Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Cynhyrchu Incwm a'r Broses Hyd Yma

Cyflwyniad – Andy Griffiths, Cy.dlynydd Masnachol

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau gyflwyniad gan swyddogion gyda'r diweddaraf am gynnydd Cynhyrchu Incwm. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth cefndir am rôl y Cydlynydd Masnachol ac yna esboniad o'r cynnydd ar brosiectau fel y Bartneriaeth Llochesi Bysus a Noddi Cylchfannau yn ogystal ag arbedion a mesurau effeithlonrwydd a wnaed. Tynnodd swyddogion sylw at ddigwyddiadau ar y gweill a sut byddai ganddynt y potensial i gynhyrchu incwm, elwa cymunedau a busnesau yn ogystal â sut mae noddwyr wedi helpu i dalu costau ar gyfer digwyddiadau eraill. Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys prosiectau eraill a chyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm.

 

Gofynnodd aelodau sut y byddai'r cyllid a gynhyrchwyd gan y llochesi bysus newydd yn cael ei wario. Esboniodd swyddogion fyddai'r incwm yn mynd yn ôl i'r maes gwasanaeth a byddai'n cael ei gynnwys yng nghyllideb y Llochesi Bysus.

 

Roedd gan aelodau ddiddordeb mewn darganfod a oedd cyfleoedd i hysbysebu ar Fabian Way ac ar hyd y rheilffordd wedi cael eu harchwilio. Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau fod ymholiadau wedi cael eu gwneud ynghylch y rheini sy'n berchen ar dir ar hyd Fabian Way a'r hysbysfyrddau ar ymyl y ffordd. Nodwyd bod nifer o gwmnïau'n awyddus i osod sgriniau digidol yn yr ardal honno. Dywedodd swyddogion y byddant yn ystyried hysbysebu ar hyd Fabian Way yn ystod y broses gynllunio. Esboniodd swyddogion hefyd nad yw rhai cefnffyrdd dan reolaeth awdurdodau lleol a gallant fod o dan reolaeth Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA).

 

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi siarad â'u cymheiriaid yn Abertawe am y baneri ar bolion lampau ar Fabian Way wrth deithio i Abertawe. Roedd gan Abertawe ganiatâd gan yr adran gynllunio i osod baneri ar y llain ganol wrth deithio i Abertawe. Bydd swyddogion yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud rhywbeth tebyg ar Fabian Way o fewn ffiniau Castell-nedd Port Talbot wrth ystyried goblygiadau cynllunio. 

 

Codwyd pryderon am ddichonoldeb hysbysebu ar y cylchfannau a theimlai bod posibilrwydd y gallai bod yn hyll.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch Cynhyrchu Incwm a'r potensial ar gyfer defnyddio gwasanaethau statudol i gynhyrchu incwm. Nodwyd nad oedd cynhyrchu incwm drwy wasanaethau statudol wedi cael ei archwilio, fodd bynnag, byddent yn ystyried hwn yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaethau ynghylch seremonïau gwobrwyo, esboniodd swyddogion strwythur y gwobrwyon.  Nodwyd bod y noddwyr yn prynu byrddau ar hyn o bryd sy'n golygu nad oedd angen i enillwyr y gwobrwyon a'u teuluoedd dalu i fod yn bresennol ar gyfer y digwyddiad. Mae hwn yn lliniaru unrhyw bwysau ariannol gan fod digwyddiadau o'r math hwn yn gallu bod yn ddrud.

 

Esboniodd swyddogion fod y gwaith a wnaed ym Margam a'r Gnoll wedi bod yn enillfawr iawn, a rhoddwyd cefnogaeth i geisio cael mwy o staff er mwyn galluogi rhagor o waith rhagweithiol i geisio ennill refeniw hysbysebu.

 

Rhoddodd aelodau clod i'r swyddogion am eu gwaith o fewn y prosiectau a'u hymdrechion i Gynhyrchu Incwm yn ystod cyfnodau heriol o ran y gyllideb.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r cyflwyniad.

 

5.

Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllidebol 2023-24 pdf eicon PDF 918 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau'r pwyllgor graffu Cynigion Cyllidebol Drafft ar gyfer 2023/24 a oedd yn caniatáu i'r pwyllgor craffu fwydo i mewn i'r broses ymgynghori.

 

Gofynnodd Cadeirydd Craffu i aelodau'r pwyllgor craffu ddarparu unrhyw awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu incwm neu gyfleoedd am arbedion ar gyfer y gyllideb.

 

Gofynnodd aelodau gwestiwn ynghylch tudalen 24 o'r gyllideb atodol a oedd yn nodi bod y setliad dros dro yn nodi bod £100,000 wedi cael ei neilltuo ar gyfer diweddaru'r gwasanaethau digidol. Roedd yr aelodau am wybod a oedd unrhyw sicrwydd y byddai'r £100,000 yn cael ei ddiogelu o hyd pe bai'r asesiad dros dro'n newid. 

 

Esboniodd swyddogion fod arwyddion o Lywodraeth Cymru'n awgrymu ni fyddai'r setliad terfynol yn is na'r un dros dro felly dylai bod y swm yn cael ei ddiogelu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd yr adroddiad a bydd unrhyw sylwadau a godwyd yn cael eu cynnwys o fewn yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb.

 

6.

Rhaglen Gwaith Cychwynnol 2022/23 pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

 

7.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.