Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Aelodau yn craffu ar
eitemau 9, 12 a 16 ar Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 301 KB Cofnodion: Nododd
yr Aelodau nad oedd tudalen 8 o'r cofnodion yn cynnwys cofnod o ymateb
Aelodau'r Cabinet dros Addysg i'r cais am gadarnhad y byddai'r gyllideb ar
gyfer y Ddarpariaeth Ieuenctid yn cael ei chynnal ar gyfer y flwyddyn.
Cadarnhaodd Aelod y Cabinet y byddai'r gyllideb yn cael ei chynnal ar gyfer y
flwyddyn. Cymeradwywyd cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 fel cofnod gwir a chywir gyda'r diwygiad
uchod. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu (Caniatâd i
Ymgynghori) Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Aelodau yn ymwneud â'r Strategaeth
Cyfranogiad ac Ymgysylltu (Caniatâd i Ymgynghori), fel y nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Holodd yr Aelodau a fyddai'r sgyrsiau y cyfeirir atynt yn yr
adroddiad yn cynnwys ceisio ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt yn cymryd rhan
mewn darpariaethau ieuenctid lleol yn eu cymunedau. Holodd yr Aelodau a fyddai
gwaith yn cael ei wneud gyda sefydliadau trydydd sector a'r Swyddogion Cymorth
Cymunedol lleol yr Heddlu. Cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn edrych ar bob
grŵp o blant a phobl ifanc, a'r rheini a fyddai fwyaf agored i niwed.
Pwysleisiodd Swyddogion bwysigrwydd deall yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc fel y
gellir llunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Yn dilyn craffu roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r cynnig i'w
ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru 2020/21 Cyflwynwyd gwybodaeth i’r Aelodau yn ymwneud ag Adroddiad
Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2020/21. Mae'r adroddiad yn
nodi trosolwg o ran sut ymatebodd yr awdurdod ym mlwyddyn gyntaf y pandemig. Ailadroddodd Aelodau pa mor bwysig yw hi i lyfrgelloedd
weithredu fel hybiau cymunedol a chydnabuwyd y byddai’r pwysigrwydd hwn yn
cynyddu’n fawr yn y dyfodol. Cydnabu'r Aelodau fod Castell-nedd Port Talbot yn
un o'r awdurdodau a welodd gynnydd mewn cyfranogiad yn y llyfrgelloedd yn ystod
y pandemig. Mae cynnal yr hybiau hyn o fewn cymunedau yn hynod bwysig.
Cadarnhaodd Swyddogion y byddai hyn yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf. Holodd yr Aelodau a fyddai llyfrgelloedd yn cynnig parthau
cynnes dros y misoedd nesaf, yn wyneb y cynnydd yng nghost ynni. Cadarnhaodd
Swyddogion y byddai llyfrgelloedd yn rhan o hyn, yn ogystal â Chanolfan
Celfyddydau Pontardawe, a bydd sgyrsiau'n cael eu cynnal gyda Celtic Leisure i
benderfynu a fyddent hefyd yn gallu cymryd rhan. Mynegodd yr Aelodau eu diolch i'r Aelodau am y gwasanaeth y
maent yn ei ddarparu i'r cyhoedd. Yn dilyn craffu roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r cynnig i'w
ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Diweddariad ar y Gwasanaeth Ieuenctid Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Aelodau yn ymwneud â'r Gwasanaeth
Ieuenctid fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnodd yr Aelodau i Swyddogion am wybodaeth sy'n nodi pa
glybiau ieuenctid sydd ar gael ar draws yr ardal ac sy'n cysylltu â'r awdurdod
lleol. Nododd Swyddogion y byddent yn ychwanegu'r wybodaeth hon at yr adroddiad
nesaf. Holodd Aelodau'r pwyllgor a oedd plant nad oedd eto wedi
dychwelyd i'r ysgol oherwydd y pandemig, bellach wedi dychwelyd. Cadarnhaodd
Swyddogion fod cysylltiad â'r swyddogion a'r cyrff priodol yn cael ei gynnal
â'r plant nad oeddent wedi dychwelyd eto. Mae rhai plant wedi dewis derbyn
addysg yn y cartref a chedwir cysylltiad â nhw yn ôl yr angen. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 412 KB Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau am ddiweddariad cynharach ar yr argyfwng costau byw. Dywedodd
Swyddogion eu bod yn edrych ar yr eitem hon ar hyn o bryd ac y byddant yn
cysylltu â'r Aelodau ar yr eitem hon. Dywedodd
Swyddogion y byddai diweddariad ar yr Adolygiad Barnwrol yn cael ei gyflwyno ar
ôl iddo gael ei ystyried yn llawn gan Swyddogion. Dywedodd
y Cadeirydd fod angen derbyn adroddiadau ysgrifenedig ar eitemau er mwyn i'r
pwyllgor craffu allu ystyried yr eitem yn llawn. Ar
ôl ystyried, nododd yr Aelodau'r Blaenraglen waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Nid
oedd angen yr eitem hon gan nad oedd unrhyw eitemau preifat i'w hystyried. |