Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot Civic Centre / Microsoft Teams
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Peter
Rees, (Eitem 4B) – Personol - Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Cefn Saeson Y Cyng. Saifur
Rahaman, (Eitem 4C) – Buddiant personol a rhagfarnus yng Nglan Môr Aberafan |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol · 5 Rhagfyr 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5
Rhagfyr 2025 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a
Thrawsnewid wrth aelodau, mai hwn oedd yr ail o dri adroddiad yn y broses ar
gyfer y cynnig i ad-drefnu'r ysgol. Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben. Cafwyd ymatebion gan Estyn ac ni chodwyd
unrhyw broblemau, a'r Cyngor Cymuned a ni wnaeth unrhyw sylw ganddynt. Mae'r
adroddiad yn gofyn am ganiatâd i gyhoeddi hysbysiad statudol. Bydd penderfyniad
terfynol yn cael ei wneud ar ddiwedd tymor yr haf. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a
Thrawsnewid wybod i'r aelodau fod yr adroddiad hwn yn ymwneud ag ad-drefnu'r
ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Uwchgynllun Glân Môr Aberafan Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cyng. Rahaman fuddiant personol a
rhagfarnus a gadawodd y cyfarfod. Rhoddodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant drosolwg byr o'r adroddiad i'r aelodau fel y'i
cynhwysir yn y pecyn agenda. Roedd yr adroddiad yn cynrychioli gwaith ar y cyd
rhwng cyfarwyddiaethau Addysg a'r Amgylchedd ac fe'i hariannwyd gan y Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Holodd yr aelodau a fyddai'r uwchgynllun yn cael ei
ystyried gan ddefnyddio ymagwedd fesul cam. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod manylion y
cynllun i'w ystyried o hyd. Cynhwyswyd darn o waith i'r ymgynghorwyr ystyried
prosiectau'r cam cyntaf, ond cafodd hyn ei ddileu yn ddiweddarach. Bydd yr
ymagwedd yn dibynnu ar ba gyfleoedd ariannu sydd ar gael. Efallai y bydd cyfle
cynnar mewn perthynas â'r Clwb Llynges.
Mae'r clwb ar gau ar hyn o bryd ond maent yn chwilio am denantiaid. Mae
angen gwneud gwaith i gynhyrchu rhestr prosiect fesul cam. Dywedodd yr Aelodau fod yr uwchgynllun yn addawol,
fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch rwbel a oedd wedi'i adael ger twyni tywod
y Clwb Llynges, yn dilyn ailddatblygu'r hen dref yn y 1960au/1970au. Mae
stormydd diweddar wedi datgelu ychydig o'r gwastraff hwn ac awgrymwyd y dylid
gwneud gwaith archwilio i ddarganfod yr hyn a allai fod o dan y tywod. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod yn
ymwybodol bod eitemau wedi'u datgelu ar y traeth oherwydd erydiad arfordirol a
chaiff hyn ei ystyried. Roedd y cynlluniau ar gyfer y twyni tywod yn cynnwys
ardaloedd llwybr pren i reoli erydiad ac amddiffyn bioamrywiaeth Holodd yr aelodau a oedd digon o leoedd parcio ar
gael ger y traeth, yn enwedig ar gyfer faniau gwersylla. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd yn
anarferol i ardaloedd glan y môr wynebu pwysau o ran meysydd parcio, ond roedd
hyder bod digon o leoedd parcio ar gael ar gyfer diwrnod arferol. Cydnabuwyd y
gallai parcio fod yn broblem ar ddiwrnodau prysur, ond roedd angen cydbwysedd,
gan y byddai unrhyw ddarpariaeth bellach yn golygu bod rhannau helaeth o dir yn
wag am gyfnodau eraill. Roedd parcio ar gael ar lan y môr o fewn pellter
cerdded i ardaloedd o ddiddordeb posib. Mae cynigion ynghylch parcio ceir ym mharth
un a'r posibilrwydd o barcio ceir ym mharth dau. O ran parcio faniau gwersylla,
mae cyfleoedd mwy addas ar draws y fwrdeistref sirol, bydd cynigion yn cael eu
cyflwyno pan fo hynny'n briodol. Rhoddodd yr aelodau glod i'r swyddogion am yr
adroddiad trylwyr a chadarnhaol. Fodd bynnag, roedd siom nad oedd yr ardal i'r
