Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cynigwyd, eiliwyd a chytunwyd y byddai'r Cyng. Phil Rogers
yn cadeirio'r cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 9, 11 a 12 ac 13 ar
Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 126 KB ·
8 Ionawr 2024 ·
1 Chwefror 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8
Ionawr 2024 ac 1 Chwefror 2024 fel cofnodion gwir a chywir. |
|
Y Diweddaraf am Bresenoldeb Disgyblion PDF 407 KB Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau a oedd problemau presenoldeb wedi'u
nodi yn gysylltiedig â disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol. Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg fod materion cludiant
yn un o lawer o resymau a roddwyd am ddiffyg presenoldeb/hwyrni. Nodwyd bod y
ffigyrau presenoldeb wedi gwella o'u cymharu â'r un cyfnod y llynedd. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r
pwyllgor Craffu) Cofnodion: Derbyn
i Ysgolion Cymunedol – Polisi Derbyniadau Ysgol (yn ôl o'r ymgynghoriad) Mynegodd
yr aelodau bryder bod gormod o geisiadau ar gyfer rhai ysgolion gan fod
lleoliadau o ddewis yn cael eu derbyn; efallai bydd disgyblion sy'n symud i'r
ardal yn ystod y flwyddyn academaidd yn gorfod
teithio pellteroedd mawr i gael lle mewn ysgol. Gofynnodd yr Aelodau a
ellid cyflwyno achos gerbron Llywodraeth Cymru am fwy o argaeledd yn ystod y
flwyddyn. Nododd
y Pennaeth Datblygu Addysg y sylwadau. Yn dilyn gwaith craffu,
cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Dysgu Oedolion Gofynnodd yr Aelodau am ragor
o wybodaeth mewn perthynas â lledaenu'r cyrsiau sydd ar gael mewn cymunedau
pellennig. Cadarnhaodd swyddogion fod
nifer mawr o gyrsiau'n cael eu cynnal ym mhrif ganolfan Tir Morfa oherwydd
trafferthion wrth sicrhau lleoliadau addas. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn
mynnu bod o leiaf wyth o gyfranogwyr fesul cwrs; lle nad yw hyn yn bosib, cynigir
cyrsiau ar sail hybrid. Mae Swyddog Ymgysylltu wedi cael ei gyflogi i weithio
gyda chymunedau anodd eu cyrraedd. Mae swyddogion cynhwysiad digidol yn
gweithio mewn cymunedau i gefnogi pobl i gynyddu eu sgiliau digidol. Holodd yr aelodau a oedd gan
y gwasanaeth gysylltiadau â chyrsiau rhianta Dechrau'n Deg fel ffordd o gefnogi
rhieni i wella presenoldeb ysgol. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod gwaith
wedi'i wneud mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg, Ysgolion yn eu Cymunedau, y
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'r Tîm o amgylch y Teulu i gyfeirio pobl at
gyrsiau perthnasol. Mae'r Swyddog Ymgysylltu Dysgu yn mynd yn rheolaidd i
ddigwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell a threfnir digwyddiadau dysgu lle mae
digon o alw. Ymgynghorir â chymunedau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol i
nodi pa gyrsiau sydd eu hangen. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddai'r
Swyddog Ymgysylltu yn croesawu cyfathrebiadau gan yr aelodau i nodi unrhyw
fylchau hyfforddi yn eu hardaloedd. Gofynnodd yr aelodau a oedd
unrhyw gysylltiadau ag oedolion sy'n ddysgwyr drwy grwpiau ieuenctid. Cadarnhaodd swyddogion fod
perthynas waith dda rhwng Dysgu Oedolion
a'r Gwasanaeth Ieuenctid a byddai cysylltiadau rhwng y gwasanaethau'n cael eu
harchwilio ymhellach. Dywedodd yr Aelodau fod nifer
y cyrsiau sydd ar gael yn galonogol ond awgrymasant y byddai'n ddefnyddiol i'r
wybodaeth gael ei lledaenu i'r holl aelodau. Cytunodd swyddogion i anfon yr
wybodaeth ymlaen at yr holl aelodau mewn perthynas â'u gwaith ymgysylltu a
byddai trafodaethau pellach ag aelodau'n cael eu croesawu. Cyfeiriodd yr aelodau at
dudalen 230 yr adroddiad a gynhwyswyd yn y pecyn agenda, a gofynnwyd am
eglurhad ynghylch rôl y Rheolwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned wrth gydlynu
prosiect â'r nod o hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd 'ôl-osod' lleol. Cadarnhaodd swyddogion fod y
gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau i helpu pobl i
wella'u sgiliau ac ennill cymwysterau. Mae'r prosiect wedi bod yn mynd rhagddo
ers llai na blwyddyn ac wedi helpu i hyrwyddo'r agenda ynni a galluogi pobl i
wella'u sgiliau. Yn dilyn craffu, nododd y
pwyllgor yr adroddiad. Gŵyl Gomedi Holodd yr aelodau a fyddai trawstoriad priodol o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 481 KB Cofnodion: Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 413 KB Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau i bapur gael ei gyflwyno yn y cyfarfod
nesaf sy'n amlinellu cyfansoddiad a Chylch Gorchwyl y gweithgor ar Hamdden
Celtic, a chynnydd llafar y grŵp, os yw ar gael. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys |