Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 25ain Gorffennaf, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Chair's Announcements

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2.

Declarations of Interest

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

3.

Minutes of Previous Meeting pdf eicon PDF 211 KB

·        25 Ebrill 2024

 

Cofnodion:

4.

Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024 pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd a chefnogodd y pwyllgor Adroddiad Blynyddol 2023/24 a'i gymeradwyo i'r Cyngor.

5.

To consider items selected from the Cabinet Forward Work Programme:

Cofnodion:

5a

The Cross Community Centre pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, wrth yr aelodau bod yr adroddiad yn manylu ar broses weinyddol i drosglwyddo perchnogaeth yr adeilad rhwng cyfarwyddebau, er mwyn gallu penderfynu ar y defnydd o'r adeilad yn y dyfodol. Bydd adroddiad ar y defnydd o'r adeilad yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law.

 

Dywedodd yr Aelodau mai sefydliadau sy'n prydlesu canolfannau cymunedol sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r adeilad. Pwy sy'n gyfrifol am fonitro gwaith cynnal a chadw'r adeiladau a sicrhau y glynir at amodau'r brydles?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles wrth aelodau bod canolfannau cymunedol ar brydlesi gofal a chynnal a chadw allanol llawn, felly mae'r cyfrifoldeb i gynnal a chadw a monitro'r adeilad ar y tenant.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oes gallu o fewn yr awdurdod lleol i arolygu adeiladau ar brydles.

 

Holodd yr aelodau a fyddai cyfle i adennill unrhyw gyllid grant os na fydd adeilad ar brydles wedi cael ei gynnal a'i gadw.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles fod y brydles ar y Ganolfan Gymunedol y Groes eisoes wedi dod i ben ac nad oes lle i adfer grantiau.

 

Dywedodd yr Aelodau bod angen ymwybyddiaeth ar sefydliadau o'r cyfrifoldebau o ran ymgymryd â phrydles gofal a thrwsio lawn; mae'r adeiladau'n asedau cyhoeddus. Mynegodd yr aelodau bryder bod y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio'n aml a chwestiynwyd a oedd darpariaeth ddigonol mewn lleoliadau amgen yn yr ardal.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, nad oedd hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r adroddiad ond cadarnhaodd fod gan lawer o leoliadau yn yr ardal le i'w llogi, megis; y Ganolfan Celfyddydau, y Ganolfan Hamdden, y Llyfrgell, y Ganolfan Dreftadaeth a chyfleusterau'r Cyngor Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, pan nodwyd problemau sylweddol gyda chyflwr yr adeilad, daethpwyd o hyd i gyfleusterau newydd ar gyfer tenantiaid yn gyflym.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd fod arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i ddyrannu ar gyfer atgyweirio adeiladau ac addasu adeiladau cymunedol ar brydles. Efallai y bydd angen cynyddu ymwybyddiaeth i gynghori ar argaeledd cyllid i helpu i gynnal cyflwr adeiladau ar brydles.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

 

 

5b

Draft Air Quality Action Plan (to follow)

Cofnodion:

Dywedodd Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd wrth aelodau mai'r bwriad oedd i'r adroddiad fod ar gael cyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu hwn, ond, er gwaethaf ymdrechion swyddogion ac ymgynghorwyr penodedig, nid yw hyn wedi bod yn bosib. Gyda chytundeb y Cadeirydd, darperir diweddariad llafar a bydd yr adroddiad ar gael yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor craffu. Bydd ystyriaeth y Cabinet o'r adroddiad hwn yn cael ei symud i 2 Hydref.

 

Rhoddwyd diweddariad llafar i'r aelodau.

 

Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol lunio Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer lle mae Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer Lleol dynodedig fel Margam/Taibach. Mae'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer presennol wedi bod ar waith ers 2012, i ymdrin â deunydd gronynnol, PM10 ac mae'r cynllun a'r broses yn gofyn am adolygiad cyfnodol. Bydd yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn gofyn i aelodau gytuno i swyddogion fynd allan i ymgynghori ac ymgysylltu ar y cynllun gweithredu drafft.

 

Mae'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer drafft wedi'i baratoi gyda chymorth Ricardo, Ymgynghorwyr Ansawdd Aer yr Awdurdod. Mae Ricardo wedi gweithio ar ddadansoddiadau ac adolygiadau data blynyddol ar gyfer ansawdd aer. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd y Cynllun Gweithredu'n cynnwys crynodeb o'r ansawdd aer presennol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yn nodi'r blaenoriaethau o ran ansawdd aer ac yn y pen draw yn cyflwyno camau blaenoriaeth i wella ansawdd aer wrth symud ymlaen. Mae grŵp llywio eisoes wedi'i sefydlu, mae'r aelodau'n cynnwys Bwrdd Iechyd, Priffyrdd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r grŵp llywio wedi cyfrannu at y cynllun gweithredu drafft ac fel rhan o'r broses ymgynghori, ail-ymgynghorir â nhw ar gyfer sylwadau ffurfiol, ynghyd ag ymgyngoreion eraill. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu ym mis Medi, a fydd yn darparu crynodeb a chyd-destun deddfwriaethol, ac yn tynnu sylw at yr hyn y gofynnir i'r Cabinet ei ystyried a'i nodi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariad llafar.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at adroddiad newyddion a oedd yn nodi nad oedd parthau 50mya ar draffyrdd wedi effeithio ar lefelau llygredd a chafwyd gwared ar y terfyn cyfyngedig mewn rhai rhannau o Loegr. Holodd yr aelodau a oedd yr ardal 50mya gyfyngedig o Bort Talbot i Landarcy wedi effeithio ar lefelau llygredd.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y cyfyngiad o 50mya ar yr M4 wedi cael ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru am resymau ansawdd aer. Mae Ymgynghorwyr Rheoli Ansawdd Aer wedi cynnal adroddiadau ynghylch rhoi'r mesurau ar waith a'u heffaith, ond nid yw'n glir a yw'r wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi eto. Gall swyddogion gyfeirio aelodau at wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru ynghylch hyn. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn faes o ddiddordeb, ymgymerwyd â monitro gan ddefnyddio synwyryddion ansawdd aer cost isel mewn ardaloedd ansawdd aer o amgylch y draffordd. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei adolygu. Nodwyd nad yw rhai o'r synwyryddion wedi bod yn ddibynadwy o ran casglu data, ond gellir gwneud rhywfaint o waith dadansoddi. Derbyniwyd arian grant Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5b

