Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Estynnodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau i'r rheini sydd
wedi'u heffeithio gan ddigwyddiadau diweddar yn Ysgol Dyffryn Aman. Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 6 a 7
ar Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Minutes of Previous Meeting PDF 129 KB ·
14th March 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Professional Learning Offers available for School Based Staff PDF 841 KB ·
Appendix A – Contained
within the report ·
Appendix B - Early Years
and Inclusion Training Menu ·
Appendix C - Inclusion
Service Training programme ·
Appendix D – W12W Training
programme ·
Appendix E – Wellbeing and
Behaviour Service/Cynnydd Offer Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd
yr Aelodau i'r swyddogion am yr adroddiad a chyfeiriodd at y nifer helaeth o
gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i staff ysgolion. Holodd yr Aelodau a oes
data ar gael i nodi a yw hyfforddiant wedi effeithio ar ganlyniadau addysgu a
dysgu mewn ysgolion, a'r broses os nad yw ysgolion yn ymgysylltu â'r rhaglen
hyfforddi. Cadarnhaodd
y Pennaeth Datblygu Addysg y dylid adnabod a nodi costau'r holl hyfforddiant
drwy'r Cynllun Datblygu Ysgolion; mae adnoddau'n gyfyngedig a dylid ystyried
sut y gall staff gael mynediad at gyrsiau gan ystyried y gofyniad i dalu am
absenoldebau staff. Mae yna wahanol ddulliau o ddarparu hyfforddiant, a gall
llawer ohonynt fod yn gost niwtral. Mae amrywiaeth o swyddogion yn monitro'r
Cynllun Datblygu Ysgolion i nodi a yw hyfforddiant wedi bod yn effeithiol.
Darperir holiaduron yn ystod yr hyfforddiant a gwneir gwaith dilynol ar
ymatebion. Cysylltir ag ysgolion nad ydynt yn cymryd rhan mewn hyfforddiant i
nodi rhwystrau i bresenoldeb. Cydnabuwyd y gall cyllidebau ysgolion a chostau
hyfforddi effeithio ar aelodau staff sy'n ceisio cael mynediad at hyfforddiant.
Gofynnodd
yr aelodau a ellid recordio hyfforddiant ymlaen llaw i gynorthwyo gyda staff
sydd am dderbyn yr hyfforddiant ar adeg gyfleus. Cadarnhaodd
y Pennaeth Datblygu Addysg fod rhai cyrsiau'n cael eu recordio ymlaen llaw ond
roedd hyn yn dibynnu ar natur y cwrs a'r ymyriad cwrs gofynnol. Mae'n bwysig
peidio â cholli ansawdd yr hyfforddiant. Gofynnodd
yr aelodau a oedd hyfforddiant ar gael i staff ysgolion yn unig. Cadarnhaodd
swyddogion fod yr adroddiad y gofynnwyd amdano yn canolbwyntio ar staff
ysgolion yn unig ond bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bartneriaid lle bo
hynny'n briodol. Cydnabu'r
Aelodau fod y gofyniad dysgu ar gyfer staff ym mhob sector yn wych a gofynnwyd
a oedd gofynion hyfforddiant yn effeithio ar gyllidebau ac addysgu a dysgu mewn
ysgolion. Dywedodd
y Pennaeth Datblygu Addysg fod angen cynllunio hyfforddiant a bod
arweinyddiaeth ysgolion a'r cynllun datblygu ysgol yn bwysig wrth gynllunio ar
gyfer gofynion hyfforddi yn y dyfodol. Gofynnodd
yr Aelodau a oedd cydberthynas wedi'i nodi rhwng nifer y staff ysgol a oedd yn
bresennol mewn cyrsiau hyfforddiant ac unrhyw effeithiau cadarnhaol ar yr
ysgol. Cadarnhaodd
y Pennaeth Datblygu Addysg y cedwir rhywfaint o ddata, ond mae'n bwysig bod yr
hyfforddiant yn cael ei roi ar waith ac mae angen sicrhau bod hyfforddiant yn
cyd-fynd ag anghenion yr ysgol. Trwy reoli perfformiad, dylai staff gael
mynediad at hyfforddiant sy'n cael yr effaith fwyaf ar ddisgyblion. Nid oes
tystiolaeth sy'n dangos a oes cydberthynas uniongyrchol. Gwnaeth
y Cadeirydd sylw ar y rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a oedd ar waith a diolchodd
i'r swyddogion am yr adroddiad. Yn
dilyn craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad. |
|
Celtic Leisure Working Group Update PDF 286 KB Cofnodion: Diolchodd
yr Aelodau i'r swyddogion am yr adroddiad ond gwnaethant sylw ar deneurwydd y
Cylch Gorchwyl. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch dyddiadau'r
cyfarfod. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod cyfarfodydd
Gweithgor Celtic Leisure wedi'u cynnal ar 5 Chwefror, 22 Chwefror a 13 Mawrth;
rhagwelir y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn fuan a chynhelir