gogledd o Ffordd y Dywysoges Margaret wedi'i chynnwys yn yr uwchgynllun gan fod
yr aelodau o'r farn y dylid defnyddio ymagwedd gyfannol wrth geisio cyfleoedd i
adfywio. Roedd pryder ynghylch y posibilrwydd o godi disgwyliadau'r cyhoedd
mewn cyfnodau o gyllid cyfyngedig i gyflawni'r cynlluniau. Awgrymwyd y gellid
atodi atodiad i'r adroddiad, gan amlinellu ffrydiau cyllido. Dywedodd yr Aelodau fod angen rhagor o dai yn y fwrdeistref, roedd y rhestr aros ar gyfer eiddo'r gymdeithas tai yn hir. Awgrymwyd y byddai sefyllfa gyfaddawdol o ofod digwyddiadau defnydd cymysg gyda thai wedi bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4c |
|
Strategaeth Digwyddiadau Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant drosolwg o'r adroddiad i'r aelodau fel y'i cynhwysir
yn y pecyn agenda. Mae'r strategaeth uchelgeisiol yn llunio blaenoriaethau ar
gyfer digwyddiadau a gwyliau dros y blynyddoedd nesaf a chaiff ei hariannu gan
y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cafwyd hyder bod modd cyflawni'r cynlluniau. Holodd yr Aelodau pe bai'r holl ddigwyddiadau
arfaethedig yn cael eu cynnal, pa refeniw y gellid ei gynhyrchu a beth yw'r
costau sy'n gysylltiedig â gwireddu'r uchelgais hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod dealltwriaeth o
gynhyrchu refeniw mewn perthynas â digwyddiadau a drefnwyd gan yr awdurdod a
hefyd ar gyfer cynhyrchu refeniw drwy ddigwyddiadau trydydd parti a gynhelir ar
dir y cyngor. Mae hyn wedi'i fodelu ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae angen
cydbwysedd mewn perthynas â'r ffioedd a godir i drefnwyr digwyddiadau ar gyfer
digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar dir sy'n eiddo i'r cyngor. Mae costau
trefnwyr digwyddiadau'n cynyddu, yn benodol o ran bodloni deddfwriaeth iechyd a
diogelwch. Darparwyd cymorth drwy'r Gronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth
a Digwyddiadau. Y gobaith yw y gall y cymorth barhau wrth hefyd gefnogi
digwyddiadau ar lefel wirfoddol a helpu i adeiladu ar y sgiliau presennol i
helpu'r sector i fod yn fwy cadarn o ran cynnal digwyddiadau wrth leihau rhai
costau. Canmolodd yr aelodau swyddogion ar yr adroddiad
uchelgeisiol. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod y gwaith
modelu ar gyfer y tîm wedi'i gynnwys yn adroddiad y Cabinet a gyflwynwyd i'r
Cabinet a'r Pwyllgor Craffu yn yr hydref. Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion
llawn ar gyfer costau ac incwm. Holodd yr Aelodau sut y byddai'r adroddiad yn cael
ei fonitro wrth symud ymlaen. Cadarnhaodd swyddogion mai'r bwriad oedd i
adroddiad blynyddol fod yn destun gwaith craffu ar gynnydd y strategaeth gan ei
fod yn gynllun tymor hir. Fodd bynnag, gellir darparu diweddariadau'n fwy aml
os bydd aelodau'n gofyn am hynny. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Strategaeth Hygyrchedd i Ysgolion Castell-nedd Port Talbot 2025-2028 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant
a Chyfranogiad drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Roedd yr Aelodau'n hapus gyda'r ymgynghoriad eang a
chyda'r newidiadau sy'n cael eu gwneud wrth i ymatebion barhau i gael eu
cwblhau. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu |
|
Effaith Cymorth y Tîm Asesu a Chynnydd Achosion Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
gynhwysir yn y pecyn agenda. Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 379 o'r adroddiad
a gofynnwyd a oedd nifer yr achosion yn ôl y disgwyl a sut yr oedd Castell-nedd
Port Talbot yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd swyddogion wrth aelodau nad oeddent yn
disgwyl nifer uchel o achosion gan eu bod yn wasanaeth newydd. Roedd un Swyddog
Asesu a Chynnydd Achosion i ddechrau, ac mae hyn wedi cynyddu wrth i'r galw
gynyddu. Mae nifer y staff yn y swydd yn hylaw o'i gymharu â nifer yr achosion.
