Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb
i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 10 a 13 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Eitem
14 (Agenda’r Cabinet) Y
Cyng. Phil Rogers - Personol - mae aelod o'r teulu'n mynd i Ysgol Gynradd Abbey Y
Cyng. Peter Rees - Personol - mae aelod o'r teulu'n mynd i Ysgol Gymraeg Bro
Dur |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 219 KB ·
28 Medi 2023 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: CSGA Gofynnodd
yr aelodau a fyddai'r dosraniad di-rent dros dro ar gyfer cyfleusterau cyfrwng
Cymraeg sy'n gweithredu yn adeiladau'r cyngor yn parhau. Cadarnhaodd
Cydlynydd y Blynyddoedd Cynnar fod y sefyllfa'n cael ei hasesu a'i gwerthuso ar
hyn o bryd i sicrhau bod y trefniant yn deg. Cyflwynir adroddiad i Fwrdd y
Cabinet yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod y trefniant presennol wedi bod yn
fuddiol o ran y CSGA. Cyfeiriodd
aelodau at dudalen 182 yr adroddiad a'r gostyngiad a adroddwyd yn nifer y
disgyblion sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg ôl-16, a gofynnwyd a
roddwyd ystyriaeth i gynnig addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg yng nghampws Bro Dur. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yr ystyriwyd darpariaeth ôl-16
yng nghampws Bro Dur rywbryd yn y dyfodol ond ni ellir darparu unrhyw fanylion
ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd galwedigaethol ac academaidd
ôl-16 yn Ystalyfera ac mae'r staff yng nghampws Bro Dur yn gweithio gyda
disgyblion o ran pontio. Yn dilyn craffu, nododd yr
aelodau'r eitem er gwybodaeth. Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd Cyfeiriodd yr aelodau at
dudalen 263 yr adroddiad a gofynnwyd am yr hyn a wneir i reoli unrhyw risgiau
mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat nes bydd y labordy newydd wedi
cymryd y contract. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer
cyfyngedig o gyflenwadau dŵr preifat ar draws Castell-nedd Port Talbot y
mae angen iddynt gynnal asesiadau risg rheolaidd bob blwyddyn. Mae'r broblem
profi o ran y labordy bellach wedi'i datrys a disgwylir y bydd y targed yn cael
ei gyflawni erbyn diwedd chwarter tri/dechrau chwarter pedwar. Cyfeiriodd
aelodau at dudalen 264, eitem 5 yr adroddiad, a gofynnwyd am y rheswm pam na
chyflawnwyd targed chwarter dau sef 55% ac am ragor o wybodaeth mewn perthynas
â'r aelod staff a gollwyd. Cadarnhaodd
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod gweithiwr arall wedi cymryd lle'r
aelod o staff a gollwyd. Mae'r DPA yn berthnasol i'r gwaith safonau bwyd a bwyd
anifeiliaid a wneir gan y Tîm Safonau Masnach; mae Swyddogion Iechyd
Anifeiliaid yn gyfrifol am arolygu'r systemau hylendid bwyd ar ffermydd ac mae
Swyddogion Safonau Masnach yn arolygu gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid a
manwerthwyr. Mae'r
Peilot Asesiad Risg Bwyd a grybwyllwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddatblygu gan
yr Asiantaeth Safonau Bwyd â'r nod o gyflwyno'r cynllun newydd ar draws Cymru.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod bod y gallu a'r adnoddau o fewn
awdurdodau lleol ar draws Cymru'n gyfyngedig ac mae'r cynllun newydd yn anelu
am ddefnydd mwy effeithlon ac effeithiol o adnoddau gyda dull a dargedir at
fusnesau risg uchel. Disgwylir y bydd arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth tymor
hwy y bydd pob awdurdod lleol yn buddio o ganlyniad iddynt pan fydd y cynllun
peilot wedi'i sefydlu; bydd ymrwymiad i'r peilot yn y cam hwn yn gyfle da i gael dylanwad ar sut mae'n cael ei sefydlu a'i
gyflwyno yn y dyfodol. Nodwyd yn y tymor byd y byddai'r peilot yn cael effaith
ar berfformiad. Yn dilyn craffu, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 387 KB Cofnodion: Nodwyd yr eitem hon. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 418 KB Cofnodion: Nodwyd
yr eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |