Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. R Mizen. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai Aelodau'r Pwyllgor
yn craffu ar eitemau 7, 9 a 10 o Fwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd S Reynolds ddatganiad o
fuddiant yn erbyn eitem 7 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 127 KB ·
27 Hydref 2022 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022, fel
cofnod cywir. |
|
Y diweddaraf am COVID-19 (llafar) Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad llafar i'r Pwyllgor Craffu
mewn perthynas ag eitem 4 ar yr Agenda. Nodwyd bod effaith COVID wedi cyfrannu
at y gostyngiad mewn presenoldeb disgyblion, gan effeithio'n bennaf ar iechyd
meddwl a lles unigolion. Hysbyswyd yr aelodau fod profiadau dysgu o ran
llythrennedd a rhifedd yn wynebu diffyg parhaus. Roedd staff yn parhau i
gefnogi disgyblion a theuluoedd gyda hyn. Roedd cyfyngiadau polisi, arweiniad i rieni a sylw
gan y cyfryngau yn parhau i fod yn her. Amlygwyd manteision ar gyfer datblygu
technoleg, yn enwedig gyda llwyfannau dysgu cydamserol ac anghydamseredig.
Roedd newidiadau fesul cam i strwythurau bellach yn cael eu gweld o fewn
ysgolion - un enghraifft o hyn oedd cwtogi amserau egwyl. Dywedodd Swyddogion, ers Gorffennaf 2022 nad oedd
absenoldebau oherwydd COVID bellach yn cael eu cofnodi fel rhesymeg penodol ar
gyfer absenoldeb disgyblion. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 414 KB Cofnodion: Holodd yr aelodau am ddiweddariad mewn perthynas â
chais a wnaed i'r flaenraglen waith craffu ynghylch yr argyfwng costau byw. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai adroddiad yn cael
ei gyflwyno mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol, ac mae hyn wedi'i drefnu o
fewn y Flaenraglen waith. Holodd yr aelodau am ddiweddariad ynghylch y
Gymraeg o fewn ysgolion yn dilyn canlyniad rhaglen y cyfrifiad. Gofynnodd yr aelodau hefyd i Swyddogion hysbysu’r
Pwyllgor Craffu’n llawn am adroddiadau sydd i'w disgwyl yng nghyfarfodydd Bwrdd
y Cabinet fel bod y drefn briodol wedi'i dilyn o ran prosesau Craffu. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Perfformiad Chwarter 2 Adolygodd yr aelodau yr adroddiad Perfformiad
Chwarter 2, a gofynnwyd i Swyddogion egluro canlyniad PI.2.4, sy'n gysylltiedig
ag Amcan Lles 4. Cwestiynodd yr aelodau y ffigur isel o 22, yn erbyn y ffigur
targed o 45. Rhoddodd y Swyddogion drosolwg o'r heriau a
wynebir, yn enwedig o ran cyllid. Trafodwyd y gostyngiad mewn cyllid Ewropeaidd
ynghyd â'r gronfa ffyniant gyffredin. Hysbyswyd yr aelodau hefyd o’r anawsterau
yn y prosesau ymgysylltu â theuluoedd ar ôl y pandemig. Dywedwyd wrth yr
aelodau fod Swyddogion yn awyddus i archwilio tactegau amgen wrth fynd i'r
afael â'r materion parhaus. Diolchodd yr aelodau i'r Swyddogion am eu
hymdrechion parhaus a'r cynnydd roeddent wedi'i wneud wrth godi arian o fewn
cymunedau, a'r cynnydd mewn cynhyrchu incwm ar gyfer digwyddiadau parhaus mewn
lleoliadau penodol, gan gynnwys Orendy Margam a pharhad Priodasau. Mae'r eitem agenda yn fater i'w fonitro a bydd yn
cael ei nodi. Diogelu ym myd Addysg Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn cynnwys
diweddariad ar ddiogelu plant o fewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol. Derbyniodd Swyddogion gwestiynau'n ymwneud â
digwyddiad hyfforddi, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2022. Gofynnodd yr aelod
cyfetholedig i'r Swyddogion gadarnhau bod y digwyddiad wedi mynd yn ei flaen a
gofynnodd am rywfaint o adborth o ran pethau cadarnhaol ac unrhyw bethau
negyddol a wynebwyd yn ystod y digwyddiad. Cadarnhaodd Swyddogion fod y digwyddiad wedi mynd
yn ei flaen ar 28 Tachwedd 2022 a bod llawer wedi mynd iddo, a dywedodd bod
bron 50 o bobl yn y digwyddiad. Hysbyswyd yr aelodau fod ysgolion, yn dilyn y
digwyddiad, wedi gofyn am sesiwn hyfforddi'r hyfforddwr gyda'r gobaith o
gyflwyno'r hyfforddiant rhithiol yn gynharach. Cadarnhaodd Swyddogion hefyd fod
cyllid wedi'i sicrhau i redeg y digwyddiad hyfforddi'r hyfforddwyr. Mae'r adroddiad yn fater i'w fonitro ac mae wedi’i
nodi. Presenoldeb Disgyblion Darparwyd diweddariad ar bresenoldeb disgyblion yn
Ysgolion Castell-nedd Port Talbot i'r aelodau, a materion penodol yn ymwneud
â'r cyd-destun hwn. Dywedodd aelodau fod yr adroddiad yn un diddorol,
ond ei fod yn amlygu'r heriau wrth symud ymlaen o ran rhieni sy'n dewis addysgu
eu plant gartref. Cododd yr aelodau bryderon am ansawdd addysg gartref a'r
effaith ar gofrestru plant. Trafodwyd y cynnig i gyflwyno bil addysg gartref ar
gyfer cofrestr bresenoldeb orfodol yn ysgolion Lloegr. Gofynnodd yr aelodau a
oedd y dull hwn wedi cael ei ystyried ar gyfer ysgolion CNPT. Rhoddodd Swyddogion esboniad i'r Aelodau, gan
ddweud y byddai adroddiad yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel rhan o'r
flaenraglen waith. Byddai'r adroddiad yn cynnwys manylion am addysg gartref
dewisol. Aeth swyddogion ymlaen i gadarnhau bod ysgolion wedi gweld cynnydd yn
nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref. Diweddarwyd yr aelodau ar yr
arweiniad newydd sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd, a dywedodd y Swyddogion
fod cofrestrau presenoldeb disgyblion yn cael eu hystyried, ynghyd â ffurflenni
i nodi manylion ynghylch sut mae addysg gartref yn cael ei chyflwyno a pha
welliannau y gellir eu gwneud. Cwestiynodd yr aelodau yr hysbysiadau cosb y mae rhieni'n eu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |