Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar
eitemau 7, 8, 9, 10, 13 a 14 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Adam Amor (Aelod Cyfetholedig) - Eitemau 8 a 13 ar
agenda Bwrdd y Cabinet – Personol, Cyfarwyddwr Cwmni sydd wedi gweithio i rai
o’r gwasanaethau a enwir ac y mae’n gwneud gwaith iddynt ar hyn o bryd. Mae
hefyd yn llywodraethwr ysgol ond mae ganddo ollyngiad i siarad a phleidleisio. Paul Walker (swyddog) - Eitem 14 ar agenda Bwrdd y
Cabinet - Personol, Rhagfarnol (bydd yn gadael yr ystafell pan drafodir yr eitem
hon) Y Cyng. J Henton – Eitem 8, Personol, Llywodraethwr
Ysgol – Mae ganddo ollyngiad i siarad a phleidleisio. Y Cyng. D Whitelock – Eitem 8, Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. N Goldup-John – Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. S Reynolds – Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. P Rees – Eitem 8 – Personol, Llywodraethwr
Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. R Mizen – Eitem 8 – Personol, Llywodraethwr
Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. W Carpenter – Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. M Crowley - Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. M Caddick (Aelod Cyfetholedig) Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. S Renkes, Eitem 8 – Personol, Llywodraethwr
Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. L Newman, Eitem 8 – Personol, Llywodraethwr Ysgol –
Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cyng. R Phillips, Eitem 8 – Personol,
Llywodraethwr Ysgol – Mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.
|
|
Yr argyfwng costau byw – y gefnogaeth a gynigir gan ysgolion PDF 259 KB Cofnodion: Darparwyd
gwybodaeth i'r aelodau mewn perthynas â'r argyfwng costau byw a’r gefnogaeth a
gynigir gan ysgolion, fel y’i dosbarthwyd o fewn yr agenda. Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau. Diolchodd aelodau i'r swyddogion am yr wybodaeth a gyflwynwyd o
fewn yr adroddiad a nodwyd. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Derbyniadau i Ysgolion (Canlyniadau'r Ymgynghoriad)
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn yr agenda a ddosbarthwyd. Gofynnodd aelodau
a oedd swyddogion wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r gwasanaeth
awtomeiddio ar gyfer derbyniadau ysgolion a drafodwyd yn flaenorol â
llywodraethwyr ysgol. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn edrych i mewn i hyn,
ond nid ydynt wedi gwneud hyn eto. Yn dilyn craffu
roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Perfformiad Chwarter 3 Ystyriodd yr
aelodau’r wybodaeth fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd gyda'r
agenda. Holodd yr aelodau ynghylch tudalen 44, C P008, sy'n
ymwneud â'r 11 o ddisgyblion sy'n astudio'r Gymraeg. Holodd aelodau a oedd digon yn cael ei wneud
i sicrhau bod nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg yn parhau i gynyddu.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod hyn yn rhan o strategaeth Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg. Er mwyn i fyfyrwyr astudio yn y Gymraeg mae angen eu bod
yn gwneud hyn o oedran cynnar. Mae hyn yn rhan bwysig o Gynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen. Gofynnodd aelodau am ragor
o wybodaeth am y dangosydd coch ar dudalen 48 sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn
gofal. Cadarnhaodd swyddogion mai un mater sy'n achosi rhai problemau yw cael y
mewnbwn angenrheidiol gan y gwasanaeth iechyd. Holodd aelodau ynghylch
cymunedau am waith ar dudalen 51 o'r adroddiad. Nododd yr aelodau ddiffyg pobl
yn cymryd rhan yn y cynllun. Cadarnhaodd swyddogion fod yr eitem hon yn ymwneud
â phobl dros 25 oed ac mae hwn yn gategori oedran anoddach i'w cyrraedd,
oherwydd sawl ffactor, cadarnhaodd swyddogion mai un o'r targedau fydd yn cael
ei rhoi ar waith fydd ymgysylltu â busnesau fel eu bod yn dweud pa sgiliau y
maent yn chwilio amdanynt. Yna gall y cynllun edrych ar sicrhau bod gan y bobl
sy'n chwilio am swydd y sgiliau cywir ar gyfer y swydd Holodd yr aelodau ynghylch
CP005 a 006 a gofynnwyd am esboniad am y gostyngiad mewn presenoldeb. Cadarnhaodd swyddogion fod presenoldeb yn un
o'r prif flaenoriaethau. Mae COVID-19 a'r adferiad dilynol wedi cael effaith
enfawr ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc, ac ymgysylltiad â'r ysgol. Mae hyn
yn cynnwys y teulu y tu ôl i'r plant ifanc. Hefyd, mae gostyngiad enfawr yng
nghyfraddau presenoldeb ddydd Gwener o'r data a ddadansoddwyd. Presenoldeb yw un o'r
targedau o fewn y Cynllun Gwella Corfforaethol a'r Cynllun Gwella Ysgol.
Amlinellodd swyddogion y gallai'r dirywiad mewn presenoldeb hefyd gael ei
briodoli i'r argyfwng costau byw. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol i
ddileu rhai o'r rhwystrau a nodwyd sy'n cyfrannu at lefelau presenoldeb isel. Amlinellodd swyddogion rai
camau a gymerwyd i fynd i'r afael â rhai materion a godwyd, gan bwysleisio y
bydd ymdrech ar y cyd dros y 12-18 mis nesaf i gael lefelau presenoldeb yn ôl
i'r lefelau cyn y pandemig. Holodd yr aelodau a allent gael gwybodaeth sy'n ymwneud â phresenoldeb ym mhob ysgol unigol yn hytrach na datganiad cyffredinol sy'n cwmpasu'r holl fwrdeistref. Gellir ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 414 KB Cofnodion: Gofynnodd aelodau a ellid darparu diweddariad
rheolaidd ar bresenoldeb i'r pwyllgor. Nododd yr aelodau'r Flaenraglen Waith gyda'r
ychwanegiad uchod. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: gwahardd y
cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4
Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Eisteddfod Genedlaethol
yr Urdd 2025 Ystyriodd yr aelodau'r
wybodaeth o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, roedd
yr aelodau'n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan y Cabinet. Trefniadau arwain –
Hamdden Celtic Ystyriodd yr aelodau'r
wybodaeth o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, roedd
yr aelodau'n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan y Cabinet. |