Mae disgwyl i ddau aelod o staff ddechrau absenoldeb mamolaeth, a bydd achosion
yn cael eu hailddyrannu ymhlith y tîm, a fydd yn golygu mwy o alw am waith, ond
teimlwyd bod hyn yn hylaw. Bydd y gwasanaeth yn tyfu ymhellach wrth iddo gael
ei ymgorffori mewn ysgolion. Cwestiynodd yr aelodau sut y gwnaed atgyfeiriadau
at y gwasanaeth a beth oedd oedrannau'r disgyblion a oedd yn cael eu
hatgyfeirio. Cadarnhaodd swyddogion fod ysgolion yn gwneud
atgyfeiriad pan nodwyd bod plant heb gymorth ar waith a lle nad oedd plant yn
gwneud cynnydd neu lle roedd nifer y gwaharddiadau'n cynyddu. Pan fydd
disgyblion wedi'u gwahardd yn barhaol, nodir hyn yn awtomatig fel rhan o'r
broses. I ddechrau, roedd y disgyblion o flynyddoedd 10 ac 11 ond wrth i'r
gwasanaeth gael ei roi ar waith mewn ysgolion bu cynnydd yn nifer yr
atgyfeiriadau ar gyfer blynyddoedd 8 a 9. Nod y gwasanaeth yw bod yn
rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol. Gall ysgolion wneud atgyfeiriadau, ond
rhan o gylch gwaith y gwasanaeth yw sicrhau bod ysgolion hefyd yn cyflawni eu
cyfrifoldebau. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant drosolwg o'r adroddiad fel y'i cynhwysir yn y pecyn
agenda. Diolchodd yr aelodau i staff y gwasanaeth
llyfrgelloedd am eu gwaith caled a nodwyd bod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn
adnodd gwerthfawr i gymunedau. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Detholiadau o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd swyddogion wrth aelodau am newidiadau a
wnaed i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu a rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn
am eitemau pellach i'w hystyried. Mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, tynnwyd yr
adroddiadau canlynol oddi ar y Flaenraglen Waith: • Y Blynyddoedd Cynnar mewn Gofal Plant Dechrau'n
Deg • Cymorth i deuluoedd yn y blynyddoedd cynnar,
trosolwg o'r Cymorth i Deuluoedd a ddarperir gan dîm cymorth i
deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg. (Anogwyd yr Aelodau i fynd i
Seminar ar gyfer yr Holl Aelodau a gynhelir ar 10 Ebrill ar y pwnc 'Blynyddoedd
Cynnar a Gofal Plant yng Nghastell-nedd Port Talbot' a fyddai'n cynnwys yr
wybodaeth hon). Mewn cytundeb â'r Cadeirydd, ychwanegwyd yr
adroddiadau canlynol at y Flaenraglen Waith: • Datblygu Addysg, Cynllun Gwariant Grant Addysg
Awdurdodau Lleol ar gyfer 2024/25 • Adroddiad Urddas y Misglwyf. • Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 y
Cynllun Corfforaethol • Eisteddfod yr Urdd (Diweddariad Llafar) Bydd adroddiad ar drosolwg rhaglen Teuluoedd yn
Gyntaf yn cael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith yn y flwyddyn ddinesig nesaf. Cwestiynodd yr aelodau pam y trefnwyd i adroddiad
dichonoldeb Pwll Pontardawe fod yn adroddiad llafar. Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant na fyddai'r broses astudiaeth dichonoldeb yn cael ei
chwblhau erbyn hynny, ac ni fyddai digon o amser i baratoi adroddiad
ysgrifenedig ar gyfer y cyfarfod craffu nesaf. Ni fyddai adroddiad ysgrifenedig
ar gael tan fis Mai/Mehefin. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai angen adroddiad
ysgrifenedig ar y pwyllgor graffu, pan fydd hynny ar gael, ond gellid darparu
adroddiad llafar yn ystod y cyfarfod nesaf. Gwnaeth yr aelodau gais i'r pwyllgor gyfarfod â'r
Bwrdd Hamdden Celtic cyn gynted â phosib. Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant fod Hamdden Celtic yn recriwtio ar gyfer Prif
Weithredwr newydd ar hyn o bryd ac unwaith y daw'r broses hon i ben byddai
trafodaethau'n cael eu cynnal, a byddai'r cais hwn yn cael ei gyflwyno. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |