Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid

Cyswllt: Alison Thomas  E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 9, 10, 11 a 12 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 129 KB

·        24 Tachwedd 2022

·        8 Rhagfyr 2022

·        25 Ionawr 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022, 8 Rhagfyr 2022 a 25 Ionawr 2023 fel cofnodion gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Addysg Ddewisol yn y Cartref

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r arweiniad newydd yn gosod dyletswydd statudol i bob disgybl gofrestru ar gyfer y system addysg. Nid oedd swyddogion yn gallu cadarnhau ai dyma fyddai'r achos nes bod yr arweiniad newydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref a'r addysg maent yn ei derbyn. Gofynnod yr aelodau os oedd digon o staff i ymdrin â nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref. Cadarnhaodd swyddogion fod dau gydlynydd wedi'u cyflogi ar hyn o bryd a bod hynny'n ddigonol.

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad er gwybodaeth.

Cydraddoldeb a Lle Diogel i Ddysgu

Mae'r fenter ar gyfer ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned wedi dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru dros y 18 mis diwethaf. Amlinellodd swyddogion sut y mae Castell-nedd Port Talbot wedi defnyddio'r arian gan Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar y maes hwn.

Gofynnodd yr aelodau os oedd unrhyw waith y gellid ei wneud gyda chyrff llywodraethu i ddeall yn well y cysylltiadau cymunedol a'r pethau y gall sefydliadau yn y gymuned eu cynnig. Cynghorodd swyddogion fod y cwricwlwm newydd yn rhoi llawer o ffocws ar gynnwys y gymuned.  Ymhellach at hynny, mae darn o waith yn cael ei wneud ar 'ddatblygu cymuned sy'n seiliedig ar asedau'. Mae hyn yn ystyried yr hyn sydd ar gael o fewn y cymunedau a sut i gynnwys ysgolion yn yr un sydd eisoes ar gael. Bydd yn rhoi ystyriaeth i drefniadau cyfatebol rhwng yr ysgolion a'r sefydliadau cymunedol.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.

Adroddiad Urddas y Misglwyf

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

Cadarnhawyd bod ysgolion uwchradd yn derbyn cyllid i brynu eitemau fel bo angen. Cysylltir ag ysgolion cynradd drwy e-bost i ofyn a hoffent archebu cynnyrch ac os felly, pa gynnyrch sydd ei angen. Mae gan ysgolion cynradd hawl i brynu gwisgoedd ysgol newydd gyda'r cyllid hefyd.

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad er gwybodaeth.

Adroddiad Diweddaru NEET (Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y’i dosbarthwyd o fewn yr agenda.

Darparwyd y diweddaraf i aelodau am ffigurau presennol. Mae 2.2% o bobl ifanc yn pontio o'r ysgol i NEET. Dyma'r ail flwyddyn orau erioed o fewn Castell-nedd Port Talbot ac mae'n ymwneud â 35 person ifanc yn unig.

Gofynnodd yr aelodau am y ffigurau a gyflwynwyd ar y graff, yn benodol mewn perthynas â 2018. Cynghorodd swyddogion fod anghysondebau yn adroddiad Cymru Gyfan ar gyfer y flwyddyn honno, gan nad oedd un awdurdod lleol wedi cyflwyno'i ffigurau mewn pryd.

Mynegodd yr aelodau'r pryderon a amlinellwyd yn un o'r astudiaethau achos mewn perthynas â chŵn cymorth. Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r awdurdod yn ystyried datblygu asesiad risg enghreifftiol i gefnogi hyn yn y dyfodol. Cynghorodd swyddogion eu bod yn ystyriol o'r sefyllfa ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 414 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem er gwybodaeth.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.