Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Saifur Rahaman, (Eitem 4A a 4B) – Personol,
mae aelod o'r
teulu'n derbyn cymorth gan y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y Cyng. Peter Rees, (Eitem 4B) - Personol,
Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Y Cyng. Nia Jenkins, (Eitem 4A) – Personol,
Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwmtawe |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
6 Mawrth 2025 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6
Mawrth 2025 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor Cofnodion: Trafododd yr aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a
Thrawsnewid wrth aelodau bod yr adroddiad yn benderfyniad terfynol o'r cynnig i
ad-drefnu'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Cwmtawe. Ni
dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig yn ystod y cyfnod ymgynghori ac os
caiff ei gymeradwyo, cynllunnir y gwaith ad-drefnu ar gyfer mis Medi 2025. Mynegodd yr aelodau eu bod yn cefnogi'r cynnig a
thynnwyd sylw at bwysigrwydd rhoi plant ag anawsterau llythrennedd penodol mewn
ysgolion prif ffrwd. Gofynnodd yr aelodau am nifer y disgyblion yr oedd
ganddynt Gynlluniau Datblygu Unigol gan yr ysgol ar gyfer anawsterau
llythrennedd penodol; pa graffu sydd ar waith i sicrhau y bydd y disgyblion yn
derbyn addysg o ansawdd uchel i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol mewn
ysgolion prif ffrwd? Gofynnodd yr aelodau hefyd pa brosesau a gwerthusiadau
Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir
i'r Awdurdod Lleol gan ysgolion yn gywir. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth wybod i'r aelodau
bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar gau darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol
lle nad oedd unrhyw ddisgyblion, felly efallai y byddai'n fwy priodol i'r tîm
Anghenion Dysgu Ychwanegol ateb y cwestiynau hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Darperir hyfforddiant helaeth i ysgolion i gydnabod dyslecsia ac anghenion
arbennig eraill. Caiff ysgolion eu monitro'n rheolaidd trwy Swyddogion Cefnogi
Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiad, gydag adolygiadau blynyddol ar gyfer disgyblion
y mae ganddynt Gynlluniau Datblygu Unigol gan yr awdurdod lleol. Anfonir
gwybodaeth bellach ymlaen at aelodau y tu allan i'r cyfarfod. Nodwyd hefyd bod
y ganolfan yn Ysgol Gyfun Cwmtawe wedi bod yn wag ers cyfnod sylweddol. Gofynnod aelodau a oedd athrawon mewn ysgolion prif
ffrwd yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas ag anghenion dysgu
ychwanegol ac a oedd cyllid ar gael i gefnogi unrhyw ofynion hyfforddi.
Gofynnod aelodau a oedd yr hyfforddiant yn orfodol. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y darperir pecyn
hyfforddi blynyddol a bod llawer o bobl yn dod i'r hyfforddiant er nad yw'n
orfodol. Ceir proses ddilynol ar gyfer ysgolion nad ydynt yn mynd i'r
hyfforddiant. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a
Thrawsnewid wrth aelodau bod yr adroddiad yn benderfyniad terfynol o'r cynnig i
ad-drefnu'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson.
Nododd yr aelodau nad oedd y ddarpariaeth wedi cael
ei defnyddio ers peth amser. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r
argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu · Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau Blaenraglen Waith y
Pwyllgor Craffu i'w hystyried. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Cynllun Gwariant Grant Addysg yr Awdurdod Lleol 2024-2025 Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Datblygu Addysg drosolwg o'r
adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Nodwyd bod 93% o'r grant yn cael ei
glustnodi'n uniongyrchol i ysgolion, a defnyddir y 7% sy'n weddill ar gyfer
costau staff a hyfforddiant. Mae telerau ac amodau'r grant yn caniatáu i
rywfaint o gyllid gael ei ddefnyddio'n ganolog i gyflogi staff, ond mae'r
mwyafrif yn cael ei glustnodi i ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio
fformiwla genedlaethol i bennu'r dyraniad i bob ysgol, a gofynnir i'r
awdurdodau lleol roi'r cyllid hwnnw i ysgolion. Trefnir y dyraniad grant yn
bedwar maes: Safonau, Cydraddoldeb, Diwygio, a Chymraeg 2050. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Cynllun Urddas Mislif Llywodraeth Cymru Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
gynhwysir yn y pecyn agenda. Derbyniwyd y grant gan Lywodraeth Cymru ers tua
pum mlynedd a chafodd ei anelu at ddisgyblion benywaidd i ddechrau; mae'r grant
wedi'i ehangu i alluogi merched a menywod ar draws Castell-nedd Port Talbot i
gael mynediad at gynhyrchion mislif am ddim. Mae ymdrechion yn parhau i
ehangu'r grant i fwy o grwpiau a sefydliadau cymunedol. Anogwyd aelodau i
awgrymu grwpiau newydd a allai elwa o'r cynhyrchion am ddim. Croesawodd y Cadeirydd y grant a diolchodd i'r
swyddogion am eu gwaith. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Cofrestr Risgiau'r Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a
Thrawsnewid wrth aelodau fod yr adroddiad yn amlinellu'r risgiau y mae'r
Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am ddau faes o bryder difrifol; nodwyd y rhain ar y
Gofrestr Risgiau Strategol Corfforaethol, gan eu bod yn cyflwyno risg i'r corff
corfforaethol a'r Gyfarwyddiaeth. Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd yr aelodau'r eitemau preifat o
Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Ffair Wanwyn Castell-nedd 2025 (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |