Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Dim |
|
Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y bydd sylwadau o'r
cyfarfod yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb
2024/25. Atgoffwyd yr Aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori
ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllideb nad
ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn
gynted â phosib. Atgoffwyd yr Aelodau y dylent ystyried elfennau'r gyllideb
sy'n dod o dan gylch gwaith y pwyllgor craffu hwn. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg byr o'r broses
ymgynghori. Dechreuodd ymgynghoriad y gyllideb ar 20 Rhagfyr 2023 a'r dyddiad
cau fydd 10 Ionawr 2024. Ystyriwyd bod yr amserlen hon yn ddigonol i aelodau
ystyried y cynigion a byddai'n rhoi digon o amser i swyddogion ystyried adborth
cyn cyflwyno cynigion terfynol i'r Cabinet ym mis Mawrth 2024. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o fisoedd i nodi maint y bwlch
cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar sicrhau gwasanaethau a diogelu swyddi. Rhoddodd Penaethiaid Gwasanaethau drosolwg o'r cynigion
cynilo a chynhyrchu incwm a gynhwysir yn Atodiad 4 o becyn adroddiadau'r agenda.
Mewn perthynas â Pharc Gwledig Margam (ELLL1), holodd yr
aelodau am oblygiadau'r golled staff a grybwyllwyd. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw staff yn cael eu
colli o safbwynt gweithredol gan fod y cyfeiriad yn ymwneud ag ymddeoliad hyblyg
aelod o staff, a bod y trefniant hwn yn golygu y cedwir sgiliau a phrofiad. Holodd yr aelodau ynghylch y cynigion blaenorol ar gyfer
llinell sip ym Mharc Margam. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
y byddai adroddiad llawn mewn perthynas â chyfeiriad strategol Parc Margam yn y
dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Holodd yr aelodau a fyddai'r cyllid codi'r gwastad yn
effeithio ar gynigion arbedion Theatr y Dywysoges Frenhinol (ELLL3). Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw fanylion yn hysbys ar
hyn o bryd, a chynhelir cyfarfod cynllunio'n fuan a disgwylir i'r cyfnod
datblygu bara oddeutu 12 mis. Byddai'r theatr ar gau am gyfnod sylweddol tra
bod y gwaith yn mynd rhagddo. Mewn perthynas â'r cynnig Hamdden Dan Do (ELLL4), holodd yr
aelodau ynghylch y swm uchel o arbedion a nodwyd yn yr adroddiad a'r
goblygiadau os na chaiff yr arbediad hwn ei wireddu. Holodd yr aelodau hefyd a
ystyriwyd costau dibrisiant offer a digwyddiadau byd-eang a allai achosi i
brisiau ynni godi. Cytunodd swyddogion fod angen monitro'r cynnig yn ofalus.
Byddai'r rhan fwyaf o'r incwm yn cael ei gyflawni o ganlyniad i gostau
aelodaeth ac arbedion ynni. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes y risgiau a chadarnhaodd fod dealltwriaeth o anwadalrwydd y ffigurau y gall
digwyddiadau'r byd effeithio arnynt. Mae'r ffigwr arbedion a nodir yn yr
adroddiad yn dangos gostyngiad mewn diffygion gweithredu, nid elw. Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 21 o'r adroddiad a'r sôn am oedi pellach ynghylch dod â Celtic Leisure yn fewnol a'r costau cysylltiedig. Nododd yr Aelodau fod Undebau Llafur yn adrodd am ansicrwydd staff ac effaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |