seicoleg plant a benodwyd yn ddiweddar. Yn ogystal, amlinellodd swyddogion y cyfle i benodi therapyddion iaith a lleferydd. Mae hyn yn flaenoriaeth ar ôl y pandemig a gellir bwrw ymlaen â hyn drwy ddefnyddio ffynonellau arian grant.

 

Tynnodd yr aelodau sylw at anawsterau plant o ran cyfnodau pontio wrth ddychwelyd i'r ysgol yn dilyn y pandemig. Roedd swyddogion yn falch o roi gwybod i’r aelodau am y swyddi a gadarnhawyd o ran seicolegwyr plant, a oedd yn ail-ymgysylltu â phlant a theuluoedd, gan gynorthwyo gyda materion iechyd meddwl a godwyd oherwydd y pandemig.

Hysbyswyd yr aelodau y disgwylir adroddiad yn y dyfodol agos mewn cydweithrediad â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Aeth swyddogion ymlaen i ddweud y byddai cynllun gweithredu COVID-19 yn parhau fel dogfen barhaus, ac y byddai'r aelodau'n cael eu diweddaru gydag adroddiadau gwybodaeth yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad at ddibenion gwybodaeth, felly nodwyd yr adroddiad.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Eitemau Agenda'r Cabinet - cytunwyd y dylid craffu ar y canlynol

 

Eitem 7 ar yr Agenda – Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu

 

Hysbyswyd yr aelodau fod y strategaeth wedi cynnwys llawer o randdeiliaid o fewn y broses ymgysylltu. Cafwyd ymatebion penodol gan blant a phobl ifanc. Roedd swyddogion yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys y rhanddeiliaid penodol hyn yn y camau datblygu.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

Eitem 8 ar yr Agenda – Y Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgolion Castell-nedd Port Talbot

 

Cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

Eitem 9 ar yr Agenda – Tîm Gwella Ysgolion

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiwn mewn perthynas â mesurau arbennig a gwelliannau yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot. Roedd swyddogion yn gallu cadarnhau nad oedd unrhyw angen am y rhain ar hyn o bryd. Cadarnhaodd swyddogion y byddai ymchwiliadau o'r natur hon yn cael eu cynnal yn ffurfiol gan Estyn.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Eitem 10 ar yr Agenda – Adroddiad Diweddaru Cyflogadwyedd a Sgiliau

 

Cadarnhaodd y swyddogion i'r aelodau y byddai Cymunedau a Mwy yn cael ei disodli gan raglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2023, gan gwmpasu pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn.

Diweddarwyd yr aelodau am gydweithio parhaus rhwng adrannau mewn Cyfarwyddiaethau o ran darparu gwybodaeth i bobl ifanc am raglenni sydd ar gael.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Eitem 11 ar yr Agenda – Cyllid Grant CADW Castell Margam

 

Rhoddwyd trosolwg o'r arian grant i'r aelodau o ran gwaith brys i atgyweirio ffabrig yr adeilad. Aeth swyddogion ymlaen i esbonio y rhagwelwyd y byddai'r gwaith, ar ôl ei gwblhau, yn caniatáu mynediad i'r cyhoedd nad oedd ar gael ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad pellach i’r aelodau ar brosiect parhaus 5 mlynedd a ariennir yn llawn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a fyddai'n gweld y prosiect yn derbyn £10,000.

 

Llongyfarchodd yr aelodau'r swyddogion am yr arian llwyddiannus.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Eitem 12 ar yr Agenda – Adroddiad Gwasanaethau Hamdden

 

Darparwyd diweddariad ar yr adroddiad i'r aelodau. Hysbyswyd yr aelodau, oherwydd cyfyngiadau ariannol, fod y dyddiad cwblhau cychwynnol wedi'i ohirio ddeuddeng mis, a'r dyddiad newydd a gynigiwyd oedd 1 Ebrill 2024, yn hytrach na 2023.

 

Holodd yr aelodau ynghylch manylion ariannol cyflogi staff mewnol yn y Gwasanaethau Hamdden, a'r effaith ar y bwlch yn y gyllideb.

Dywedodd swyddogion y gallai'r aelodau ddod o hyd i wybodaeth o'r cynllun Busnes a luniwyd, a fyddai'n cael ei ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod. Hysbyswyd yr aelodau am y potensial i greu incwm a mesurau arbed effeithlonrwydd ynni.

 

Cafodd yr aelodau drosolwg byr o ddisgwyliadau'r cyngor ar ôl i'r gwasanaeth gael ei sefydlu'n ôl i'r awdurdod yn llawn.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Eitem 14 ar yr Agenda – Adroddiad atodol – Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg – Cam 2

 

Gwnaeth yr aelodau ymholiadau ar y bil cyfalaf yng Nghwmafan, a gofynnwyd i Swyddogion am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

Bod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles ar gyfer 2022/23 yn cael ei nodi.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.