Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 20fed Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2024 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Diweddariad - Parodrwydd am argyfwng pdf eicon PDF 412 KB

Cofnodion:

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Amlinellodd swyddogion rai o'r pwyntiau allweddol a godwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd swyddogion y bwriedir cyflwyno Castell-nedd Port Talbot yn Barod yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, a fydd yn gweithio i gynyddu cadernid cymunedol. Gwahoddir aelodau etholedig i gyfrannu i helpu i roi cynlluniau cadernid penodol ar gyfer wardiau ar waith.

 

Roedd yr aelodau'n ymwybodol bod parhad busnes a'r gofrestr risgiau wedi cael eu hystyried a'u diweddaru'n rheolaidd. Fodd bynnag, cydnabyddir bod anawsterau o ran diweddaru'r eitemau a hefyd sicrhau bod pwysigrwydd rhoi cynlluniau parhad busnes ar waith ym mhob adran unigol o fewn yr awdurdod lleol yn cael ei gydnabod. Mae'n bwysig bod aelodau'n llwyr werthfawrogi pa mor hanfodol ydynt i gynnal isadeiledd y Cyngor.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y gofrestr risgiau'n cael ei diweddaru a'i chyflwyno i’r Grŵp Cyfarwyddwyr Corfforaethol a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwarter ac yn cael ei hystyried gan y Cabinet bob chwe mis. Gan gyfeirio at y cynlluniau parhad busnes, mae pob rheolwr atebol yn gyfrifol am sicrhau bod un ar waith ar gyfer ei wasanaeth. Bydd y manylion a gynhwysir yn y cynllun yn cael eu pennu gan y math o wasanaeth ac unrhyw gamau cyflawni hanfodol a nodwyd.

 

O ran ysgolion, mae cynllun 'Ysgolion Cydnerth' yn mynd i gael ei lansio ar y cyd â'r Adran Addysg. Yn flaenorol, bu anhawster wrth bennu cynlluniau cydnerthedd ar gyfer ysgolion gan nad oedd y fframwaith cynllunio parhad busnes corfforaethol yn diwallu anghenion yr ysgolion. Fodd bynnag, gwnaed gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i addasu'r fframwaith fel bod ysgolion yn cael eu hystyried yn llawn ar gyfer parhad busnes.

 

Holodd yr aelodau a oedd trafodaeth wedi bod â Chynghorau Tref a Chymuned. Cadarnhaodd swyddogion fod cwmpas y Tîm Cynllunio Rhag Argyfyngau yn cynnwys yr awdurdod lleol yn unig. 

Cadarnhaodd swyddogion fod y Tîm Cynllunio Rhag Argyfyngau yn cael ei sefydlu i ymateb i argyfyngau penodol iawn. Fe'i sefydlwyd o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib. Pe bai digwyddiad mawr yn cael ei gyhoeddi, o dan y Ddeddf mae gan y Cyngor gyfrifoldebau statudol i ymateb yn unol â hynny. Nid yw'r tîm wedi'i gynllunio i ymateb i unrhyw beth a ddisgrifir fel argyfwng. Mae'n benodol iawn yn ei rôl o dan y Ddeddf.

 

Holodd yr aelodau faint o waith a wnaed mewn perthynas â gwerthusiadau terfysgol sy'n benodol i safle, cynlluniau gweithredu diogelwch a chynlluniau a lliniaru yn erbyn cerbydau gelyniaethus. Dywedodd swyddogion na ellir darparu gwybodaeth benodol am yr eitem hon oherwydd materion diogelwch. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau fod eitemau parhaus yn cael eu datblygu.

 

Rhoddodd swyddogion fanylion am yr ymarferion a gynhaliwyd mewn perthynas ag argyfyngau sifil. Mae'r ymarfer cyntaf yn ymwneud â NPT Connect ac yn profi ymateb y Tîm Teledu Cylch Cyfyng mewn perthynas â galwadau ffôn posib gan Heddlu De Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae ail ran yr ymarfer yn cynnwys tîm swyddogion ar ddyletswydd strategol yr awdurdod ac ymarfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Craffu Cyn Penderfynu

·        To select appropriate items from the Cabinet (Policy and Resources) Sub agenda for pre-decision scrutiny (cabinet reports enclosed for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau.

 

6.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 422 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

To resolve to exclude the public for the following item(s) pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the above Act.

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau yn breifat, felly nid oedd angen yr eitem hon.

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        To select appropriate items from the Cabinet (Policy and Resources) agenda for pre-decision scrutiny (cabinet reports enclosed for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau.