Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Yn absenoldeb y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd,
cytunwyd bod y Cynghorydd Henton yn cadeirio'r cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar
Eitemau 7, 8 a 9 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganwyd buddiannau gan: Y Cyng. M Crowley Eitem 7 (Bwrdd y Cabinet), Personol, heb fod yn
rhagfarnol Marie Caddick Eitem 7 (Bwrdd y Cabinet), Personol, Rhagfarnol. Y Cynghorydd S. Hunt Eitem 8 (Bwrdd y Cabinet), Personol, heb fod yn
rhagfarnol. Y Cyng. S Harris Eitem Harris 8
(Bwrdd y Cabinet), Personol, Rhagfarnol |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Ysgolion Band C Cadarnhaodd swyddogion fod yr adroddiad yn amlinellu ac yn argymell y
gyfran nesaf o ysgolion y mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol arnynt. Nid
oes gofyniad i ymgynghori ar y cam hwn. Gobaith yr adroddiad yw sicrhau
buddsoddiad amlinellol o Raglen Ariannu Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag,
nodwyd, os caiff hyn ei gymeradwyo, y bydd angen cyflwyno achos busnes
amlinellol i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob cynnig er mwyn sicrhau cyllid. Gofynnodd yr aelodau a allai swyddogion roi eglurder ar y meini prawf ar
gyfer dewis ysgolion a pha bwysau a roddir i rai agweddau h.y. niferoedd
disgyblion, yr iaith Gymraeg etc. er mwyn i aelodau gael eu hysbysu ynghylch y
broses. Cadarnhaodd swyddogion mai nod Rhaglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru yw lleihau
ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau dros gyfnod o amser. Amlinellodd
swyddogion sut mae'r cyfarwyddiaethau Addysg a'r Amgylchedd yn gweithio gyda'i
gilydd i nodi ysgolion a all gyflwyno materion heriol o ran parhad busnes yn y
dyfodol a sut y cânt eu blaenoriaethu. Ni roddir blaenoriaeth benodol i
ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae’r Gymraeg wedi’i hystyried yn y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gymeradwywyd yn ddiweddar ac os yw hwn
am gael ei gyflawni’n llwyddiannus, bydd angen cyllid cyfalaf sylweddol i
gyflawni ei uchelgeisiau. Holodd yr Aelodau a oedd swyddogion yn rhagweld unrhyw effaith ar
drafodaethau cyllid â Llywodraeth Cymru ynghylch y posibilrwydd o oedi neu
benderfyniad ar ddefnyddio cyllid presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ysgol
newydd, y pwll ac uned anghenion dysgu ychwanegol yng Nghwm Tawe? Cadarnhaodd swyddogion fod y swm o arian a sicrhawyd ar hyn o bryd ar gyfer
ail-fuddsoddi yng Nghymoedd Tawe yn £22.5miliwn, a bod arian yn cael ei sicrhau
ar gyfer prosiect penodol. Os nad yw'r prosiect yn mynd rhagddo, yna does dim
modd ei ddefnyddio. Mae pryder cyffredinol o ran y gost adeiladu a gallu
cyffredinol yr awdurdod lleol i ariannu o ran sefyllfa ei gyllideb. Nodwyd ei
bod yn debygol y gall Llywodraeth Cymru ystyried ariannu llai o gynlluniau
oherwydd y costau adeiladu uwch. Dywedodd swyddogion y byddai angen i
gynlluniau yn y dyfodol fod yn destun dadl economaidd gref er mwyn cael y cyfle
gorau posib o sicrhau cyllid. Mynegodd yr aelodau bryderon yn benodol mewn perthynas â nifer y lleoedd ar
gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer Ysgol Llangatwg ac a yw
nifer y lleoedd yn ddigonol ar gyfer cynllunio yn y dyfodol? Mynegwyd pryderon
hefyd am y cynigion amlinellol i ddymchwel y rhan o'r ysgol a adeiladwyd ym
1929 a'r posibilrwydd o golli'r pwll nofio a ddefnyddir gan y gymuned. Cadarnhaodd swyddogion fod lleoedd anghenion dysgu ychwanegol yn nifer o'r
cynigion. At hynny, bydd adroddiad ar yr eitem hon wrth ystyried cyllideb y
flwyddyn nesaf. O ran manylion unrhyw gynigion, ymgynghorir â'r cymunedau
perthnasol a rhoddir ystyriaeth ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni'r cynigion
o fewn y gymuned. Nid oes cynigion pendant ar gyfer datblygu ar hyn o bryd. Yn dilyn craffu roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhelliad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 415 KB Cofnodion: Nododd yr aelodau'r eitem hon fel un er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |