Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Ebrill, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cyng. Rebecca Phillips - Eitem 7 ar bapurau bwrdd y Cabinet parthed: Y Diweddaraf am CCTV yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng gan ei bod yn aelod o Gyngor Tref Pontardawe.

 

3.

Diweddariad Argyfwng Costau Byw pdf eicon PDF 435 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad am yr argyfwng costau byw.

 

Rhoddwyd y diweddaraf i'r aelodau ynghylch ymateb parhaus y cyngor i'r argyfwng costau byw, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nododd aelodau y bu nifer o atgyfeiriadau i'r cynllun rhyddhad caledi, a gofynnwyd a oedd unrhyw ôl-groniad. Hysbysodd swyddogion yr aelodau y byddent yn adrodd yn ôl am hyn yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mai 2023 yn dilyn trafodaethau gyda Cymru Gynnes.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cysyniad cychwynnol y Cynllun Rhyddhad Caledi

 Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn wreiddiol er mwyn cefnogi'r rheini a oedd yn derbyn budd-daliadau, yn ogystal â’r rheini a oedd yn gweithio ac yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw bresennol. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod meini prawf wedi'i bennu i ganiatáu i amrywiaeth ehangach o etholwyr wneud cais am y cyllid, fodd bynnag byddent yn trafod â Cymru Gynnes i ofyn am ddata pellach er mwyn dadansoddi a oedd y cynllun yn targedu'r rheini y mae angen yr arian arnynt. 

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Y Diweddaraf am CCTV yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng

 

Diweddarwyd yr aelodau ynghylch CCTV ac ymateb, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad am y cais am CCTV yn ardal Pontardawe. Cadarnhaodd swyddogion fod potensial i ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU i osod CCTV ar gyfer Cyngor Tref Pontardawe.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cyfathrebu â'r cyhoedd am y newidiadau i CCTV, megis monitro 24/7, ynghyd â chyfarpar newydd wedi'i ddiweddaru. Soniwyd hefyd fod angen ystyried parhau i ymgysylltu â Heddlu De Cymru. Cadarnhaodd swyddogion fod y tîm cyfathrebiadau wedi cael y dasg o hysbysu'r cyhoedd am y newidiadau i fonitro 24/7 drwy ddatganiad i'r wasg, a bod ymgysylltu â Heddlu De Cymru yn parhau.

 

Gofynnodd aelodau i bennu'r meini prawf o ran ble i osod y camerâu gyda'r pwyllgor, er mwyn cael dealltwriaeth o sut caiff y camerâu hyn eu gosod a'u monitro.

 

Trafodwyd y goblygiadau ariannol, a theimlwyd nad oedd manylion ariannol cefnogi CCTV wrth symud ymlaen wedi cael eu cynnwys yn yr effeithiau. Nodwyd y byddai gwybodaeth ar wahân am y sefyllfa ariannol yn cael ei rhannu ag aelodau yn ogystal â thempled yr adroddiad i'w ystyried, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth briodol yn cael ei chynnwys wrth symud ymlaen.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 431 KB

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i'r aelodau am y Flaenraglen Waith. Hysbyswyd yr aelodau y byddai sesiwn Flaenraglen Waith yn cael ei threfnu i ganiatáu i'r Pwyllgor lunio Blaenraglen Waith bellach, yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor.

 

6.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni datganwyd unrhyw fuddiannau.