Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 7fed Mawrth, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni datganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 370 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Diweddariad Gwasanaethau Cwsmeriaid pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn dilyn trosglwyddo'r gwasanaeth o'r Gwasanaethau Digidol i Pobl a Datblygu Sefydliadol o fewn Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad PowerPoint i'r Aelodau.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch ymarferoldeb y system deleffoni a'r data y mae'n ei gasglu. Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb yn nhaith lawn y cwsmer i sicrhau yr ystyrir unrhyw welliannau posib. Nododd Swyddogion y byddai unrhyw sylwadau a godwyd yn y cyfarfod heddiw yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad.

 

Hysbyswyd yr Aelodau am ap y cyngor a oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i helpu gyda thaith y cwsmer. Roedd yr Aelodau'n falch bod hwn yn disodli ap y cyngor sydd wedi dyddio.

 

Roedd yr Aelodau am i Swyddogion ystyried yr etholwyr hynny nad ydynt yn defnyddio TG ac i sicrhau bod system ar waith i wneud yn siŵr bod yr adolygiad yn cynnwys pob etholwr.

 

Cynigodd yr Aelodau Craffu eu cefnogaeth i'r Swyddogion i helpu gyda'r adolygiad ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Nodwyd bod gan yr Aelodau ddiddordeb mewn cynnal sesiwn grŵp gorchwyl a gorffen/gweithdy undydd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Arian Grant y Trydydd Sector - Ceisiadau Ychwanegol am gyllid

 

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y ceisiadau ychwanegol ar gyfer grant y trydydd sector a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau swyddogol, fel y nodir yn yr adroddiad preifat.

 

Rhannodd yr Aelodau eu pryderon ynghylch hwyrni'r ceisiadau ychwanegol. Nodwyd bod meini prawf a dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u gosod ac yn y dyfodol roeddent am bwysleisio i'r sefydliadau hynny bwysigrwydd gwneud cais o fewn y dyddiad cau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol

 

Ceisio cymeradwyaeth Aelodau mewn perthynas â chais am grant a dderbyniwyd, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nodwyd bod y cais wedi'i adrodd i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar 24 Ionawr 2023, fodd bynnag, adroddwyd am y ward a'r fangre anghywir. Adroddwyd yn gywir am hyn bellach fel ward Pontardawe a'r fangre y cyfeirir ati yw Canolfan Gymunedol y Groes, Stryd Fawr, Pontardawe.

 

Rhannodd yr Aelodau bryderon mewn perthynas ag adrodd am y fangre anghywir, fodd bynnag, roeddent yn deall ei fod yn gamgymeriad a sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau y byddai proses yn cael ei rhoi ar waith i sicrhau bod adroddiadau'n cael eu hadrodd yn gywir.

 

Nodwyd bod 209 o gyfrifon wedi derbyn ardrethi gorfodol a dewisol. Gofynnod yr Aelodau am restr o'r 209 o gyfrifon. Cadarnhaodd Swyddogion y byddai rhestr yn cael ei rhannu ag Aelodau, fodd bynnag, roeddent am roi sicrwydd bod pob cais yn mynd trwy broses feini prawf rymus.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

Diweddariad Strategaeth Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot 2023

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am

Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad PowerPoint.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch yr hyfforddiant gorfodol y mae'n ofynnol i bob aelod o staff ei gyflawni i sicrhau bod gan yr holl staff wybodaeth am GDPR a hyfforddiant diogelwch i helpu i atal unrhyw broblemau seiberddiogelwch. Nodwyd bod rheolwyr yn cael gwybod am y rheini sydd wedi cwblhau unrhyw hyfforddiant perthnasol a'u bod yn cael gwybod am y rheini nad ydynt wedi'i gwblhau.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y cyfyngiadau o ran lawrlwytho apiau ar eu iPads. Eglurodd Swyddogion fod cyfyngiadau ar waith i helpu gyda diogelwch ac i atal unrhyw lawrlwythiadau twyllodrus posib. Nodwyd os oedd angen unrhyw apiau sy'n ymwneud â gwaith ar Aelodau, byddai angen iddynt siarad â'r adrannau Gwasanaethau Democrataidd a TG.

 

Gofynnodd yr Aelodau am i'r cynllun gweithredu gynnwys dyddiadau cau er mwyn caniatáu i'r pwyllgor craffu ymgymryd â'i rôl o graffu ar y cynllun yn y dyfodol.

Nodwyd nad oedd y cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn cynnwys y cynllun gweithredu llawn oherwydd y cynnwys sensitif. Fodd bynnag, nodwyd y byddai dyddiad cau yn cael ei gynnwys ar gyfer pob cam gweithredu a restrwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd

o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf

Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dileu Ardrethi Busnes

 

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu ardrethi busnes fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.