5c

Events and Festivals Review pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles drosolwg byr o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad. Gall y trefniadau presennol atal sefydliadau rhag trefnu digwyddiadau cymunedol. Holodd yr aelodau a fyddai'r trefniant newydd yn siop dan yr unto ar gyfer trefnu trwyddedau. Nododd yr Aelodau y gallai'r ystod codi tâl, sy'n amrywio o £25 i £100, fod yn rhy ddrud ar gyfer digwyddiadau ar raddfa lai.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles y byddai'r tîm arfaethedig yn cydlynu gwaith papur ar gyfer digwyddiadau a chaniatâd mewnol y Cyngor. Ni fyddant yn rheoli ceisiadau ar gyfer offerynnau statudol megis trwyddedu mangreoedd, fodd bynnag, byddant yn gallu cyfeirio at adrannau perthnasol. Mae'r ffioedd a awgrymir yn gymedrol ar gyfer digwyddiadau llai, mae angen costau i dalu costau'r gwasanaeth. Nodwyd y bydd 80% o'r ceisiadau gan drefnwyr digwyddiadau bach a fydd yn effeithio ar amser swyddogion. Er bod yr awdurdod lleol yn awyddus i annog digwyddiadau cymunedol, mae angen adennill rhai costau. Bydd y ffioedd yn cynrychioli gwerth da am arian i drefnwyr oherwydd lefel y cymorth a ddarperir. Mae ffioedd ar gyfer digwyddiadau mwy yn hyblyg er mwyn galluogi penderfynu ar ffioedd masnachol, lle bo hynny'n berthnasol.

 

Holodd yr aelodau a fyddai graddfa symudol o ran ffioedd ar gyfer digwyddiadau llai.

 

Cytunodd Aelod y Cabinet y byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

Rhoddodd swyddogion wybod i'r aelodau am y ffi cychwyn o £25 ar gyfer digwyddiadau heb unrhyw ongl fasnachol. Mae digwyddiadau'n rhai masnachol, pan fydd traean o fasnachwyr neu stondinau yn y digwyddiad yn fasnachwyr masnachol. Nodwyd bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau cymunedol yn debygol o fod o fewn pen isaf y strwythur codi tâl. Roedd y ffi yn ymrwymiad i gymryd y broses o ddifrif, mae dadansoddiad wedi dangos bod amser staff yn cael ei wastraffu pan fydd trefnwyr digwyddiadau yn rhoi'r gorau i'r broses. Mae'r pwyslais ar gefnogi trefnwyr digwyddiadau, yn enwedig yn y sector cymunedol, i feithrin galluoedd, gwytnwch a phrofiad.

 

Nododd yr Aelodau fod llawer o Gynghorwyr wedi sefydlu digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Holodd yr aelodau a allai'r tabl taliadau yn y ddogfen ddrafft fod yn fwy eglur. Byddai hyn yn caniatáu i sefydliadau llai godi arian drwy gydol y flwyddyn i dalu am gostau. Byddai'n ddefnyddiol cynnwys y meini prawf o ran nodi'r digwyddiad fel un masnachol yn y tabl.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r tabl sy'n cynnwys ffioedd a thaliadau mor glir â phosib.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles mai'r bwriad oedd cael gwared ar rwystrau cyn belled ag y bo modd.

 

Holodd yr aelodau a fyddai cau strydoedd ar dir nad oedd yn eiddo'r Cyngor yn dod o dan gylch gwaith y tîm.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r tîm yn cysylltu â Phriffyrdd ochr yn ochr â threfnwyr y digwyddiad, er mwyn dod o hyd i atebion. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn edrych ar ddewisiadau amgen yn lle cau strydoedd. Os  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5c

6.

To consider items from the Scrutiny Committee Forward Work Programme

Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried.

 

Cofnodion:

7.

Performance Monitoring

Dim eitemau i’w hystyried.

 

Cofnodion:

8.

Selections of items for future scrutiny pdf eicon PDF 722 KB

A)  Blaenraglen Waith y Cabinet

B)  Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd swyddogion wrth aelodau am eitemau newydd a ychwanegwyd at Flaenraglen Waith y Cabinet a rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried.

 

Holodd yr aelodau a fyddai'n bosib cyflwyno'r tablau mewn fformat gwahanol er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy clir.

 

Gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Pwll Nofio Pontardawe.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y gwaith dichonoldeb wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet a bod y Cylch Gorchwyl yn cael ei lunio. Gellid cyflwyno hyn i'r aelodau er gwybodaeth. Disgwylir y bydd canlyniad y gwaith yn cael ei adrodd yn ôl i'r aelodau tua mis Mawrth 2025. Cytunwyd y byddai'r eitem hon yn cael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith craffu ar adeg briodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r adroddiad Ad-drefnu Ysgolion gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2024 yn hytrach na fis Ionawr 2025. 

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

9.

Urgent Items

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.