cyfarfodydd yn y dyfodol bob pythefnos, os bydd angen. Gofynnodd
yr aelodau a roddwyd ystyriaeth i gynhyrchu incwm a'r cydbwysedd rhwng gwariant
a phosibiliadau cynhyrchu incwm. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw groesliniad o
bosibiliadau gwasanaeth wedi'u nodi. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant nad oedd y gweithgor
wedi canolbwyntio ar gynhyrchu incwm ond roedd Celtic Leisure wedi gwneud
cynnydd mewn perthynas â chynhyrchu incwm ac arbedion cyllideb yn ystod y
flwyddyn ariannol ddiwethaf. Maent yn hyderus y gellir cyflawni arbedion
pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol drwy gynhyrchu incwm. Nid yw
croesgysylltiad wedi'i archwilio ar hyn o bryd; mae'r ffocws wedi bod ar sicrhau
bod costau sy'n dod i mewn yn cael eu rheoli. Dywedodd
yr aelodau fod angen canolbwyntio mwy ar arbedion posib ar draws gweddill yr
awdurdod a gofynnodd a fyddai'r gweithgor yn gwneud y gwaith hwn. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant nad oedd hyn yn cael
ei ystyried ar hyn o bryd ond y bydd yn cael ei ystyried, yn dibynnu ar
ganlyniad y gweithgor. Bydd gwaith i gynllunio sut mae gwasanaethau'n cael eu
gweithredu pan ddônt yn ôl yn fewnol yn cael ei wneud wrth i'r flwyddyn fynd yn
ei blaen. Gofynnodd
yr Aelodau am esboniad ynghylch trosglwyddiad graddol posib a phryd y gellid
disgwyl adroddiad. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant yr ystyriwyd sut y
byddai gwahanol amserlenni'n effeithio ar gostau. Roedd amseriad yr adroddiad
yn dibynnu ar y gwaith parhaus o amgylch costau, ond y gobaith oedd y byddai
hwn ar gael cyn gwyliau'r haf. Dywedodd
yr aelodau ei bod yn bwysig edrych ar sut mae gwasanaethau'n rhyng-gysylltu a'r
potensial ar gyfer arbedion mewn meysydd eraill. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant bod cyfleoedd ar gael
ond efallai na fydd y rhain yn cael eu gwireddu yn y tymor byr. Mae gan Celtic
Leisure gynllun busnes y mae'n ei ddilyn. Dywedodd
yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol gweld y cynllun busnes wrth symud ymlaen.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth y byddai'n gwirio pryd roedd y cynllun yn
mynd i Fwrdd Celtic Leisure. Yn
dilyn craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad. |
|
Pre-Decision Scrutiny To
select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny
(Cabinet Board reports included for Scrutiny Members) Cofnodion: Cynllun
Plant a Phobl Ifanc a Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar Cyflwynodd
Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Chyfranogiad y Cynllun Plant a
Phobl Ifanc a Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar fel yr amlinellir ym mhecyn
adroddiad Agenda'r Cabinet. Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 17 yr adroddiad a gofynnwyd am ragor o fanylion ar sut y
cafodd dysgwyr bregus eu cynnwys yn y broses ymgynghori. Cadarnhaodd
Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Chyfranogiad ei bod yn bwysig bod
barn pobl ifanc fregus yn cael eu cofnodi. Er mwyn cyflawni hyn, cyflogwyd
Ymgynghorydd a chynhaliwyd ymgynghoriad helaeth gydag ystod eang o randdeiliaid
ac unigolion. Defnyddiwyd y safbwyntiau a gasglwyd i lunio'r cynllun a sefydlu
blaenoriaethau; bydd safbwyntiau'n parhau i gael eu hystyried wrth i grwpiau
cyflwyno gael eu datblygu. Yn unol â'r Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu
newydd, sicrhawyd yr ymgynghorwyd â phob grŵp o bobl ifanc, yn enwedig y
rheini heb gynrychiolaeth ddigonol. Nodwyd ei bod yn bwysig rhoi sgiliau i
blant er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 18 yr adroddiad a'r effaith gadarnhaol ar gymunedau'r
cymoedd a nodwyd. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am sut ymgynghorwyd
â rhieni a phobl ifanc. Cadarnhaodd
Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Chyfranogiad yr ymgynghorwyd yn
helaeth â grwpiau o bobl, ysgolion arbennig, cyngor ieuenctid, a thrwy ymgyrch
ar-lein ac ysgogiadau. Gofynnwyd am farn hefyd gan weithwyr proffesiynol sy'n
gweithio mewn gwahanol feysydd. Mynegodd
yr aelodau barch at y cyngor ieuenctid ond dywedon nhw efallai na fyddant yn
