Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John 01639 673745
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni datganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 370 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|||
Diweddariad Gwasanaethau Cwsmeriaid PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r
Aelodau mewn perthynas â Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn dilyn trosglwyddo'r
gwasanaeth o'r Gwasanaethau Digidol i Pobl a Datblygu Sefydliadol o fewn
Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad
PowerPoint i'r Aelodau. Cafwyd trafodaethau ynghylch
ymarferoldeb y system deleffoni a'r data y mae'n ei gasglu. Roedd gan yr
Aelodau ddiddordeb yn nhaith lawn y cwsmer i sicrhau yr ystyrir unrhyw
welliannau posib. Nododd Swyddogion y byddai unrhyw sylwadau a godwyd yn y
cyfarfod heddiw yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad. Hysbyswyd yr Aelodau am ap y cyngor a
oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i helpu gyda thaith y cwsmer. Roedd yr
Aelodau'n falch bod hwn yn disodli ap y cyngor sydd wedi dyddio. Roedd yr Aelodau am i Swyddogion
ystyried yr etholwyr hynny nad ydynt yn defnyddio TG ac i sicrhau bod system ar
waith i wneud yn siŵr bod yr adolygiad yn cynnwys pob etholwr. Cynigodd yr Aelodau Craffu eu
cefnogaeth i'r Swyddogion i helpu gyda'r adolygiad ar Wasanaethau Cwsmeriaid.
Nodwyd bod gan yr Aelodau ddiddordeb mewn cynnal sesiwn grŵp gorchwyl a
gorffen/gweithdy undydd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Arian Grant y Trydydd Sector -
Ceisiadau Ychwanegol am gyllid Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth
ddiweddaraf am y ceisiadau ychwanegol ar gyfer grant y trydydd sector a
dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau swyddogol, fel y nodir yn yr adroddiad preifat. Rhannodd yr Aelodau eu pryderon
ynghylch hwyrni'r ceisiadau ychwanegol. Nodwyd bod meini prawf a dyddiad cau ar
gyfer ceisiadau wedi'u gosod ac yn y dyfodol roeddent am bwysleisio i'r
sefydliadau hynny bwysigrwydd gwneud cais o fewn y dyddiad cau. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol Ceisio cymeradwyaeth Aelodau mewn
perthynas â chais am grant a dderbyniwyd, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nodwyd bod y cais wedi'i adrodd i
Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar 24 Ionawr 2023, fodd bynnag,
adroddwyd am y ward a'r fangre anghywir. Adroddwyd yn gywir am hyn bellach fel
ward Pontardawe a'r fangre y cyfeirir ati yw Canolfan Gymunedol y Groes, Stryd
Fawr, Pontardawe. Rhannodd yr Aelodau bryderon mewn
perthynas ag adrodd am y fangre anghywir, fodd bynnag, roeddent yn deall ei fod
yn gamgymeriad a sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau y byddai proses yn cael ei
rhoi ar waith i sicrhau bod adroddiadau'n cael eu hadrodd yn gywir. Nodwyd bod 209 o gyfrifon wedi derbyn
ardrethi gorfodol a dewisol. Gofynnod yr Aelodau am restr o'r 209 o gyfrifon.
Cadarnhaodd Swyddogion y byddai rhestr yn cael ei rhannu ag Aelodau, fodd
bynnag, roeddent am roi sicrwydd bod pob cais yn mynd trwy broses feini prawf
rymus. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Diweddariad Strategaeth
Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot 2023 Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r
Aelodau am Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor
Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad
PowerPoint. Cafwyd trafodaethau ynghylch yr
hyfforddiant gorfodol y mae'n ofynnol i bob aelod o staff ei gyflawni i sicrhau
bod gan yr holl staff wybodaeth am GDPR a hyfforddiant diogelwch i helpu i atal
unrhyw broblemau seiberddiogelwch. Nodwyd bod rheolwyr yn cael gwybod am y
rheini sydd wedi cwblhau unrhyw hyfforddiant perthnasol a'u bod yn cael gwybod
am y rheini nad ydynt wedi'i gwblhau. Holodd yr Aelodau ynghylch y
cyfyngiadau o ran lawrlwytho apiau ar eu iPads. Eglurodd Swyddogion fod cyfyngiadau
ar waith i helpu gyda diogelwch ac i atal unrhyw lawrlwythiadau twyllodrus
posib. Nodwyd os oedd angen unrhyw apiau sy'n ymwneud â gwaith ar Aelodau,
byddai angen iddynt siarad â'r adrannau Gwasanaethau Democrataidd a TG. Gofynnodd yr Aelodau am i'r cynllun
gweithredu gynnwys dyddiadau cau er mwyn caniatáu i'r pwyllgor craffu ymgymryd
â'i rôl o graffu ar y cynllun yn y dyfodol. Nodwyd nad oedd y cynllun gweithredu a
gyhoeddwyd yn cynnwys y cynllun gweithredu llawn oherwydd y cynnwys sensitif.
Fodd bynnag, nodwyd y byddai dyddiad cau yn cael ei gynnwys ar gyfer pob cam
gweithredu a restrwyd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.
|
|||
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 411 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|||
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd
i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol
yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r
paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet
ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dileu Ardrethi Busnes Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth
ddiweddaraf am ddileu ardrethi busnes fel y nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. |