Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers E-bost: p.chivers@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 ac 13 ar Agenda Bwrdd y
Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Adam
Amor – Eitem 8 – Personol, nad yw'n niweidiol. Cyfarwyddwr Busnes sy'n gwneud
gwaith achlysurol i'r Gwasanaeth Ieuenctid. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 440 KB ·
23rd November
2023 Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir.
|
|
Diweddariad ynghylch y Cwricwlwm i Gymru PDF 335 KB Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau a oedd data'n cael ei gadw mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed gan
ysgolion wrth roi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith a gofynasant a oes unrhyw
ysgolion ar ei hôl hi. Cadarnhaodd
swyddogion fod yr holl ysgolion â disgyblion hyd at flwyddyn 8 yn cynllunio ac
yn gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru gyda phob plentyn yn symud tuag at y pedwar
diben. Mae'r modd y mesurir cynnydd yn wahanol i'r ffordd y mesurwyd cynnydd yn
flaenorol. Mae ysgolion yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o sut olwg fydd ar
gynnydd ac yn gweithredu dylunio o fewn fframwaith y cwricwlwm. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r
adroddiad. |
|
Effaith prisiau ynni ar gyllidebau ysgolion PDF 646 KB Cofnodion: Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 15 yr adroddiad, gan gwestiynu'r amserlen ynghylch y
gallu posib i osod paneli solar ffotofoltaidd mewn 14 o ysgolion. Holodd yr
aelodau hefyd ynghylch y costau posib a fydd ynghlwm wrth hyn, faint o swyddi
ychwanegol oedd eu hangen a sut y byddai'r gosodiad a'r swyddi ychwanegol yn
cael eu hariannu. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid, ar hyn o bryd, fod arolwg bwrdd
gwaith wedi'i gynnal, gyda darpar ysgolion yn cael eu nodi oherwydd eu lleoliad
a'r math o do sydd ganddynt. Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Gyfarwyddiaeth
yr Amgylchedd a gofynnir am ddiweddariad ac adroddir yn ôl wrth y pwyllgor am y
cynnydd. Nododd
aelod cyfetholedig y camau lliniaru a grybwyllir yn yr adroddiad ond
cwestiynodd a ellid edrych ymhellach ar fesuryddion a thaliadau sefydlog
dyddiol. Bydd gan ysgolion ar fwy nag un safle sawl blwch mesurydd gydag
amryfal ffioedd sefydlog. Bydd
Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yn gofyn am eglurder ar y mater
hwn gan gydweithwyr yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac yn hysbysu'r pwyllgor
hwn ynghylch y canfyddiadau. Yn
dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu To
select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny
(Cabinet Board reports included for Scrutiny Members) Cofnodion: Panel Ymgynghorol
Sefydlog Cyfeiriodd yr
Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad a holwyd y weithdrefn ar gyfer recriwtio i'r
pwyllgor, yn enwedig recriwtio cynrychiolydd sy'n anffyddiwr. Cadarnhaodd
swyddogion y gall gweithdrefnau recriwtio amrywio yn ôl Cynghorau Ymgynghorol
Sefydlog (CYS). Y nod yw sicrhau ystod eang o gynrychiolaeth o bob ffydd a
chredo sy'n berthnasol i'r sir.
