Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John 01639 673745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai unrhyw eitemau o
Fwrdd y Cabinet yn cael eu craffu. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 371 KB · 17 Hydref 2023 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
17 Hydref 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Amlinellodd
y Cadeirydd y byddai'r sylwadau o’r cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol
i’r ymgynghoriad ar y gyllideb. Atgoffwyd yr aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan
o'r broses ymgynghori ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer
arbedion cyllidebol nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall
swyddogion eu hystyried cyn gynted â phosib. Atgoffwyd
yr aelodau y dylent ystyried yr elfennau o'r gyllideb sy'n dod o dan gylch
gorchwyl y pwyllgor craffu hwn. Aeth
yr Aelodau drwy'r llinellau cyllideb perthnasol. Holodd
yr Aelod a oedd unrhyw adborth gan y cyhoedd ynghylch cau'r desgiau arian
parod. Cadarnhawyd na chafwyd unrhyw adborth gan y cyhoedd. Amlinellodd
swyddogion y trefniadau amgen sydd ar waith. Cadarnhaodd
swyddogion y bydd cymorth AD yn cael ei ddarparu i rai o'r prosiectau adfywio
allanol. Er enghraifft, Porthladdoedd Rhydd, ac ailgodir tâl am hyn fel y bo'n
briodol. Gofynnodd
yr Aelod am gadarnhad ynghylch y sefyllfa o ran colli swyddi. Cadarnhaodd
swyddogion y bydd swyddi'n cael eu colli, ond ni fydd unrhyw effaith ar y staff
presennol. Ni fydd unrhyw ddeiliaid swyddi presennol yn colli eu swyddi. Os
bydd unrhyw bwysau ar dimau o ganlyniad, bydd hyn yn cael ei reoli drwy reoli
newid. Amlinellodd
swyddogion y cynigion ar gyfer gwneud y gorau o wasanaethau yn y Swyddfa
Gofrestru. Roedd yr aelodau'n falch o weld syniadau arloesol yn cael eu
defnyddio. Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau fod ffïoedd yn ymwneud â thrwyddedau yn orfodol
ledled Cymru. Gofynnodd
yr Aelodau eglurder o ran ailgodi tâl am y gwasanaethau a nodwyd. Cadarnhaodd
Swyddogion fod nifer y ceisiadau i'r Cyngor ymgymryd â gwaith cyfreithiol ar
faterion annadleuol ar gyfer sefydliadau, er enghraifft Cynghorau Tref a
Chymuned, wedi cynyddu. O ganlyniad bydd yr awdurdod yn ailgodi tâl am y gwaith
hwn. Gofynnodd
yr Aelodau am wybodaeth ynghylch ailddyrannu cyllid Cyd-bwyllgor Corfforedig De
Orllewin Cymru (CBC). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau
i'r CBC. Yn flaenorol, mae'r symiau o arian a dderbyniwyd ar gyfer y
gwasanaethau hyn wedi'u rhoi mewn cyfrif cyffredinol, fodd bynnag bydd y symiau
hyn yn awr yn cael eu hystyried yn incwm parhaus o safbwynt cyllidebu. O
ran yr adolygiad o ffonau symudol, bydd hwn yn ystyried ffonau nad ydynt yn
cael eu defnyddio'n llawn. Mae yna hefyd adolygiad parhaus o lungopiwyr, a lle
mae nifer yr argraffiadau’n werth llai na £3000 y flwyddyn, bydd copïwyr yn
cael eu tynnu. Cadarnhawyd
bod incwm yn ymwneud â Chytundebau Lefel Gwasanaeth yn ymwneud â sefydliadau
allanol. Bydd Cytundebau Lefel
Gwasanaeth ychwanegol hefyd yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â theledu
cylch cyfyng a fydd yn arwain at incwm ychwanegol. Nodwyd y bydd premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi yn cael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth. Mae swyddogion wedi bod yn ochelgar o ran incwm posib yr eitem hon, os caiff ei chymeradwyo gan y Cabinet. At ddibenion y polisi, ystyrir bod y tymor hir yn flwyddyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu). Cofnodion: Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 438 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Ni chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau
Craffu) Cofnodion: Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau preifat. |