cynrychioli'r holl bobl ifanc; mae angen barn gan grwpiau o bobl ifanc nad
ydynt yn hanesyddol yn cymryd rhan. Cadarnhaodd
swyddogion fod ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda'r gwasanaeth ieuenctid, gofalwyr
ifanc a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Gwnaed cysylltiadau â grwpiau LHDTQ+,
Dechrau'n Deg, grwpiau bwydo ar y fron a llawer o ymgynghoriadau â grwpiau bach
yn dilyn ymgynghoriad â phartneriaid. Dywedodd
yr Aelodau fod y cynllun yn dda ond bod diffyg unrhyw bwyntiau negyddol; a oes
cysylltiad clir rhwng Cynllun y Gyfarwyddiaeth a'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc
a Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar. Cadarnhaodd
swyddogion fod dwy elfen i'r strategaeth; blaenoriaethau ar gyfer y
Gyfarwyddiaeth a blaenoriaethau sy'n cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau
partneriaeth ac sy'n cyd-fynd â nhw. Adroddir yn ôl i'r pwyllgor ynghylch
cynnydd y strategaeth. Diolchodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar i staff addysg am y gwaith
mawr o lunio'r strategaeth a dywedodd fod gan y strategaeth gysylltiadau â'r
adroddiad dysgu proffesiynol a drafodwyd yn gynharach. Yn
dilyn gwaith craffu, cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno
i Fwrdd y Cabinet. Cynllun
Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Dywedodd
yr Aelodau fod Cynllun y Gyfarwyddiaeth yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwybodaeth
a mewnwelediad i'r ddarpariaeth a gofynnwyd iddo gael ei ddychwelyd i'r pwyllgor fel arf defnyddiol i fonitro
cynnydd, yn enwedig yn y model craffu newydd. Cytunodd y Pennaeth Datblygu Addysg i adrodd yn ôl i'r pwyllgor am yr adroddiad hanner ffordd drwyddo fel dogfen fonitro ond ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Committee Action Log PDF 381 KB Cofnodion: Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Urgent Items Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. Cododd
yr aelodau'r digwyddiad diweddar yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, a
chynhaliwyd trafodaeth ynghylch gweithdrefnau atal mynediad yn Ysgolion
Castell-nedd Port Talbot. Cadarnhaodd
y Pennaeth Datblygu Addysg fod gan bob ysgol Bolisi Atal Mynediad, sy'n
gysylltiedig â'r Polisi Diogelu. Cynhelir sesiynau hyfforddi rheolaidd trwy dîm
Archwilio I&D, ac mae staff o Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn ymweld ag
ysgolion i gynghori ar yr agenda Atal a Diogelu. Nodwyd mai cyfrifoldeb
arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu yw ymarfer a gweithredu gweithdrefnau
atal mynediad fel y bo'n briodol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth y
dosbarthwyd gwybodaeth i staff ysgolion a rhieni er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth
o bolisïau atal mynediad. Dywedodd
yr Aelodau fod nifer uchel o bobl ifanc o Gastell-nedd Port Talbot yn mynd i
Ysgol Dyffryn Aman ac efallai eu bod wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau
diweddar. Nododd yr Aelodau fod sefydliadau cymunedol wedi rhoi rhaglenni
cymorth ar waith mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt ac wedi holi a oedd
unrhyw gymorth pellach ar gael o fewn ein hawdurdod. Awgrymodd yr aelodau y
dylid rhoi cefnogaeth ar waith ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid. Dywedodd
swyddogion ei bod yn bwysig bod unrhyw gefnogaeth a ddarparwyd yn cael ei
chydlynu â Sir Gaerfyrddin, ac mai'r ysgol yw'r gymuned sydd yn y sefyllfa orau
i gefnogi pobl ifanc. Gwneir cyswllt â'r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion i
nodi a oes unrhyw gyfleoedd ar gyfer gwaith ar y cyd. Nodwyd bod y garfan o
ddisgyblion o'r fwrdeistref yn cael eu nodi drwy gludiant sy'n cael ei ddarparu
gan yr awdurdod; ni fydd disgyblion sy'n mynychu ysgolion y tu allan i'r sir ar
gofrestrau ysgol yma. Cadarnhaodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar fod profi gweithdrefnau atal
mynediad yn bwysig ac y dylid eu cynnal heb ddychryn disgyblion. Gofynnodd Aelod
y Cabinet i aelodau'r pwyllgor roi sicrwydd i rieni a chymunedau bod ysgolion
yn ddiogel a bod cynlluniau ar waith pe bai eu hangen.
|