Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 9fed Ionawr, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai unrhyw eitemau o Fwrdd y Cabinet yn cael eu craffu.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 371 KB

·       17 Hydref 2023

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd y Cadeirydd y byddai'r sylwadau o’r cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad ar y gyllideb. Atgoffwyd yr aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn gynted â phosib.

 

Atgoffwyd yr aelodau y dylent ystyried yr elfennau o'r gyllideb sy'n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor craffu hwn.

 

Aeth yr Aelodau drwy'r llinellau cyllideb perthnasol.

 

Holodd yr Aelod a oedd unrhyw adborth gan y cyhoedd ynghylch cau'r desgiau arian parod. Cadarnhawyd na chafwyd unrhyw adborth gan y cyhoedd. Amlinellodd swyddogion y trefniadau amgen sydd ar waith.

 

Cadarnhaodd swyddogion y bydd cymorth AD yn cael ei ddarparu i rai o'r prosiectau adfywio allanol. Er enghraifft, Porthladdoedd Rhydd, ac ailgodir tâl am hyn fel y bo'n briodol.

 

Gofynnodd yr Aelod am gadarnhad ynghylch y sefyllfa o ran colli swyddi. Cadarnhaodd swyddogion y bydd swyddi'n cael eu colli, ond ni fydd unrhyw effaith ar y staff presennol. Ni fydd unrhyw ddeiliaid swyddi presennol yn colli eu swyddi. Os bydd unrhyw bwysau ar dimau o ganlyniad, bydd hyn yn cael ei reoli drwy reoli newid.

 

Amlinellodd swyddogion y cynigion ar gyfer gwneud y gorau o wasanaethau yn y Swyddfa Gofrestru. Roedd yr aelodau'n falch o weld syniadau arloesol yn cael eu defnyddio.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod ffïoedd yn ymwneud â thrwyddedau yn orfodol ledled Cymru.

 

Gofynnodd yr Aelodau eglurder o ran ailgodi tâl am y gwasanaethau a nodwyd. Cadarnhaodd Swyddogion fod nifer y ceisiadau i'r Cyngor ymgymryd â gwaith cyfreithiol ar faterion annadleuol ar gyfer sefydliadau, er enghraifft Cynghorau Tref a Chymuned, wedi cynyddu. O ganlyniad bydd yr awdurdod yn ailgodi tâl am y gwaith hwn.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch ailddyrannu cyllid Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru (CBC). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau i'r CBC. Yn flaenorol, mae'r symiau o arian a dderbyniwyd ar gyfer y gwasanaethau hyn wedi'u rhoi mewn cyfrif cyffredinol, fodd bynnag bydd y symiau hyn yn awr yn cael eu hystyried yn incwm parhaus o safbwynt cyllidebu.

 

O ran yr adolygiad o ffonau symudol, bydd hwn yn ystyried ffonau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n llawn. Mae yna hefyd adolygiad parhaus o lungopiwyr, a lle mae nifer yr argraffiadau’n werth llai na £3000 y flwyddyn, bydd copïwyr yn cael eu tynnu.

 

Cadarnhawyd bod incwm yn ymwneud â Chytundebau Lefel Gwasanaeth yn ymwneud â sefydliadau allanol.  Bydd Cytundebau Lefel Gwasanaeth ychwanegol hefyd yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â theledu cylch cyfyng a fydd yn arwain at incwm ychwanegol.

 

Nodwyd y bydd premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi yn cael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth. Mae swyddogion wedi bod yn ochelgar o ran incwm posib yr eitem hon, os caiff ei chymeradwyo gan y Cabinet. At ddibenion y polisi, ystyrir bod y tymor hir yn flwyddyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau.

 

6.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 438 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar yr eitem hon.

 

9.

Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau preifat.