Lleoliad: CYFARFOD AML-LEOLIAD - SIAMBR Y CYNGOR PORT, TALBOT A MICROSOFT TEAMS
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y. Cyng. Saifur
Rahaman, Eitem (3) – Personol, Perchennog Busnes yng Nglan Môr Aberafan |
|
Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai'r cynigion arbedion cyllidebol a oedd yn
rhan o gylch gwaith y pwyllgor yn destun craffu. Byddai sylwadau o'r cyfarfod
yn rhan o'r ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb. Anogwyd aelodau i
gynnig unrhyw gynigion amgen y gellid eu hystyried ar ôl i'r ymgynghoriad ddod
i ben. Cynghorodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yr aelodau mai nod yr Uwch-dîm
Arweinyddiaeth oedd amddiffyn swyddi a gwasanaethau cyn belled ag y bo modd;
nid oedd unrhyw achosion o golli swyddi'n orfodol yn ymwneud yn uniongyrchol
â'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig. Fodd bynnag, mae risgiau'n
gysylltiedig â'r cynigion cynhyrchu incwm oherwydd gall ffactorau allanol megis
y tywydd effeithio ar nifer yr ymwelwyr ac felly incwm. Mae hefyd risgiau mewn
perthynas â chwblhau prosiectau cyfalaf megis Canolfan Celfyddydau Pontardawe,
ond gwnaed rhagdybiaethau y byddai'r prosiectau'n cael eu cwblhau o fewn yr
amserlen. Mae rhai arbedion effeithlonrwydd yn gysylltiedig â chostau craidd yn
erbyn grantiau ac nid oes unrhyw ymwybyddiaeth ynghylch unrhyw grantiau sy'n
debygol o ddod i ben, felly mae'r risgiau'n fach ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
gall camau gweithredu Llywodraeth Cymru achosi newidiadau i grantiau penodol. Amlinellodd pob
Pennaeth Gwasanaeth yr arbedion a'r cynigion cynhyrchu incwm o dan bob llinell
cyllideb yn yr adroddiad ym mhecyn yr agenda: ELLL-A - Cynghorodd y Pennaeth Hamdden,
Twristiaeth a Diwylliant a Threftadaeth yr aelodau fod yr arbedion arfaethedig
yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhorthdal isaf posib ar gyfer gwasanaeth
anstatudol. Mae un achos o golli swydd yn wirfoddol, ac mae'r cynllun yn
cynnwys gwella'r incwm a gynhyrchir drwy barcio ceir a digwyddiadau. Cydnabuwyd
y bydd yn fwy heriol cyflawni'r cynnydd yn y targed ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd yr
aelodau fod gorfodi yn allweddol i'r cynnig parcio ceir a gofynnwyd pa fesurau
a fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod gorfodi ar waith. Gofynnodd yr
aelodau am fanylion pellach ynghylch sut y cynhelir yr ymgynghoriad. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y Cabinet wedi cytuno ar yr adolygiad o feysydd parcio
parciau gwledig, a'i fod wedi rhoi awdurdod i ddechrau ar yr ymgynghoriad
ynghylch ffioedd parcio ceir. Byddai'r gorchymyn parcio oddi ar y stryd yn cael
ei hysbysebu am gyfnod penodol a byddai sylwadau o'r ymgynghoriad yn cael eu
cyflwyno i'r Cabinet yn y man. Roedd yr ymgynghoriad yn rhan o broses statudol.
Cytunwyd bod gorfodi mewn meysydd parcio yn hanfodol, ac mae hyn yn cael ei
ystyried. Gofynnodd yr
aelodau am fanylion yr ymgynghoriad fel y gallant eu rhannu â'u hetholwyr. Gofynnodd yr
aelodau sut y byddai arbedion yn cael eu cyflawni, gan ystyried nas cyrhaeddwyd
y targed y llynedd ac y byddai rhagor o arbedion effeithlonrwydd yn
angenrheidiol y flwyddyn nesaf. Beth fydd y goblygiadau os nad yw'r targed
arbedion yn cael ei gyrraedd? Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth a Diwylliant a Threftadaeth y cafwyd anawsterau yn cyrraedd y targed arbedion yn y flwyddyn ddiwethaf oherwydd costau cyfleustodau a rheoli swyddi gwag. Fodd bynnag, roedd mwy o sefydlogrwydd eleni ac roedd yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |