Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 12fed Medi, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Adam Amor, Eitem 4(c) – Personol - Mae aelodau o'i deulu'n ddisgyblion yn YGG Rhos Afan ac Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

 

Y Cyng. Alun Llewelyn Eitem, 4(d) – Personol - Llywodraethwr yn YGG Cwmllynfell

 

Y Cyng. Peter Rees, Eitem 4(f) – Personol - Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Cefn Saeson

 

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 306 KB

·       25 Gorffennaf 2024

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.

4.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet

4a

Hamdden Celtic pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg byr i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y datganiad a wnaed bod Undebau Masnach o'r farn nad oedd mewnoli'n fforddiadwy.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y datganiad yn gywir. Mae'r Undebau Llafur wedi dweud yr hoffent weld gwelliannau staff yn opsiwn C ond maent yn deall nad yw mewnoli'n fforddiadwy.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad bod Aelodau'r Cabinet wedi penderfynu gofyn i Hamdden Celtic am estyniad i'r contract.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y penderfyniad wedi'i wneud gan y Cabinet.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 18 yr adroddiad a'r cyfeiriad a wnaed at fanylion y gweithgorau. Holodd yr aelodau a oedd cofnodion y cyfarfod ar gael. Holodd yr Aelodau a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran lleihau costau a chynyddu incwm fel y trafodwyd ac fel y cytunwyd yn flaenorol pan wnaed y penderfyniad yn 2022.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod nodiadau wedi'u cymryd yng nghyfarfodydd y gweithgor. Mae'r gweithgor wedi archwilio'r costau mewnoli gan bob llinell gyllideb unigol. Newidiwyd rhai costau yn ystod y broses adolygu. Mae yna hyder bod y ffigurau mor gywir â phosib.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y paragraff olaf ond un ar dudalen 18 yr adroddiad, a gofynnwyd am gadarnhad bod aelodau'r Cabinet a swyddogion wedi cyfarfod â'r undeb llafur ym mis Ionawr 2024 i'w hysbysu'n swyddogol na fyddai gwasanaethau hamdden yn cael eu mewnoli ym mis Ebrill 2025. Nodwyd nad oedd aelodau'r Cyngor wedi cael gwybod am unrhyw newidiadau ar yr adeg hynny.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod gwybodaeth am yr oedi o ran mewnoli Hamdden Celtic wedi'i darparu ar ddiwedd 2023. Cynhaliwyd cyfarfod gyda staff Hamdden Celtic ac Undebau Llafur ym mis Ionawr 2024.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 19 yr adroddiad a gofynnwyd a rhoddwyd unrhyw ystyriaeth i arbedion posib y gellid eu gwneud drwy gydleoli gwasanaethau neu rannu adnoddau yn y model mewnoli.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod arbedion yn cael eu gwneud pan fyddant yn cael eu nodi. Ni fydd cyfleoedd tymor hwy ar gyfer arbedion yn cael eu gwireddu yn y tymor byr. Nodwyd na fyddai unrhyw un o'r opsiynau arfaethedig yn effeithio ar hyn, ac ni fydd yr arbedion dibwys a nodwyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at opsiwn 2 ar dudalen 21 a gofynnwyd sut y mae gwytnwch wedi'i wella o fewn uwch dîm arweinyddiaeth Hamdden Celtic.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod sefyllfa'r cwmni wedi gwella, yn enwedig o safbwynt masnachu. Bu rhai newidiadau ar lefel arweinyddiaeth a bwrdd ac mae gan aelodau'r bwrdd y sgiliau perthnasol sy'n ofynnol er mwyn rhedeg y busnes yn effeithlon. Cynlluniwyd i recriwtio Prif Swyddog Gweithredol newydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o fanylion am sut y gallai cronfa fuddsoddi hybu twf. Nodwyd y gallai morâl staff gwael effeithio ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a

4b

Trosolwg o gymorth y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion ar gyfer lles ysgolion a staff pdf eicon PDF 343 KB

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad ac am eu gwaith caled dan amgylchiadau anodd. Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 55 yr adroddiad a nifer y sesiynau a gollwyd a gofynnodd pa waith oedd yn cael ei wneud gydag ysgolion i leihau'r ffigwr hwn.

 

Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn anodd rhybuddio disgyblion am eu sesiynau oherwydd natur gyfrinachol cwnsela. Mae angen adolygu systemau ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn mynd i apwyntiadau ac mae gwaith yn mynd rhagddo mewn ysgolion lle mae cyfraddau absenoldeb wedi cynyddu. Nodwyd bod rhai disgyblion sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn agored iawn i niwed ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i fod yn bresennol.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

4c

Adroddiad Blynyddol Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid wrth yr aelodau fod yr adroddiad blynyddol yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed yn ystod dwy flynedd gyntaf Cynllun Strategol 10 mlynedd y Gymraeg mewn Addysg.

 

Canmolodd y Cadeirydd y staff ar eu gwaith da a gwnaeth gais i'r aelodau rannu deunyddiau hyrwyddol ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn eu cymunedau, pan fyddant ar gael.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

4d

Darparwyr Gofal Plant sy'n Rhentu mewn Ysgolion pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Bennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiad a Chyfranogiad drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda, a dywedodd nad oedd unrhyw effeithiau negyddol wedi'u nodi yn ystod y cyfnod peilot. Mae ymwybyddiaeth o broblemau ehangach o fewn y sector gofal plant ac mae ymrwymiad i gynaliadwyedd y sector yn ei chyfanrwydd.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion am eu hymdrechion wrth sicrhau bod Cynghorwyr yn deall y sefyllfa a'r gwaith y maent yn ei wneud yn y sector ehangach dan amgylchiadau anodd.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

4e

Cynnig y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion i ad-drefnu'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Cwmtawe - Caniatâd i Ymgynghori pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid wrth aelodau mai'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda oedd y cyntaf o dri adroddiad a fydd yn cyrraedd y pwyllgor craffu.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cynnig yn rhyddhau lle yng Nghwmtawe ac a ellid defnyddio hynny ar gyfer cyfleusterau ADY ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiad a Chyfranogiad wrth aelodau y cynhaliwyd adolygiad o leoedd cynlluniedig ar draws yr awdurdod i nodi angen a'r lleoliad gorau ar gyfer cyfleusterau. Cynhelir trafodaethau parhaus gydag ysgolion. Gellir adrodd canlyniad y trafodaethau hyn yn ôl i'r pwyllgor yn ddiweddarach.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

4f

Cynnig y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion i ad-drefnu'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson - Caniatâd i Ymgynghori pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

4g

Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau a oedd yr ymgynghoriad ar gyfer yr ymgyngoreion a restrir yn yr adroddiad yn unig ac a fyddai unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Cyfeiriodd yr aelodau at fesur 26, a'r sôn am ddefnyddio bysus trydan fel rhan o'r cynllun datgarboneiddio. Holodd yr aelodau a oedd yn fwriad i'r cerbydlu cyfan o fysus fod yn drydanol neu a fyddai un bws trydan yn mynd i'r afael â'r mesur.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y bydd elfen o ymgynghori cyhoeddus, fodd bynnag, oherwydd bod yr adroddiad o natur dechnegol mae'n ofynnol ymgysylltu â'r cyrff statudol a restrir yn yr adroddiad. Bydd cyhoeddusrwydd ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus. Y nod hirdymor yw trosglwyddo'r cerbydlu cyfan i gerbydau drydan ond mae costau uchel yn gysylltiedig â hyn, felly ni ellir cyflawni'r nod hwn yn y tymor byr. Nodwyd bod y cynllun gweithredu ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd a bydd yr holl gamau gweithredu a mesurau arfaethedig yn cael eu hadolygu ac ymdrinnir ag unrhyw ddiweddariadau gofynnol yn briodol.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y prosiect yn cael ei gynnal gan Iechyd yr Amgylchedd, ond ei bod yn berthnasol ei gynnwys yn y cynllun gweithredu. Mae prosiect arall mewn perthynas â phrofion bysus hydrogen yn mynd rhagddo. Nid oes gan iechyd yr amgylchedd unrhyw gysylltiad uniongyrchol, ond gellir cael gwybodaeth fel rhan o'r cynllun gweithredu, a bydd hyn yn cael ei fonitro fel cynnig fel rhan o'r cynllun gweithredu hwn wrth symud ymlaen.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

5.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

·        Dim eitemau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu

6.

Monitro Perfformiad

·        Dim eitemau i’w hystyried.

Cofnodion:

Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried.

7.

Detholiadau o eitemau i'w craffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 781 KB

A) Blaenraglen Waith y Cabinet

B) Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyngor i aelodau ynghylch eitemau newydd a ychwanegwyd at Flaenraglen Waith y Cabinet a newidiadau i Raglen Waith y Pwyllgor Craffu. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn am eitemau pellach i'w hystyried.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch maint y pecyn agenda. Nododd yr Aelodau fod y model craffu newydd yn rhoi'r gallu i'r pwyllgor craffu gymryd rhan yn gynharach, a rhoddwyd sicrwydd i swyddogion nad oedd disgwyl i adroddiadau craffu fod mor fanwl ag adroddiadau'r Cabinet.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes faint yr adroddiadau a diolchodd i'r swyddogion am y gwaith dan sylw.

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem hon o dan eitem 4A ar yr agenda.

 

 

10.

Craffu ar eitemau preifat

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem hon o dan eitem 4A ar yr agenda.

 

 

10a

Hamdden Celtic - atodiad B a C (Wedi'i eithrio o dan baragraff 14)

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem hon o dan eitem 4A ar yr agenda.