Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·       Dethol eitemau priodol o is-agenda (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir is adroddiadau’r Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Adroddiad Blynyddol 2021-2022 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

 

Derbyniodd yr aelodau Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2021-2022 i'w ystyried cyn ei gyhoeddi yn unol â gofynion statudol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Holodd yr Aelodau am ganlyniad y tri Archwiliad Mewnol a gwblhawyd mewn perthynas â'r Asesiadau Effaith Integredig. Gofynnwyd pa hyfforddiant oedd yn mynd i gael ei ddarparu, beth oedd y materion blaenorol gydag asesiadau effaith integredig a oedd wedi arwain at hyfforddiant pellach ac a fyddai angen hyfforddiant ar aelodau. Eglurodd swyddogion fod hyfforddiant wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno i swyddogion yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ac y byddai aelodau'n derbyn hyfforddiant yn eu rôl benodol o fewn asesiadau effaith integredig. Nodwyd mai’r pryder yn bennaf oedd cwblhau Asesiadau Effaith Integredig mewn modd amserol.

 

Tynnodd y pwyllgor sylw at yr wybodaeth gan Estyn mewn perthynas ag Aflonyddu Rhywiol mewn Ysgolion. Roedd yr aelodau'n deall bod y cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd yn ymdrin â'r pwnc hwn mewn sesiynau hyfforddi. Fodd bynnag, nododd yr aelodau fod y pryder o ran cydraddoldeb a blaengynllunio mewn perthynas â'r ysgolion uwchradd. Gofynnodd y Pwyllgor felly i’r Cadeirydd Addysg, Sgiliau a Lles sicrhau bod y Pwyllgor yn ystyried sut yr eir i'r afael â'r mater hwn mewn ysgolion uwchradd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Adroddiad Blynyddol Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2021-2022

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Strategaeth Hybu'r Gymraeg ar gyfer 2021-2022 i'r Aelodau, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Trafodwyd bod bwriad o fewn y strategaeth i gynhyrchu rhestr o eiriau/ymadroddion i'w defnyddio mewn cyfarfodydd gan y di-Gymraeg i annog y defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd/ymadroddion. Fodd bynnag, teimlwyd bod hyn wedi datblygu’n organig dros amser, gan leihau’r angen uniongyrchol am restr ‘swyddogol’. Nodwyd y byddai hyn yn ddefnyddiol i aelodau a gofynnwyd i restr gael ei chynhyrchu a'i nodi yn nodiadau briffio'r Cadeirydd.

 

Awgrymodd yr aelodau, wrth adolygu'r strategaeth sydd i ddod, y dylid gwahaniaethu'n glir rhwng rolau a chyfrifoldebau o fewn yr awdurdod a chyda'r partneriaid.

 

Trafodwyd amserlen adrodd y Strategaeth. Nodwyd nad oes unrhyw beth wedi'i nodi yn Safonau’r Gymraeg o ran y cyfnodau adrodd, maen nhw ond yn datgan bod cynllun strategol 5 mlynedd i’w gynhyrchu a’i gyhoeddi. Fodd bynnag, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi blaenoriaethu darparu adroddiadau blynyddol sy'n cyd-fynd â therfynau amser corfforaethol eraill.

 

Holodd yr aelodau ynghylch pwynt 1.2.3 'Ystyried effeithiau datblygiadau tai newydd ar dwf addysg Gymraeg neu'r effaith ar gymunedau lle siaredir Cymraeg', yn y strategaeth gan holi ynghylch y cynnydd. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai angen iddynt drafod â'r swyddog perthnasol a darparu ymateb y tu allan i'r cyfarfod.

 

Holwyd hefyd ynghylch pwynt 3.1.6 'Sicrhau bod y gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng Nghwm Tawe yn gyfyngedig, gyda chynllun gweithredu wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer yr ardal a gweithio ochr yn ochr â Thŷ’r Gwrhyd i effeithio’n strategol ar yr ardal.' Nodwyd mai ychydig o gynnydd a wnaed ar hyn a gofynnwyd beth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 398 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

4.

Eitem Frys

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.