Cysylltir â phrif swyddfeydd sefydliadau perthnasol i ofyn am
gynrychiolydd gwir a chytbwys. Unwaith y bydd unigolyn yn cael ei nodi, cynhelir
trafodaethau yn y CYS a gwneir penderfyniad grŵp ar addasrwydd,
perthnasedd a phriodoldeb yr unigolyn. Gall recriwtio cynrychiolydd sy'n
anffyddiwr fod yn fwy heriol ond mae'n ofynnol iddo gydymffurfio â Deddfwriaeth
Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Cysylltir â sefydliadau a grwpiau anffyddiol dibynadwy
i gyflwyno cynrychiolydd ac eir ati i archwilio hanes yr ymgeisydd. Yn dilyn gwaith
craffu, cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Diweddariad ar y
Gwasanaeth Ieuenctid Gofynnodd yr aelodau
a oedd y gwasanaeth yn dal i brofi anawsterau wrth recriwtio gweithwyr
ieuenctid cymwys yn enwedig ar gyfer y gweithgareddau gwaith sesiynol.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a holwyd ynghylch lefel y
cyfranogiad yn y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg cyntaf yn Nhrebannws. Cadarnhaodd
swyddogion fod cynnydd y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebannws yn
gadarnhaol. Mae 173 o gysylltiadau wedi bod o fewn Trebannws ac aelodaeth y
clwb ar hyn o bryd yw 29 o fechgyn ac 16 o ferched. Cadarnhaodd swyddogion fod
anawsterau bob amser wrth recriwtio staff ond bod y sefyllfa ar y trywydd iawn
ar hyn o bryd gyda dau glwb ieuenctid yn ailagor. Nododd y Pennaeth
Datblygu Addysg fod Castell-nedd Port Talbot mewn sefyllfa fwy cadarnhaol na
rhai awdurdodau lleol eraill gan fod staff yn dewis gweithio yma oherwydd y
safonau uchel. Nodwyd y gallai recriwtio barhau i fod yn broblem oherwydd natur
y swydd ac mae hwn yn fater cenedlaethol. Roedd y ddwy don recriwtio flaenorol
yn llwyddiannus ac mae clybiau wedi ailagor yn sgîl ailgyflogi pobl sy'n derbyn
swyddi rhan-amser. Yn genedlaethol, mae'n anodd cyflawni'r disgwyliad o gael
staff sesiynol â chymwysterau lefel uchel. Croesawodd y
Cadeirydd y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebannws gan nodi'r gwahaniaeth
y mae wedi'i wneud i'r gymuned a diolchodd i'r holl staff. Gofynnodd y
Cadeirydd a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer grwpiau ieuenctid Cymraeg pellach yn
y sir. Cadarnhaodd swyddogion fod y clwb diwethaf a agorwyd wedi'i ariannu'n
allanol, ac y byddai angen cyllid a staff ychwanegol er mwyn gallu agor rhagor
o glybiau. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â datblygiad
cyffredinol Cymru gyda digwyddiad dathlu'n cael ei gynnal y llynedd ac ymweliad
â Llangrannog i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, ond mae angen cyllid ychwanegol
yn y tymor hir. Cadarnhaodd y
Pennaeth Datblygu Addysg fod y gwasanaeth ieuenctid wedi cysylltu â Bronwen
Lewis sy'n cefnogi datblygiad cerddorol yn y Gymraeg. Holodd yr aelodau a
oedd unrhyw glybiau dwyieithog yn y sir. Cadarnhaodd swyddogion, mewn perthynas â , fod staff yn darparu un sesiwn/digwyddiad cynyddu ymwybyddiaeth cyfrwng Cymraeg ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor PDF 385 KB Cofnodion: Nodwyd
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 417 KB Cofnodion: Mewn
perthynas â'r adroddiad diweddaru ynghylch presenoldeb disgyblion a drefnwyd ar
gyfer 14 Mawrth, gofynnodd yr aelodau a ellid dosbarthu adroddiad arolygu
thematig gan Estyn. Cadarnhaodd
y Pennaeth Datblygu Addysg y byddai adroddiad Estyn yn cael ei atodi fel
atodiad i'r adroddiad. Nodwyd
y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Access
to Meetings to resolve to exclude the public for the following item(s) pursuant
to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act
1972 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the above
Act. Cofnodion: Penderfynwyd:
bod y cyhoedd yn cael eu gwaharddo'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag
Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu To
select appropriate private items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision
Scrutiny (Cabinet Board reports enclosed for Scrutiny Members) Cofnodion: Sefydliad
Brenhinol y Bad Achub Cenedlaethol Yn dilyn craffu,
cefnogodd yr Aelodau'r argymhelliad gyda'r ychwanegiad 'fod goruchwyliaeth yn
cael ei ehangu i 8.00pm gyda'r nos i sicrhau diogelwch wrth iddi nosi.' |